Dadansoddi llythyrau atgyfeirio unigol

Mae’r templed yma yn eich galluogi i ddangos gofal clinigol da mewn perthynas ag atgyfeirio; gallwch ei ddefnyddio i ddangos diagnosis cynnar ac atgyfeirio priodol, neu achos yr oeddech yn ymwneud ag ef o ran defnyddio ymchwiliadau i sefydlu diagnosis oedd angen atgyfeirio. Mae’n amlwg ei bod yn bwysig eich bod yn sicrhau bod y llythyr yn ddienw. Efallai yr hoffech ddogfennu eich myfyrdodau yn eich gwybodaeth ategol o
fewn MARS. 

Dylai dadansoddiad o lythyrau atgyfeirio gynnwys:

  • Copi o’r llythyr atgyfeirio
  • Beth mae’r atgyfeiriad yma yn ei ddangos?

Enghraifft 1

Copi o’r llythyr atgyfeirio

Buaswn yn ddiolchgar petaech yn gallu gweld y gŵr bonheddig yma yn gynted ag sydd yn gyfleus i chi.  Mae’n 67 oed ac nid oes ganddo hanes meddygol arwyddocaol, nid yw’n cymryd unrhyw feddyginiaeth ac nid oes ganddo unrhyw alergeddau. Cyflwynodd heddiw gyda hanes 2 ddiwrnod o waedu ffres o’r rectwm wrth garthu. Nid yw erioed wedi cael hyn o’r blaen ac mae ei goluddion yn  normal. Nid yw wedi colli pwysau ac mae’n gorfforol actif yn chwarae tennis a mynd â’r ci am dro. Nid yw erioed wedi ysmygu ac mae’n byw gyda’i wraig.

O’i archwilio mae teimlad abdomenol yn normal, ar p.r. Rwyf yn credu bod yna fas caled ar flaen fy mys.

Rwyf yn bryderus bod ganddo garcinoma rectaidd. Rwyf wedi dweud wrth Mr X y bydd angen mwy o brofion oherwydd fy mod yn bryderus bod ganddo reswm tanategol am y gwaedu o’r rectwm. Gofynnodd i mi am ganser a dywedais bod yna bosibilrwydd y gallai hynny fod yn wir. Rwyf wedi anfon am brofion gwaed arferol ac wedi gofyn am i gopi gael ei anfon ymlaen atoch.

Llawer o ddiolch

Beth mae’r atgyfeiriad yma yn ei ddangos?

Gwelwyd y gŵr bonheddig yma ymhen 10 diwrnod o anfon y llythyr (a galwad ffôn). Datgelodd sgimoidosgopi gacrinoma rectaidd, cafodd echdoriad anterior is a datgelodd ei histoleg garcinoma Dukes A. Mae’r atgyfeiriad yma yn dangos atgyfeirio brys priodol a diagnosis cynnar o ganser. Cyflwynodd y gŵr bonheddig yma gyda hanes byr o waedu o’r rectwm ac archwiliais yn briodol, atgyfeirio ar frys a chynnwys yr holl wybodaeth berthnasol yn y llythyr. Mae’r achos hefyd yn dangos gofal eilaidd priodol.

Enghraifft 2

Copi o’r llythyr atgyfeirio

Diolch yn fawr am eich help gyda’r ddynes 72 oed yma y mae’n ymddangos bod ganddi myeloma. Cyflwynodd 4 wythnos yn ôl gyda phoen gwaelod y cefn difrifol a diffyg symudedd. Roeddwn yn amau toriad fertebrol osteoporotig a dangosodd pelydr-x dilynol bod L1 wedi lletemu. Datgelodd ymchwiliadau cychwynnol anaemia normocytig ysgafn gyda gludedd plasma dyrchafedig iawn o 2.01. Yna archebais electrofforesis plasma a phrotein Bence Jones, mae’r electrofforesis yn dangos band mewn IGA a Bence Jones cadarnhaol.

Mae ganddi hanes o bwysedd gwaed uchel a chafodd golecystectomi yn 1985.

Mae'n cymryd atenolol 50mg an felodipine 2.5mg ar gyfer ei phwysedd gwaed uchel, ac mae ar dihydrocodine ar gyfer ei phoen. Rwyf wedi trafod y diagnosis gyda hi. Buaswn yn ddiolchgar am eich cymorth mewn perthynas â rheoli.

Beth mae’r atgyfeiriad yma yn ei ddangos?

Defnyddiais ymchwiliadau yn ddoeth yma er mwyn sefydlu diagnosis yn gyflym; adnabyddais bod y cyflwyniad cychwynnol yn doriad fertebrol a defnyddio ymchwiliadau i ddiagnosio’r myeloma tanategol. Mae’r llythyr atgyfeirio yn cynnwys gwybodaeth dda a chanlyniadau’r profion perthnasol.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau