Dadansoddi llythyrau atgyfeirio – cynnwys
Awgrymir eich bod yn edrych yn fanwl ar 10 llythyr atgyfeirio yr ydych wedi eu hysgrifennu yn olynol. Bydd y person yr ydych wedi ei atgyfeirio ato yn cyfarfod â’r claf am y tro cyntaf (fel arfer) ac mae hanes llawn am y claf yn bwysig. Gwiriwch y llythyrau atgyfeirio am y manylion a awgrymir yn y templed yma dolen ac os yn briodol, awgrymwch newidiadau. Efallai y byddwch yn dymuno cynnwys eich myfyrdodau am y materion a nodwyd a’r pwyntiau dysgu ar MARS, a chynnwys eich dadansoddiad fel dogfennaeth ategol ychwanegol.
Enghraifft
Rheswm dros atgyfeirio | Hanes y gwyn | Hanes meddyginiaeth, alergeddau | Canfyddiadau archwiliad, profion a berfformiwyd | Hanes Seicogymdeithasol Perthnasol | Hanes Meddygol |
---|---|---|---|---|---|
Absennol | |||||
Absennol | |||||
Absennol | N/A | Absennol | |||
Absennol | |||||
Absennol | Absennol | N/A | |||
Absennol | Absennol | Absennol | |||
Absennol |
Materion a nodwyd
Roeddwn bob amser wedi meddwl fy mod yn ysgrifennu llythyrau atgyfeirio cynhwysfawr oedd yn cynnwys yr holl fanylion perthnasol. Archwiliais 10 llythyr atgyfeirio chwe mis ar ôl i mi eu hysgrifennu ac roeddwn yn synnu at beth o’r manylion yr oeddwn heb ei gynnwys. Nid oedd dau o’r llythyrau atgyfeirio yn cynnwys hanes y gwyn er bod hynny wedi ei ddogfennu ar y cyfrifiadur. Yn y pedwar llythyr na chofnodwyd hanes meddygol ynddynt dim ond un claf oedd yn cymryd meddyginiaeth. Nid oeddwn wedi cyfeirio at ganfyddiadau archwiliadau ddwy waith - yn y ddau achos dogfennwyd canfyddiadau archwilio a chanlyniadau profion negyddol. Dim ond yn achos un claf ni ddogfennwyd hanes seicogymdeithasol perthnasol (marwolaeth cymar yn ddiweddar) ac mewn dau achos hepgorwyd hanes meddygol
Pwyntiau dysgu
Roeddwn yn synnu o weld mai dim ond 3 o’r 10 llythyr oedd yn bodloni’r meini prawf ac mae’n rhaid i mi gyfaddef bo yna un llythyr na fyddai wedi rhoi digon o wybodaeth fyddai’n helpu meddyg mewn ymgynghoriad. Mae’r dadansoddiad yma wedi fy helpu i edrych yn feirniadol ar yr elfen bwysig yma o fy ymarfer ac rwyf wedi gwneud y newidiadau canlynol:-
- Rwyf wedi argraffu cerdyn gyda’r 6 maen prawf arno ac wedi ei ludo ar flaen fy nictaffon er mwyn fy atgoffa.
- Rwyf wedi newid y ffordd yr wyf yn trefnu fy atgyfeiriadau - roeddwn yn arfer eu gadael i gyd tan ddiwedd yr wythnos. Erbyn hyn rwyf yn eu harddweud ar ddiwedd fy shifft yn y feddygfa. Mae hynny mewn gwirionedd yn llai o straen oherwydd mai dim ond un neu ddau sydd i’w gwneud a bydd y cleifion yn ffres yn fy meddwl.
Rwyf yn bwriadu ailadrodd yr ymarfer yma ymhen blwyddyn er mwyn sicrhau bod y newidiadau yr wyf wedi eu gwneud yn para.