Gofal brys

Fel meddyg OOH mae’n debygol y byddwch yn dod ar draws sefyllfaoedd brys. Efallai byddwch yn dymuno dangos bod eich gwybodaeth yn gyfredol yn y maes yma (e.e. cwrs adfywio etc.), nodi anghenion dysgu neu ddangos eich sgiliau ymarferol. Byddai cofnodi digwyddiad arwyddocaol yn ddewis arall wrth ddangos eich ymarfer.

Gallwch lawrlwytho templed syml yma.

Mae’r ddwy enghraifft isod yn dangos hyfforddiant a chymhwyso ar waith:-

Disgrifiad o’r digwyddiad

Mynychais gwrs adfywio a drefnwyd gan y darparwr OOH, roedd hynny yn cynnwys hyfforddiant ar ddefnyddio’r pecyn adfywio newydd a diffibrileiddwyr.

Beth ddigwyddodd? Beth a ddysgwyd/ddangoswyd? 

Mae’r gwasanaeth OOH yn ddiweddar wedi diweddaru ei becyn adfywio, gyda photeli ocsigen newydd, bagiau adfywio a diffibrileiddwyr. Diweddarais fy ngwybodaeth am gymorth bywyd elfennol ac erbyn hyn rwyf yn ymwybodol o’r canllawiau diweddaraf gan Gyngor Adfywio’r DU. Roedd y wybodaeth yma yn bwysig, oherwydd mae newidiadau wedi bod ers fy niweddariad olaf. Yn bwysicaf oll nodais ddau bwynt dysgu o bwys : -

  • Dysgais bod yna ddwy falf erbyn hyn ar y silindrau ocsigen penodol a ddefnyddir. Roeddwn yn rhyfeddu nad oedd yr un o fy nghydweithwyr wedi cael y wybodaeth yma  chwaith. I ddechrau cefais drafferth cael yr ocsigen i lifo. Fel grŵp rydym wedi gofyn i’r darparwr OOH gynhyrchu sticeri sydd yn nodi hynny i ddefnyddwyr posibl yn y dyfodol.
  • Defnyddio diffibrileiddwyr newydd - roedd hynny yn hanfodol i fy ngwaith OOH oherwydd bod y math newydd o beirannau yn wahanol iawn i’r rhai yr wyf wedi eu defnyddio o’r blaen. Mae’r sesiwn hyfforddiant yma wedi fy ngalluogi i gael hyfforddiant dan oruchwyliaeth ar sut mae eu defnyddio, ac mae’n ymddangos y gall unrhyw un eu defnyddio mewn gwirionedd.

Mae gennyf dystysgrif ar gael i’w archwilio sydd yn dangos fy mod wedi cwblhau’r hyfforddiant.

Myfyrio ar y digwyddiad, a oes yng anghenion dysgu eraill? 

Yn y gorffennol rwyf wedi teimlo bod diweddariadau adfywio wedi bod ychydig yn ddiflas, ac nad oedd llawer o wybodaeth newydd yn cael ei rhoi, os o gwbl. Ond fe roddodd y sesiwn yma wybodaeth hanfodol a sgiliau ymarferol i mi. Ni fyddwn wedi mynychu’r digwyddiad yma oni bai ei fod yn orfodol er mwyn parhau i weithio mewn OOH oherwydd rwyf yn cael diweddariadau rheolaidd yn fy mhractis fy hun. Petawn heb fynychu, rwyf yn sicr na fyddai pethau wedi mynd cystal petawn angen adfywio claf (gweler digwyddiadau arwyddocaol). Nawr byddaf yn ymdrechu i fynychu diweddariadau blynyddol a drefnir gan y darparwr OOH.

Disgrifiad o’r digwyddiad

Roeddwn yn gweithio ym meddygfa’r ganolfan pan daeth dyn 57 oed i fy ngweld, roedd ganddo PMH math 2 DM ac roedd wedi bod yn teimlo’n benysgafn ac yn chwyslyd ers 4 awr. Pan gyrhaeddodd roedd yn amlwg ei fod yn dioddef rhyw fath o ddigwyddiad cardiaidd a gofynnais ar unwaith i’r derbynnydd ffonio am ambiwlans 999 a gofyn i feddyg arall y ganolfan i ymuno â mi. Yna cafodd y claf drawiad ar y galon a dechreuodd y ddau ohonom geisio ei adfywio.

Cwblhawyd y pecyn adfywio, a chanfuwyd llwybr aer o faint priodol yn hawdd. Roedd fy nghydweithiwr a finnau wedi mynychu diweddariad adfywio a drefnwyd gan y darparwr OOH (tystysgrif ar gael i’w archwilio) ac wedi cael hyfforddiant gyda diffibrileiddiwr y ganolfan. Llwyddwyd i adfywio’r claf yma ac roedd yn ymwybodol pan gyrhaeddodd yr ambiwlans. Darganfyddais yn ddiweddarach ei fod wedi gadael yr ysbyty 10 diwrnod yn ddiweddarach.

Beth ddigwyddodd? Beth a ddysgwyd/ddangoswyd? 

Rwyf yn teimlo bod hyn yn dangos nifer o faterion

  • Hyfforddiant priodol
  • Defnydd priodol o offer
  • Gwaith tîm
  • Gweithredu’n bersonol yn gyflym ac effeithlon mewn achos brys
  • Adnabod claf gwael yn syth

Myfyrio ar y digwyddiad, a oes yng anghenion dysgu eraill? 

Fy ymateb cyntaf oedd rhyddhad bod fy nghydweithiwr yn bresennol hefyd yn y ganolfan, olygodd bod yr adfywio wedi bod yn fwy effeithiol a bod y digwyddiad wedi bod yn llai “brawychus” i mi. O edrych yn ôl, rwyf nawr yn gallu gweld pwysigrwydd diweddariadau rheolaidd o ran hyfforddiant, nid yw’r digwyddiadau yma yn digwydd yn aml, ond  pan maent yn cael eu cynnal mae’r hyfforddiant yn hanfodol.

Byddaf yn mynychu diweddariadau blynyddol a dyddiau hyfforddi, gan obeithio na fydd yn digwydd eto!


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau