Sgiliau cyfathrebu
Gallai meddyg sydd yn ymwneud â gofal OOH fod yn delio’n bennaf neu yn gyfan gwbl â chleifion dros y ffôn. Mae angen gwahanol sgiliau ar gyfer y dasg hon oherwydd nad oes unrhyw gysylltiad uniongyrchol â’r claf, ni ellir defnyddio iaith y corff ac fel arfer ni fydd y Meddyg yn adnabod y claf. Mae digwyddiadau addysgol sydd yn delio â brysbennu dros y ffôn ar gael, ond efallai bydd dadansoddi eich sgiliau ffôn yn briodol. Awgrymir eich bod yn recordio 10 o ymgynghoriadau dros y ffôn yn olynol ac yn eu dadansoddi yn y templed isod. Mae’n debyg ei bod yn well gwneud hynny gyda recordiad o’r ymgynghoriad yn hytrach nag yn “fyw”.
Byddai’r ymarfer yma yn dangos dysgu petai newidiadau yn cael eu gwneud a chylch arall yn cael ei gwblhau. Byddai hwn yn weithgaredd gwella ansawdd.
Agoriad:
- Cyflwyno enw
- Siarad â’r claf os yn briodol
- Gwirio demograffeg
Canfod problem y claf y cynnwys:
- HPC
- PMH
- SH
- DH/Alergeddau
- Llunio cynllun - Dogfennu diagnosis a’r cynllun.
- Gwirio dealltwriaeth y claf - a oedd yn ymddangos bod y claf yn fodlon.
- Cyngor wedi ei ddogfennu’n glir yn cynnwys rhwyd ddiogelwch.
- Dogfennu; a yw’r dogfennu yn ategu’r drafodaeth brysbennu?
Gallwch lawrlwytho templed yma.
Agoriad | Canfod problem y claf y | Llunio Cynllun | Gwiriwch ddealltwriaeth y claf | Cyngor wedi ei roi yn glir a rhwyd ddiogelwch | Dogfennu |
---|---|---|---|---|---|
Do yn llawn | Do - poen clust mewn plentyn 3 oed ond yn iach fel arall | Do - diagnosis o boen clust, analgesia yn unig | Rhiant yn cytuno â’r cynllun gweithredu - cyngor i gysylltu â’r meddyg teulu os yn briodol yn y dyddiad nesaf, rhiant yn hapus o wrando ar y recordiad. | Cyngor clir wedi ei roi ynghylch gwaethygiad. | Do |
Do ond dim demograffeg | Do, poen abdomenol hirhoedlog mewn dyn 45 oed | Dim diagnosis - yn disgwyl am farn arbenigol, poen ddim gwaeth heno - cynghori i gymryd analgesia | Roeddwn yn swnio ychydig yn anniddig ei fod wedi ffonio am 11pm ynghylch problem oedd yn bodoli ers 3 mis. Ddim yn hollol fodlon ei fod wedi dweud “nid yw’n ymddangos bod unrhyw un yn gallu rhoi ateb i mi ynghylch y boen yma doctor” ac mae’n ymddangos fy mod wedi anwybyddu’r datganiad hwnnw. | Dim rhwyd ddiogelwch | Do |
Ddim yn gyfan gwbl - “helo Mrs X dyma’r meddyg” | Do - plentyn twymynol (2 oed) Dim statws alergedd | Do - sefydlwyd y ffaith bod y plentyn yn gymharol iach ac na roddwyd gwrth-pyretig - cyngor i roi paracetamol ac i oeri | Do, yn rhannol fodlon, pryder ynghylch diffyg ffocws i’r haint ond yn hapus i roi cynnig ar gamau oeri | Cyngor i ffonio’n ôl os bydd y twymyn yn gwaethygu neu os gwelir symptomau newydd | Do |
Na - claf yn fyr ei wynt ac yn fwy pryderus ynghylch atgyfeirio | Do -SOB difrifol mewn claf â diabetes ac angina sydd yn bodoli eisoes. Dim hanes cymdeithasol ond y claf yn wael. | Do ambiwlans 999 | Do | Rhoddwyd cyngor clir ynghylch 999 a cynghori i ffonio 999 ei hun os yn gwaethygu. | Do |
Do | Do - dyn 24 oed â phoen cefn ers 2 awr - o ganlyniad i godi rhywbeth | Do - analgesia, roedd raid i mi roi co-dydramol “stoc” oherwydd bod y fferyllfa wedi cau | Na - eto roedd yn ymddangos fy mod yn anniddig gyda’r claf yma oherwydd nad oedd wedi cymryd analgesia cyn yr alwad. Ddim yn fodlon - disgwyl ymweliad a “phigiad” | Dim cyngor clir oherwydd hanes byr. Dim rhwyd ddiogelwch | Do |
Ni ofynnwyd a fyddai’n well siarad â’r claf. | Do - Claf mewn Cartref Nyrsio gyda pheswch, nyrs yn gofyn am wrth-fiotigau | Do - ni roddwyd rhagnodiad (hanner nos) cynghorwyd nad oedd y symptomau (peswch am 1 diwrnod) yn gwarantu ymyrraeth ar hyn o bryd | I raddau - daeth y nyrs i gytuno, ond roedd yn teimlo bod gwrth-fiotigau yn fwy priodol er gwaethaf diffyg arwyddion systemig | Cynghorwyd ar lafar i gysylltu â’r meddyg teulu os yn gwaethygu. | Ddim yn glir mewn perthynas â chyngor am waethygiad. Angen mwy o ddogfennu. |
Do | Do - baban 6 mis oed ddim yn bwyta, tymheredd uchel, chwydu x1 | Do - gofynnais gwestiynau priodol er mwyn diystyru salwch difrifol a rhoddwyd apwyntiad yn y ganolfan ymhen 1 awr | Do - gwiriais ddealltwriaeth y fam ynghylch yr apwyntiad gwirio, ei bod yn gwybod ble roedd y ganolfan | Cyngor clir ynghylch yr apwyntiad yn y ganolfan a chyngor ynghylch gwaethygiad tra’n disgwyl i gael ei gweld | Do |
Na - eto cyfeiriais ataf fy hun fel “y meddyg” | Na - galwad ffôn anodd gyda chlaf oedd yn amlwg o dan y ddylanwad - ddim yn hollol siŵr pam ei fod wedi ffonio | Na - ychydig o sgwrs ddryslyd a ddiweddodd gyda “rwyf yn mynd i’r gwely nawr” - geiriau’r claf nid fi! | Ddim yn bosibl. Ddim yn siŵr a oedd y claf yn fodlon. | Dim cyngor clir ond rhoddodd y claf y ffôn i lawr. | Na. Gellid fod wedi dogfennu mwy ynghylch beth ddigwyddodd. |
Yn rhannol - cyflwynais fy hun a chanfod mai’r un oedd yn ffonio oedd chwaer y claf ni chefais ei henw. | Do - dryswch a chwympo - wedi gwneud yn flaenorol o ganlyniad i lid yn y frest, wedi digwydd eto heno. Dim hanes cymdeithasol. | Do - sefydlais nad oedd perygl ar hyn o bryd iddi hi ei hun a dim anaf yn amlwg - trefnwyd i feddyg symudol alw arni yn rhannol frys. | Do, y chwaer yn ymwybodol y byddai’r meddyg yn galw o fewn yr awr nesaf. Bodolon - oedd - rhyddhad mawr iddi. | Cyngor clir i’r chware petai’r claf yn gwaethygu. | Do |
Do - adalwad ers yn gynharach - (gweler y 3ydd achos uchod) y tro hwn cyflwynais fy hun ond nid cyn i’r claf ofyn “ai chi yw’r meddyg a siaradodd efo fi oherwydd ni roddodd ei enw?” | Do, twymyn yn gwaethygu, dim effaith o ganlyniad i baracetamol a baddon. Cefais hanes llawn o arwyddion fflagiau coch (pob un yn negyddol) | Do - i gael archwiliad - ymgynghoriad yn y ganolfan yn anodd iawn oherwydd ei bod ar ei phen ei hun gyda 2 o blant eraill - meddyg symudol i ymweld. | Do, yn deall y bydd y meddyg yn galw yn nes ymlaen. Claf yn fodlon oherwydd ei bod eisiau ymweliad â’r cartref. | Do. Dim rhwyd ddiogelwch. | Do |
Myfyrio ar ganlyniadau/ymarfer
Roedd hwn yn ymarferiad defnyddiol i mi a dyma’r tro cyntaf i mi wrando arnaf fy hun yn ymgynghori dros y ffôn. Y peth cyntaf a sylwais arno oedd pa mor anodd oedd barnu sut oeddwn yn teimlo ar y pryd, roedd y diffyg mewnbwn gweledol yn ei gwneud yn anodd i mi farnu pa mor briodol a pha mor ddifrifol yr oeddwn yn ymdrin â phryderon y cleifion. Rwyf wedi gwylio fideo ohonof fy hun yn ymgynghori, ac oherwydd iaith y corff rydych yn gallu cael gwell syniad. Felly mae’n rhaid bod y cleifion mewn sefyllfa anodd iawn.
Roeddwn yn synnu nad oeddwn yn cyflwyno fy hun i bawb (rhywbeth yr oeddwn yn meddwl fy mod yn ei wneud bob tro). Roeddwn yn hapus fy mod wedi cael digon o wybodaeth bob amser er mwyn fformiwleiddio diagnosis a/neu gynllun a fy mod wedi gweithredu’n briodol. Roedd yna ambell i ymgynghoriad pan oeddwn yn amlwg yn ychydig yn swta gyda’r cleifion; roedd yn ymddangos bod y cleifion hefyd yn sylwi ar hynny. Gall bod yn swta fod yn briodol ar brydiau, ond mae’n amlwg o’r recordiadau bod y cleifion yn wirioneddol bryderus am eu problemau.
Roeddwn yn siomedig na ddogfennwyd yn glir mewn rhai achosion.
Yn gyffredinol roedd yn ymddangos fy mod wedi gallu trafod setliad a datrysiad gyda'r cleifion, er bod y claf gyda’r poen abdomenol a’r claf gyda phoen cefn yn disgwyl mwy nag yr oeddwn yn gallu ei gynnig iddynt.
A oes angen i mi wneud unrhyw beth yn wahanol/anghenion dysgu a nodwyd?
I ddechrau, yr anhawster o ran dadansoddi tymer y “meddyg” - ie, fi! Roedd y diffyg ysgogiad gweledol yn broblem er fy mod wedi perfformio’r ymgynghoriad. Yn y dyfodol byddaf yn fwy ymwybodol o’r anhawster yma ac yn ceisio cyflwyno mwy o ysgogiadau llafar “mm, ym, ie”.
Yn ail, roedd nifer o’r ymgynghoriadau yn fyrrach na yr oeddwn wedi ei ddychmygu ar y pryd, roeddwn yn tueddu i reolir rhan derfynol - roeddwn yn defnyddio’r ymadrodd “mae hynny’n OK felly ydi?” bedair gwaith gan derfynu’r ymgynghoriad felly.
Ceisio sicrhau bod y claf yn gwbl fodlon â deilliant y brysbennu.
Yn gyffredinol rwyf yn hapus gyda’r deg ymgynghoriad yma, mae yna ychydig o le i wella a byddaf yn ailadrodd yr ymarferiad ymhen blwyddyn neu ddwy.