Chwarteri Dyranedig

Bydd MARS yn rhoi Chwarter Dyranedig (AQ) i chi yn seiliedig ar y wybodaeth yr ydych yn ei darparu yn ystod y broses gofrestru.

Y Chwarteri Dyranedig yw Ionawr-Mawrth, Ebrill-Mehefin, Gorffennaf-Medi a Hydref-Rhagfyr. Dylai eich AQ fod tua 9-12 mis ar ôl dyddiad eich CCT, a bydd hynny yn rhoi digon o amser i chi baratoi gwybodaeth ar gyfer eich arfarniad nesaf tra’n sicrhau y gallwch ymgymryd â 5 arfarniad blynyddol cyn eich dyddiad ail-ddilysu nesaf. Argymhellir lleiafswm o 9 mis o fwlch rhwng arfarniadau er mwyn gwneud y mwyaf o fuddion yr arfarniad.

Eich Corff Dynodedig sydd yn rheoli protocol Chwarteri Dyranedig a’r broses newid, a chyflwynwyd system Chwarteri Dyranedig er mwyn aildrefnu’r ffordd o ddarparu arfarnu yn lleol ac optimeiddio capasiti pob Arfarnwr.

Bydd eich AQ yn aros yr un fath bob blwyddyn. Os byddwch wedi cwblhau eich arfarniad yn hwyr dylech gysylltu â’r swyddfa arfarnu ac ail-ddilysu yn eich Bwrdd Iechyd er mwyn penderfynu pryd y dylech gwblhau eich arfarniad nesaf.

Ond, efallai y bydd raid i chi ohirio eich arfarniad oherwydd amgylchiadau esgusodol, sydd yn cynnwys Absenoldeb Mamolaeth, Sabothol, salwch, absenoldeb tosturiol etc. Os byddwch wedi profi amgylchiadau esgusodol bydd angen i chi lenwi’r newid Chwarter Dyranedig ar MARS. Yna bydd hynny yn cael ei adolygu gan y Corff Dynodedig a bydd eich AQ yn cael ei newid yn unol â hynny, a bydd hynny yn sicrhau bod gennych amser i gasglu digon o CPD mewn perthynas ag unrhyw amgylchiadau esgusodol.

Llywodraethu Clinigol

Mae Arfarnu Meddygon yng Nghymru yn cael ei reoli gan Fyrddau Iechyd lleol.

Nod yr RSU yw rheoli a darparu arfarniad blynyddol â sicrwydd ansawdd i bob Meddyg cymwys sydd â Chysylltiad Rhagnodedig â Chorff Dynodedig yng Nghymru drwy’r system arfarnu ar-lein ( Y System Arfarnu ac Ail-ddilysu Feddygol - MARS).

Monitro a rheoli Chwarteri Dyranedig - Mae’r RSU yn anfon cyfres o nodiadau atgoffa os na fydd arfarniad wedi cael ei drefnu yn ystod eich AQ. Gellir darparu adroddiad ar MARS er mwyn galluogi i Fyrddau Iechyd fonitro ymgysylltu ag Arfarnu Blynyddol.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau