Dadansoddi llythyrau atgyfeirio– rhesymau dros atgyfeirio
Gall meddyg ddefnyddio’r adran hon i archwilio a myfyrio ar y rhesymau dros atgyfeirio. Mae yna nifer o ffactorau sydd yn dylanwadu ar gais meddyg am ail farn, nad ydynt o reidrwydd yn gysylltiedig ag angen clinigol. Gall y broses fyfyriol eich helpu i adnabod y meysydd yma sydd yn dylanwadu arnoch a gallai hynny amlygu anghenion dysgu.
Gan ddefnyddio'r ddolen templed hon, cwblhewch mor llawn â phosibl ar gyfer y deg atgyfeiriad nesaf a wnewch (gallech naill ai ganolbwyntio ar un arbenigedd sydd yn gwneud i chi deimlo yn “anghyfforddus” neu gallwch ddadansoddi eich deg atgyfeiriad nesaf). Efallai y byddwch yn dymuno cynnwys eich myfyrdodau am y materion a nodwyd a’r pwyntiau dysgu ar MARS, a chynnwys eich dadansoddiad fel dogfennaeth ategol ychwanegol.
Manylion clinigol byr | Rheswm dros atgyfeirio yn cynnwys beth ydych yn ddisgwyl ei gyflawni drwy atgyfeirio | Unrhyw ffactorau anghlinigol? | Ellid gwneud unrhyw beth yn wahanol? |
---|---|---|---|
Dyn 67 oed gyda hernia inguinol | Ystyriaeth i ymyrraeth llawdriniaethol | Dim, yn ffit ac iach iawn gyda hernia yn ymddangos o’r newydd | Na |
Person 28 oed gydag iselder ysgafn ddim yn ymateb i 6 wythnos o fluoxetine | Ymgynghoriad a chymorth gan CPN o bosibl | Mynychu gyda’r fam, ”rhaid gwneud rhywbeth”, fel arall buaswn mae’n debyg wedi dim ond newid y gwrthiselyddion | Gallwn fod wedi newid gwrthiselyddion, gallwn fod wedi defnyddio MIND sydd yn darparu cymorth |
Dyn 57 oed yn fyr ei wynt wrth wneud ymarfer corff, dim poen yn y frest, ysmygwr hirdymor, ecg a cxr normal | Barn meddyg y frest parthed COPD tebygol - ac awgrymiadau ynghylch triniaeth ychwanegol | Pryder y claf, eisiau atgyfeiriad cynnar - hyd yn oed cyn imi drefnu spirometreg | Gallwn fod wedi ymchwilio mwy gyda spirometreg |
Plentyn 4 oed gydag ecsema - ddim yn ymateb i feddalyddion | Cyfranogiad nyrs arbenigol pediatrig er mwyn lleddfu pryderon rhieni parthed defnyddio steroidau | Y fam yn amharod iawn i ddefnyddio hyd yn oed symiau bach o steroid dos isel | Ymgynghoriad anodd, y fam â dim diddordeb o gwbl mewn defnyddio steroidau, gallwn fod wedi defnyddio tacroliums ond nid oes gen i brofiad gyda’r cyffur yma. |
86 oed â hanes o strôc - gwendid gweddilliol (ysgafn) yn y goes dde - triniaeth ataliol eisoes wedi ei optimeiddio | Clinig atal strôc er mwyn cael mynediad at Doppler a phen CT | Dim mynediad uniongyrchol at ymyriadau - materion diddorol ynghylch pan fo rywun yn “rhy hen” i ymchwilio | Trafodwyd yr opsiwn gyda’r claf a’r ferch - ataliaeth optimaidd, a yw hi’n wirioneddol ffit ar gyfer arterectomi terfynol? |
72 oed â chataractau | Llawdriniaeth cataract | Dim | Na |
Geneth 7 oed â thonsilitis mynych | Barn ENT ynghylch yr angen am lawdriniaeth | Mam yn awyddus i gael llawdriniaeth - wedi cael 3 phwl o donsilitis eithaf difrifol yn ystod y 18 mis diwethaf - rwyf yn ansicr ynghylch y canllawiau ar gyfer llawdriniaeth tonsilaidd. | Nid yw 3 phwl mewn 18 yn ymddangos yn llawer, roedd disgwyliadau’r teulu yn uchel - roedd gwylio gwyliadwrus yn opsiwn |
45 oed â lwmp yn y fron | Mynediad cyflym i glinig y fron | Atgyfeiriad angenrheidiol a chlaf oedd yn amlwg y bryderus - gwelwyd ymhen 2 wythnos - newidiadau anfalaen yn unig | Na |
Dyn 76 oed gydag asthma gydol oes, nawr yn gymysg ag asthma COPD cymysg, gofyn am nebiwleiddiwr oherwydd bod hynny wedi bod yn help mawr yn yr ysbyty yn ddiweddar | Asesiad nebiwleiddiwr | Mae gennym clinig dan arweiniad nyrs ar gyfer asesiadau nebiwleiddiwr - mae hwn yn adnodd defnyddiol | Na |
Dyn 74 oed â phen-glin OA hirhoedlog - wedi cael pigiadau yn y gorffennol ac erbyn hyn ddim yn ymateb i bigiadau / NSAID | Pen-glin newydd | Y broblem yma oedd amseroedd aros- am fynd am ymgynghoriad yn breifat ond ddim yn gallu fforddio llawdriniaeth breifat | Wedi ystyried rhoi cynnig ar Hyalgan - gweler trawsgyfeiriad o dan ragnodi cyffuriau newydd |
A oes yna unrhyw faterion yr hoffech eu cofnodi ynghylch yr atgyfeiriadau uchod?
Drwy gofnodi fy meddyliau ynghylch atgyfeirio roeddwn yn synnu bod nifer o’r atgyfeiriadau yma yn deillio’n bennaf o ganlyniad i bwysau gan gleifion neu berthnasau. Cynhyrchwyd y 10 atgyfeiriad yma yn ystod cyfnod o 3 wythnos pryd yr oeddwn wedi ymgynghori â 162 o gleifion. At ei gilydd mae fy nghyfraddau atgyfeirio yn fy mhractis yn gymharol â chyfraddau fy mhartneriaid. Mae’r clinig a gynhelir gan y nyrs ar gyfer asesu nebiwleiddwyr yn adnodd da, ac mae gennym glinigau cyffelyb ar gyfer trosi i inswlin, sigmoidosgopi a dermatoleg paediatreg.
A oes yna unrhyw bwyntiau dysgu?
Mae angen imi archwilio’r canllawiau ar gyfer llawdriniaeth tonsilaidd er mwyn gallu cynghori cleifion eraill yn briodol. Tybed a oes angen i mi fod yn ychydig mwy cadarn wrth ddelio â chleifion a archwilir yn rhannol yn unig, er enghraifft y claf a atgyfeiriais heb berfformio spirometreg (efallai bod hynny hefyd yn arwydd o fy ngwybodaeth wael am ddehongli spirometreg), a chleifion gaiff ond eu trin yn rhannol - plentyn ifanc ag ecsema a’r mater ynghylch rhagnodi tacrolimus.