Atgyfeiriadau

Mae atgyfeirio yn rhan bwysig o fywyd gwaith meddygon teulu, ac mae’r rôl draddodiadol fel “porthor” i fwy o ymchwiliadau a thriniaethau yn cael ei chydnabod fel rhan annatod o’r GIG- ni allai’r strwythur presennol weithio hebddi. Mae’r llythyr atgyfeirio yn ddogfen bwysig, mae’n mynegi meddyliau’r meddyg teulu mewn perthynas â phroblem claf yn ogystal â dogfennu agweddau pwysig o hanes meddygol y claf.

Mae llythyr atgyfeirio gyda’r wybodaeth briodol ynddo yn galluogi i ofal eilaidd flaenoriaethu neu frysbennu’r atgyfeiriad, sydd er lles y claf, yn ogystal â lleihau’r pwysau ar y gwasanaeth.  Mae’r adnodd yma yn awgrymu dulliau y gall y meddyg archwilio ei batrwm ac ansawdd atgyfeirio ei hun. Nod yr adran hon yw annog unigolion i feddwl am eu hatgyfeiriadau, a ellid fod wedi gwneud unrhyw beth yn  wahanol ac adnabod meysydd ar gyfer mwy o astudio. Gall unigolyn ddymuno defnyddio rhan o’r adnodd neu’r adnodd yn ei gyfanrwydd unrhyw bryd yn ystod y cylch pum mlynedd.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau