Dadansoddi llythyrau atgyfeirio– cynnwys

Awgrymir eich bod yn edrych yn fanwl ar 10 llythyr atgyfeirio acíwt yr ydych wedi eu hysgrifennu yn olynol. Bydd y person yr ydych wedi ei atgyfeirio ato yn cyfarfod â’r claf am y tro cyntaf (fel arfer) ac mae hanes llawn am y claf yn bwysig. Mae’n debygol y bydd y claf yn aciwtaidd wael, ac efallai y byddwch yn gallu rhoi gwybodaeth bwysig i’r meddyg sydd yn derbyn y claf. Gwiriwch y llythyrau atgyfeirio am y manylion canlynol, ac os yn briodol awgrymwch newidiadau. Fel meddyg teulu OOH efallai na fydd gennych fynediad at  yr holl wybodaeth fyddai gan feddyg arferol y claf, ac efallai y byddai hynny yn bwynt diddorol i fyfyrio arno. Efallai y byddwch yn dymuno cynnwys eich myfyrdodau am y materion  a nodwyd a’r pwyntiau dysgu ar MARS, a chynnwys eich dadansoddiad fel dogfennaeth ategol ychwanegol.

Gallwch lawrlwytho templed yma.

Rheswm dros atgyfeirio Hanes y gwyn Hanes meddyginiaeth, alergeddau Canfyddiadau archwiliad Hanes Seicogymdeithasol Perthnasol Hanes Meddygol
Y Y Y Y N N
Y Y N Y N Y
Y Y Y Y N N
Y Y Y N Y Y
Y Y N Y Y N
Y Y Y N N N
Y Y N Y N Y
Y Y Y Y Y Y
Y Y N Y N Y
Y Y Rhannol Y Y Y

Materion a nodwyd

Pan edrychais ar fy llythyrau atgyfeirio roddwn yn eithaf hapus bod yna ddigon o dystiolaeth am y rheswm dros atgyfeirio a hanes am y gwyn a gyflwynwyd yn yr holl lythyrau a archwiliwyd. Roedd yr hanes am feddyginiaethau yn rhesymol ar y cyfan, ond yn brin mewn rhai, allai fod yn bwysig. Roeddwn yn llawer gwaeth am gofnodi hanes seicogymdeithasol a hanes meddygol, ac mae hynny efallai yn adlewyrchiad o beidio ag adnabod y claf cyn yr ymgynghoriad. Ond efallai y buaswn mewn lle gwell i gael y wybodaeth hon o’i gymharu â’r meddyg fyddai’n derbyn y claf.

Pwyntiau dysgu

Roedd fy llythyrau atgyfeirio ar brydiau o ansawdd dda, ond roedd yna le i wella, roedd yna un yn benodol nad oedd yn cynnwys digon o wybodaeth. Mae’r gwasanaeth OOH yn darparu llythyrau derbyn strwythuredig i ni, ac rwyf yn syml wedi bod yn anwybyddu’r penawdau ac ysgrifennu testun rhydd. Byddaf yn ymdrechu i lenwi’r bylchau hyd yn oed gyda sylwadau negyddol (e.e. dim hanes meddygol perthnasol) Byddaf yn ail archwilio hyn y flwyddyn nesaf.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau