Archwilio atgyfeiriadau

Mae archwilio atgyfeiriadau yn anodd ac yn cymryd llawer o amser; ond gall roi mewnwelediad defnyddiol i chi i ymarfer clinigol a gall arwain at newid. Un o’r prif anawsterau o ran archwilio eich arferion atgyfeirio yw bod yna hyd at 2-5 gymaint o wahaniaeth mewn arferion atgyfeirio meddygon. Mae astudiaethau wedi dangos bod cyfraddau atgyfeirio yn amlffactoraidd ac y dylanwadir yn drwm arnynt gan fynegeion amddifadedd. Felly ni dylai archwiliad geisio gweld “bai” ond asesu a allwch adnabod meysydd i’w gwella a/neu anghenion dysgu.

Mae lefelau atgyfeirio “amhriodol” wedi cael eu mesur a chanfuwyd eu bod yn isel (tua 13% yn gyffredinol), ac oherwydd hynny  gallai’r archwiliad ganolbwyntio ar y broses yn hytrach na deilliannau. Ffordd syml o asesu eich patrymau atgyfeirio fyddai cymharu hynny ag ymarferwyr eraill yn eich practis eich hun a’i addasu ar gyfer nifer y cysylltiadau clinigol a gynhyrchodd yr atgyfeiriadau hynny.

Awgrym o destunau archwilio:

  • Cyfraddau atgyfeirio crai - wedi eu cyfateb i gydweithwyr yn y practis a lefelau LHB
  • Cyfraddau atgyfeirio arbenigedd - a yw fy nghyfraddau atgyfeirio yn gydnaws â chyfartaledd y LHB mewn perthynas â’r mae arbenigedd yma? (Cofiwch ganiatáu am ffactorau personol e.e. diddordebau personol, rhyw, proffil practis etc.)
  • Nifer y llythyrau atgyfeirio sydd yn cynnwys manylion clinigol priodol
  • Derbyniadau brys
  • Deilliant apwyntiad cleifion allanol v. rheswm gwreiddiol dros atgyfeirio

Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau