Cofnodion meddygol

Mae cadw cofnodion meddygol yn rhan bwysig o waith proffesiynol unrhyw feddyg; mae’n hyd yn oed mwy hanfodol allan o oriau. Yn aml iawn y cysylltiad cyntaf rhwng y claf a’r meddyg fydd yn gweithio OOH fydd y tro cyntaf a’r unig dro fydd y claf yn gweld y meddyg hwnnw. Felly mae’r cofnod meddygol yn bwysig er mwyn cofnodi’r rhyngweithio rhag ofn y gwneir cwyn ac er mwyn hwyluso dilyniant gyda meddyg teulu y claf yn ystod oriau. Mae yna nifer o faterion pwysig y mae angen eu cofnodi, a gall fod yn ddefnyddiol defnyddio’r templed isod er mwyn archwilio eich cofnodion.

Byddai hynny yn enghraifft dda o gynnal (neu wella) ansawdd. Petaech yn gweld lle i wella gallech wneud y newidiadau angenrheidiol ac ail-wneud yr ymarfer, byddai hynny yn cydweddu â disgrifiad y GMC o weithgaredd gwella ansawdd.

Mae templed ar gyfer hwyluso casglu data ar gael yma  

Enghraifft 4
Cyflwyno Cwyn Hyd y symptomau a gofnodwyd PMH Hanes Teuluol Hanes Cymdeithasol Hanes o Gyffuriau / Statws Alergedd Canfyddiadau archwiliad a gofnodwyd (yn cynnwys rhai -ve) Diagnosis clir Rhagnodiad neu gynllun gweithredu wedi ei gofnodi Rhwyd ddiogelwch
Y N N Y Y N Y Y
Y Y Y Y Y Y Y Y
Y Y N Y Y Y Y N
Y N N N Y N Y Y
Y Y Y N Y Y N Y
Y N Y N Y Y N Y
Y Y Y Y Y Y Y Y
Y N N Y Y Y Y Y
Y N N Y Y Y Y Y
Y N N Y Y Y Y N
Y Y Y Y N N N N
Y Y N N N Y Y Y
Y Y N Y Y Y Y Y
Y Y Y N Y Y N Y
Y Y Y Y Y Y N Y
Y Y Y Y N Y Y Y
Y N N Y Y Y Y Y
Y Y N Y Y N N Y
Y N Y N Y Y Y Y
Y Y Y Y Y N N N

Beth mae’r canfyddiadau yn ei ddweud wrthych am eich cofnodion meddygol?

Roedd hwn yn brofiad diddorol i mi, ceisiais roi fy hun mewn sefyllfa fel pe na bawb wedi gweld y claf er mwyn gweld  a oedd yna  ddigon o wybodaeth i feddyg allu caffael digon o wybodaeth o’r cofnodion meddygol er mwyn deall beth ddigwyddodd yn yr ymgynghoriad. Roeddwn yn synnu o sylwi na oedd o leiaf 5 o’r ugain achos yn rhoi deilliant terfynol ac nad oedd y diagnosis yn glir. Yr un maes yr oeddwn yn teimlo ble nad oeddwn wedi cofnodi gwybodaeth y byddwn wedi holi y claf amdano oedd ynghylch cyffuriau a hanes meddygol, ni chofnodais negatifau (h.y. dim cyffuriau neu ddim PMH).

A oes yna unrhyw bwyntiau dysgu neu gamau yn deillio o’r ymarferiad yma?

Oes - byddaf yn ymdrechu’n galetach i gofnodi negatifau a byddaf yn cofnodi deilliant pob ymgynghoriad hyd yn oed os mai dim diagnosis posibl neu ddim camau i’w cymryd fyddai’r deilliant hwnnw. Byddaf yn ailadrodd yr ymarferiad yma y flwyddyn nesaf er mwyn cymharu.
Rwyf yn deall pwysigrwydd rhwyd ddiogelwch ac roeddwn dan yr argraff fy mod bob amser yn cofnodi hynny, ond hepgorwyd hynny ar rai achlysuron felly bydd angen i mi fod yn fwy gwyliadwrus.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau