Derbyniadau brys

Mae meddyg teulu sydd yn gweithio yn OOH yn debygol o dderbyn nifer o bobl i ysbyty yn ystod pob shifft - yn enwedig os bydd yn perfformio sesiwn “symudol”. Hefyd bydd yna nifer o ffactorau fydd yn dylanwadu ar y penderfyniad i dderbyn na fyddai o reidrwydd yn bodoli mewn ymgynghoriad yn ystod oriau. Dyma rai ffactorau y byddwch efallai yn dymuno eu hystyried:-

  • Diffyg gwybodaeth flaenorol am y claf
  • Diffyg cymorth (nyrsio, canlyniadau labordy, perthnasau etc.) OOH
  • Anhawster wrth archwilio’r claf (os caiff ei weld mewn cartref â golau gwael heb unrhyw gyfleusterau archwilio)
  • “Pethau’n ymddangos yn waeth yn ystod y nos”
  • Alcohol +/- cyffuriau
  • Eich anghenion eich hun o ran amser - e.e. 5 claf yn disgwyl am alwad

Mae’n debyg bod yna nifer o amgylchiadau eraill sydd yn effeithio ar y penderfyniad hwnnw. Gall yr adran ganlynol eich helpu i ddadansoddi y pwysau sydd arnoch i anfon claf i ysbyty a hefyd i’ch galluogi i drafod cymysgedd o achosion a welir mewn sefyllfa frys.

Er mwyn dilyn cynnydd y claf wrth anfon i ysbyty, byddai’n ddoeth cael caniatâd y claf ar gyfer hynny ar adeg ei dderbyn i ysbyty.

Cofnodwch 10 o achosion dilynol Allan o Oriau pan ystyriwyd anfon i ysbyty. Mae penderfyniad pwrpasol i beidio ag anfon yr un mor bwysig a phenderfyniad i anfon. Mae templed ar gyfer hwyluso casglu data ar gael yma

Gellir defnyddio’r ymarferiad yma i adnabod anghenion dysgu a datblygiadol, gellid hefyd ei ddefnyddio er mwyn helpu i hysbysu eich PDP nesaf.

Gallai enghraifft a gwblhawyd edrych fel hyn:-

Manylion clinigol Rhesymau dros ystyried anfon i ysbyty Derbyniwyd Y/N A oedd yn bosibl dilyn yr achos Trafodaeth - allai’r deilliant fod wedi bod yn wahanol
Plentyn 6 mis oes gyda thymheredd uchel, ddim yn bwyta ac yn chwydu Dim ffocws amlwg i haint, 10pm mam yn boenus Y Na Mae’r plentyn wedi bod yn wael am 12 awr ac yn gwaethygu - ni roddwyd calpol. Dim ffocws amlwg i haint a’r plentyn yn boeth iawn - peth pwysau cymdeithasol o ran anfon i’r ysbyty (mam yn byw ar ei phen ei hun ac yn methu ymdopi)
Benyw 27 oed gyda phoen pelfig ar yr ochr chwith, a 5 wythnos ers LMP Ectopig posibl Y Na Rwy’n credu bod hwn yn dderbyniad priodol - ni ellid disgwyl tan y bore oherwydd y risg o waedu difrifol
Benyw 86 oed mewn cartref nyrsio yn ddryslyd iawn ac yn gwaeddi (2am) Pwysau gan y nyrs oedd yn gyfrifol oherwydd yr amharwyd ar breswylwyr eraill N N/A Ymddangos fel cyflwr dryslyd tocsig acíwt. Nid oedd y nyrs yn adnabod y claf yma ond roedd yn amlwg o’r cofnodion bod y ddynes yma wedi cael pyliau blaenorol oedd yn ymateb i wrthfiotigau - rhoddwyd rhagnodiad
Dyn 45 oed â poen difrifol yn ei ochr dde, rhoddwyd IM dicloffenac a chyngor i alw’n ôl 1 awr yn ddiweddarach os na fyddai’n well. Colig arennol N N/A Byswn wedi gallu anfon y claf yma ac mae’n debyg y byddwn wedi gwneud hynny rai blynyddoedd yn ôl. Ond erbyn hyn mae’r gallu i adalw wedi gwella gymaint ac roedd y dyn yma wedi setlo’n sylweddol - cyngor i weld ei feddyg ei hun y diwrnod canlynol
Plentyn 3 oed â D+V am 3 diwrnod a ddim yn cadw hylifau ac yn ddifywyd (11pm) Plentyn yn wael ac wedi dadhydradu Y Na Ei feddyg teulu ei hun wedi ei weld yn gynharach yn ystod y dydd - cynghorwyd i gymryd symiau bach o hylif - plentyn ddim yn gallu goddef hyd yn oed sipiau - angen ei dderbyn i ysbyty
Plentyn 18 mis â phoen yn yr abdomen a dolur rhydd Pwysau eithafol gan y tad (? Alcohol) Y Na Nid oedd y plentyn angen ei dderbyn ond yr amgylchiadau cymdeithasol yn wael, tad yn ymosodol iawn ac nid oedd gennyf wir ddewis - llythyr i’r meddyg teulu yn amlygu hynny
Dyn 74 oed yn byw gyda’i wraig. Peswch a thymheredd uchel am 3 diwrnod ar Amoxicillin , ddim gwell, anhawster cysgu (11.30pm) Dyn yn eithaf sâl Y Na Nid wyf yn credu bod derbyn yn briodol ar ôl myfyrio. Dim arwyddion corfforol yn y frest ac er yn dwymynol roedd yn eithaf llathraidd ac yn gallu cerdded o gwmpas - claf olaf ar fy shifft - tybed?
Dynes ddiabetig 67 oed symptomau UTI a lefelau siwgr uchel Math 2 DM ar inswlin - lefelau siwgr capilarïaidd 19, 21 a 17 yn ystod y 3 awr ddiwethaf Colli rheolaeth ddiabetig a haint Y Na Nid oeddwn yn sicr beth i’w roi yn gyngor i’r ddynes yma mewn perthynas â’i inswlin ac ni allwn wirio ei hwrin am getonau, felly anfonais hi i’r ysbyty
Dyn 52 oed wedi cael 3 phwl o boen byr yn y frest yn ystod y 48 awr diwethaf Pyliau o angina posibl Y Na Dyn iau ag angina newydd posibl, roeddwn yn teimlo’n fwy cyfforddus yn ei anfon er gwaetha’r ffaith ei fod yn iawn ac nad oedd unrhyw arwyddion corfforol
Bachgen 14 oed gyda hanes 12 awr o boen yn ochr dde yr abdomen Pendics posibl Y Na Rhoddodd stori o boen cynyddol fel colic yn yr abdomen a dolurus yn RIF

Pwyntiau dysgu a nodwyd o’r achosion hyn

Cymrodd 3 sesiwn (18 awr) i mi gasglu’r 10 achos. Rwyf yn teimlo bod y rhan helaeth o’r achosion yma yn dangos gofal clinigol priodol. Ond mae yna bedwar achos y byddwn efallai wedi eu trin yn wahanol petaent wedi bod yn gleifion fy hun yn ystod oriau.

Rwyf yn cofio’n dda iawn yr ymgynghoriad ynghylch y plentyn 18 mis oed a’r tad ymosodol. Roeddwn yn teimlo dan fygythiad a dewisais yr opsiwn hawdd i dynnu fy hun allano sefyllfa anodd. Cyfeiriais at y broblem ynghylch y tad ymosodol gyda’i feddyg teulu ei hun ac ar ôl i mi adael y cartref fe ffoniais yr SHO Paediatreg i’w rhybuddio. Nid oedd angen derbyn y plentyn i’r ysbyty o safbwynt meddygol, ond rwyf yn credu nad oedd gen i lawer o ddewis. Nid wyf yn aml yn cael problemau gyda chleifion ymosodol OOH ond roedd yr achos hwnnw yn fy atgoffa bod yna broblemau o ran diogelwch personol yn codi ar brydiau. Mae yna ddigwyddiad wedi ei gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf fydd yn delio â’r claf ymosodol a byddaf yn gwneud pob ymdrech i’w fynychu.

Efallai nad oedd y dyn 74 oed gyda pheswch yr anfonais i’r ysbyty yn ddewis priodol. Roeddwn wedi cyrraedd diwedd fy shifft ac roeddwn yn flinedig, roedd yn haws ei anfon i’r ysbyty. Rwyf wedi myfyrio ar y penderfyniad hwnnw a byddaf yn gwneud pob ymdrech i beidio gwneud hynny eto.

Mae’r ddynes ddiabetig 67 oed gyda’r UTI oed yn colli rheolaeth diabetig yn codi dau fater. I ddechrau, nid oedd gennyf yr offer priodol (ketostix) - ers hynny rwyf wedi trafod hynny gyda’r Cyfarwyddwr Meddygol OOH ac erbyn hyn maent yn rhan o’r offer safonol ( yn ddigon rhyfedd byddent wedi bod ar gael yn y ganolfan). Yr ail fater yw pwynt dysgu personol - nid oeddwn yn teimlo’n hyderus o gwbl o ran addasu dos inswlin y ddynes (y gwir reswm dros ei hanfon i ysbyty). Rwyf wedi cael problemau cyffelyb yn ystod oriau ac rwyf wedi nodi bod diabetes yn gyffredinol yn un o fy anghenion dysgu, ond erbyn hyn gyda mwy a mwy o gleifion diabetig Math -2 yn newid i inswlin rwyf angen diweddaru fy nulliau rheoli.

Roedd y dyn 52oed gafod 3 phwl byr o boen yn y frest wedi creu anhawster i mi, ac oherwydd eu bod wedi swnio’n gardiaidd o ran natur, fy ngreddf oedd ei anfon i’r ysbyty. Wrth fyfyrio ar hynny roedd y pyliau yma yn gysylltiedig â rhuthro i fyny bryn ger ei gartref a phob un wedi para am 3 munud - mae’n debyg y dylwn fod wedi rhoi chwistrelliad GTN, cyngor i gymryd pwyll a’i atgyfeirio at ei feddyg teulu ei hun y diwrnod canlynol. Rwyf yn teimlo ychydig yn ddryslyd gydag archwiliad acíwt am angina newydd posibl, ac oherwydd hynny efallai bod angen i mi ddarllen protocolau lleol.

Camau i’w cymryd/newidiadau i’w gwneud

O ystyried yr uchod hoffwn wneud y newidiadau canlynol:

  • Mynychu digwyddiad ynghylch delio â’r claf ymosodol
  • Dysgu mwy am ddiabetes - yn benodol materion ynghylch defnyddio inswlin mewn math-2 DM
  • Archwilio fy mhatrwm atgyfeirio unwaith eto er mwyn adnabod y cleifion yr wyf yn eu hanfon i’r ysbyty fel “opsiwn hawdd” efallai
  • Canfod protocolau lleol neu genedlaethol mewn perthynas â rheoli angina sydd yn dechrau o’r newydd
  • Archwilio ffyrdd o ddilyn achosion a dderbyniwyd i ysbyty allan o oriau o fy adborth dysgu personol.

Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau