Addysgu a Hyfforddi (goruchwylwyr clinigol OOH)

Gall eich gwaith allan o oriau olygu eich bod yn goruchwylio addysg cofrestryddion meddygon teulu. Os ydych yn perfformio’r rôl yma dylech nodi hyn yn Adran 2 eich dogfen arfarnu ar-lein. Os ydych yn hyfforddwr meddygon teulu yn ystod oriau, bydd ond angen i chi gofnodi’r tro olaf y cawsoch ymweliad ail-gymeradwyo. Os nad ydych yn hyfforddwr, bydd yr adran ganlynol yn eich helpu i gofnodi eich mewnbwn i hyfforddiant OOH.

Gallwch lawrlwytho templed yma

Gellir defnyddio’r enghraifft ganlynol yn flynyddol yn eich arfarniad - gan ganiatáu i’ch arfarniad gynnwys “ymarfer yn ei gyfanrwydd”:-

Dyddiad cwrs goruchwyliaeth addysgol

Ionawr 2013

Pa mor aml rydych yn goruchwylio cofrestrydd?

Rwyf yn gweithio 2 shifft yr wythnos a bydd cofrestryddion ar gyfartaledd yn mynychu tua bob yn ail sesiwn.

Crynodeb byr o sut mae hynny yn gweithio yn eich achos chi

Fel arfer y sesiwn y mae’r cofrestryddion yn eu mynychu yw fy sesiwn cymysg yn y ganolfan a brysbennu dros y ffôn. Mae hynny yn gweithio’n eithriadol o dda oherwydd bod y cofrestrydd yn dod i gysylltiad â’r ddau fath o ymgynghori. I ddechrau bydd y cofrestrydd yn perfformio brysbennu gyda fi yn eistedd wrth eu hochr, a phan maent yn fwy profiadol byddant yn brysbennu ar eu pennau eu hunain ac yn adrodd yn ôl i mi ar achosion. Heb os, mae yna ostyngiad yn swm y gwaith i ddechrau, ond digolledir am hynny a mwy yn ddiweddarach pan fyddwn yn gallu cydweithio. Mae’r ymgynghoriadau yn y ganolfan yn gymysgedd o ymarfer dan oruchwyliaeth ac ymarfer annibynnol, ac mae’r llwyth gwaith yn adlewyrchu'r brysbennu dros y ffôn.

Mae gen i 30 munud wedi ei ymgorffori i ddiwedd fy shifft er mwyn cwblhau unrhyw waith papur ac er mwyn trafod achosion gyda’r cofrestrydd.

Myfyrio ar y broses

At ei gilydd rwyf yn mwynhau sesiynau gyda’r cofrestrydd, mae fy llwyth gwaith yn cael ei ysgafnhau ac yna caf gyfle i ddefnyddio’r amser a arbedir er mwyn goruchwylio a helpu’r cofrestrydd i’r graddau sydd yn briodol. Ar brydiau bydd angen i mi gymryd yr awenau er mwyn cyflymu ymgynghoriadau os bydd y galw yn uchel, ond eithriad yw hynny yn hytrach na’r drefn. Buaswn yn hapus o wneud mwy o hyn.

A oes angen i chi newid eich ymarfer yn y maes yma?

Nid wyf yn credu - Rwyf yn dysgu am y broses o oruchwylio ac yn teimlo bod gennyf ddigon o amser i wneud hynny.

Mae nifer o feddygon yn cyflawni dyletswyddau tu allan i oriau ac yn ystod oriau, a  gallai hynny effeithio ar iechyd os bydd yr oriau yn rhy hir, ac achosi straen. Efallai y byddwch yn dymuno trafod hyn gyda’ch arfarnwr, yn benodol delio â’ch wythnos waith, strategaethau i ddelio â straen ac unrhyw faterion penodol ynghylch y cydbwysedd rhwng amseroedd gweithio y tu allan i oriau ac yn ystod oriau.

Os ydych yn gweithio OOH yn unig, efallai y byddwch yn dymuno myfyrio ar unrhyw faterion iechyd sydd yn deillio o weithio shifftiau a sut ydych yn osgoi straen sydd yn gysylltiedig ag “ynysu proffesiynol” posibl.

Gallwch lawrlwytho templed syml yma

Crynodeb o wythnos waith

Rwyf yn gweithio i fy mhractis ac yn cyflawni rhai dyletswyddau y tu allan i oriau (fel y manylwyd ar hynny yn “fy ngweithgareddau”). Rwyf yn gweithio pedwar diwrnod yr wythnos yn y practis gyda dyddiau Mawrth i ffwrdd. Rwyf yn tueddu i ymlacio ar fy nyddiau i ffwrdd yn garddio neu yn gwneud DIY o gwmpas y tŷ, nofio neu yn achlysurol byddaf yn gwneud gwaith locwm mewn practisau yn lleol (rwyf wedi gwneud hynny am y 3 blynedd diwethaf).

Mae fy ngwaith y tu allan i oriau yn cynnwys  sesiwn min nos reolaidd ar dyddiau Llun (6-12pm) a gwaith achlysurol ar benwythnosau pan fyddaf yn cael fy nghontractio fel arfer ar fyr rybudd i lenwi ar ran cydweithwyr nad ydynt yn gallu cyflawni eu sesiynau.

A yw gwaith yn effeithio ar fywyd y cartref a  bywyd cymdeithasol?

Mae gennyf deulu ifanc a hoffwn gadw fy mhenwythnosau yn rhydd, mae’r nosweithiau Llun rheolaidd yn effeithio ychydig yn yr ystyr y byddaf fel arfer yn mynychu’r ganolfan OOH yn syth o’r gwaith yn y feddygfa. Ar wahân i hynny mae gen i nosweithiau Mawrth i fi fy hun ac fel arfer byddaf yn nôl y plant o’r ysgol, ac yn amlach na pheidio byddwn wedi cynllunio gweithgaredd ar gyfer y noson honno. Rwyf hefyd yn gorffen yn gynnar ar ddyddiau Iau a byddaf adref yn syth ar ôl i’r plant gyrraedd. At ei gilydd, mae yna beth effaith ond nid yw’n arwyddocaol, ac wrth i amser fynd yn ei flaen mae’n mynd yn llai ac yn haws. Erbyn hyn mae OOH yn llai beichus na threfniadau blaenorol.

A oes yna unrhyw faterion sydd angen mwy o drafodaeth?

Fel y datganwyd yn fy mhrif ddogfennau arfarnu, nid oes gennyf unrhyw broblemau iechyd ar hyn o bryd ac nid yw’n ymddangos bod fy ngwaith OOH yn ychwanegu baich.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau