Myfyrio ar beth ydych yn ei ddysgu mewn gofal OOH

Mae yna nifer o gysylltiadau clinigol neu ddigwyddiadau addysgol sydd yn arwain at ddysgu a/neu newid ymarfer. Efallai y byddwch yn dymuno defnyddio’r templed yma i gofnodi’r profiad hwnnw.

Mae rhai meddygon yn cael anhawster deall beth yw myfyrio, neu sut mae gwneud hynny a pham. Mae AaGIC (HEIW) wedi creu gwefan er mwyn egluro’r broses fyfyrio.

Pwynt pwysig i’w nodi yw ein bod ni fel meddygon teulu yn dysgu o gysylltiad gyda chleifion - a bod dysgu fel yma yr un mor werthfawr â dysgu a gynllunnir neu fynychu digwyddiadau.

Gallai cofnod myfyriol edrych fel hyn:-

Disgrifiad o brofiad dysgu

Gwelais blentyn 18 mis ar ymweliad cartref OOH a phoen yn yr abdomen a dolur rhydd. Pwysau eithafol gan y tad (? Alcohol) i’w anfon i ysbyty - trefnwyd hynny. Nid oedd y plentyn angen ei dderbyn ond yr amgylchiadau cymdeithasol yn wael, tad yn ymosodol iawn ac nid oedd gennyf wir ddewis. Mae hynny wedi amlygu i mi fy mod angen mwy o hyfforddiant o ran delio â chleifion ymosodol. Rwyf eisoes wedi gweld fideo ar y mater yma, ond nid oedd yn delio â’r mater yn drylwyr ac roedd yn delio’n bennaf â’r “sefyllfa mewn swyddfa” ble mae digon o help ar gael ac roedd wedi ei hanelu at dderbynyddion.

Roedd y darparwr OOH yn cynnal sesiwn hanner diwrnod ar “pobl ymosodol mewn ymgynghoriad a sut mae delio â hynny”, felly mynychais. Roedd hynny yn werthfawr iawn, ac yn gatharsis yn yr ystyr fy mod yn gallu gwrando ar eraill a’u profiadau - dywedodd un meddyg teulu bod rhywun wedi ei fygwth â chyllell hyd yn oed!

O ganlyniad, a oes angen i mi newid fy ymarfer?

Y prif beth a ddysgais oedd y teimlad nad oeddwn ar fy mhen fy hun o ran cael y math yma o brofiad, a bod pobl eraill wedi gallu tynnu eu hunain o sefyllfaoedd hyd yn oed mwy anodd.

Yn y gweithdy ystyriwyd bod anfon y plentyn i ysbyty wedi bod yn opsiwn da ar fy rhan, a bod hynny wedi rhoi fy hun a’r plentyn mewn sefyllfa ddiogel - atgyfnerthwyd pwysigrwydd hysbysu’r SHO paediatreg am y cefndir yn ogystal â chyfathrebu â meddyg teulu y cleifion. Ond, roeddwn yn synhwyro bod y ffordd yr ymdriniais ar y cychwyn gyda’r claf wedi adlewyrchu ei ddicter yn ôl arno, a bod hynny o bosibl wedi gwaethygu’r sefyllfa. Roedd y tad wedi fy nghyfarfod wrth y drws ac wedi deud “mae fy mab angen myd i’r ysbyty ac mae angen iti ei anfon”, atebais gyda rhywbeth tebyg i “rhowch gyfle i mi ei weld i ddechrau” a osododd y naws mae’n debyg. Dysgais y byddai derbyn a dangos fy mod yn derbyn pryder y claf efallai wedi tawelu’r sefyllfa a bod defnyddio iaith y corff i “dawelu’r”  natur ymosodol yn bwysig. Yn y sefyllfa roeddwn wedi ymateb i’r natur ymosodol drwy fod yn ymosodol yn ôl.

A oes angen mwy o astudio neu ddiweddaru arnaf?

Nid wyf yn credu, ond byddaf yn arw chwlio’r ymgynghoriad nesaf gyda claf ymosodol er mwyn gweld a fyddaf wedi llwyddo i ddefnyddio’r gwersi a ddysgwyd.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau