Arfarnu

Beth ydyw?

Mae arfarnu yn adolygiad ffurfiannol, systematig a rheolaidd o gyflawniadau yn y gorffennol ynghyd â chynllunio adeiladol mewn perthynas ag anghenion dysgu i’r dyfodol. Nid digwyddiad unigol ydyw, ond rhan o broses barhaus o adolygu gydol oes a chynllunio datblygu personol a phroffesiynol, a rhan annatod o ddysgu drwy gydol eich gyrfa.

Ni fydd eich Arfarnwr yn gwneud penderfyniad ynghylch ail-ddilysu ac mae crynodeb arfarniad unigol ond yn rhan o’r jigso sydd yn galluogi’r Swyddog Cyfrifol  roi argymhelliad ail-ddilysu erbyn eich dyddiad ail-ddilysu.

Camsyniad cyffredin yw bod raid i’ch Arfarnwr feddu ar yr un arbenigedd neu radd, ond nid yw hynny yn wir,  a gall unrhyw Arfarnwr hyfforddedig arfarnu unrhyw Feddyg. Mewn gwirionedd mae wedi bod yn brofiad buddiol iawn i nifer o Feddygon oherwydd ei fod yn cynnig her ac yn golygu eu bod yn meddwl mwy am eu hymarfer.

Arfarnwyd Yr Athro Chris Jones (Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru) gan Feddyg yr SAS, ac mae wedi ysgrifennu am ei brofiad yma.

Mae’r holl arfarniadau yng Nghymru yn cael eu hwyluso gan yr Uned Cymorth Ail-ddilysu (RSU) drwy MARS


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau