Ail-ddilysu

Mae’n rhaid i bob meddyg sydd yn ymarfer meddygaeth ail-ddilysu. Mae ail-ddilysu yn eich cefnogi i ddatblygu eich ymarfer, yn ysgogi gwelliannau mewn llywodraethu clinigol ac yn rhoi hyder i’ch cleifion bod yr hyn ydych yn ei ddysgu yn gyfredol.

Mae angen i chi sicrhau eich bod yn diweddaru eich Corff Dynodedig ar GMC Ar-lein (eich cyfrif GMC Connect). Mae hynny yn sicrhau bod eich Swyddog Cyfrifol dros Ail-ddilysu bob amser yn gywir. Mae’r GMC yn darparu ‘offeryn cysylltu’  er mwyn eich helpu os nad ydych yn sicr pwy yw eich Corff Dynodedig, a bydd angen i chi sicrhau eich bod yn diweddaru eich cysylltiad os byddwch yn symud at gyflogwr newydd a/neu yn symud eich practis.

Fel arfer bydd argymhelliad ail-ddilysu yn cael ei wneud bob pum mlynedd, ond gall hynny ddigwydd yn fwy aml os bydd eich Bwrdd Iechyd a/neu GMC yn tybio ei bod yn ofynnol ail-ddilysu yn gynharach.

Ffynhonnell: Y Cyngor Meddygol Cyffredinol: Canllawiau ar gyfer Meddygon: gofynion ar gyfer ailddilysu a chynnal eich trwydded.

Sut mae cael fy arfarnu?

Bydd angen i chi gwblhau eich arfarniadau blynyddol, yn cynnwys y safonau gwybodaeth gofynnol yn ‘beth sydd angen i mi ei gynnwys?’  Bydd gan eich RO fynediad i’r arfarniadau yma ar MARS a byddant yn defnyddio’r wybodaeth hon i roi argymhellion ail-ddilysu i’r GMC. Byddwch yn derbyn hysbysiad am hynny drwy e-bost. Bydd hynny, ynghyd ag absenoldeb pryderon ynghylch llywodraeth clinigol yn rhoi digono wybodaeth i’ch RO roi argymhelliad priodol.

Swyddog Cyfrifol

Mae yna un Swyddog Cyfrifol ar gyfer pob Corff Dynodedig, sydd yn gyfrifol am anfon argymhellion ail-ddilysu i’r GMC. Os ydych angen manylion cyswllt eich Swyddog Cyfrifol lleol e-bostiwch HEIW.RSURevQA@wales.nhs.uk.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau