Cwblhau adborth gwerthuso
Ar ôl i chi gytuno ar eich crynodeb arfarnu, bydd arolwg adborth yn ymddangos i chi er mwyn rhoi adborth ar yr Arfarnwr, y broses a MARS. Mae’r canlyniadau yma yn ddienw ac nid ydynt yn uniongyrchol weladwy i’r Arfarnwr, ond maent yn ein galluogi i fireinio a gwella’r broses a MARS. Mae unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella yn cael eu cofnodi gan yr adran berthnasol ac maent yn helpu i siapio’r broses arfarnu i’r dyfodol.
Dyma yw diwedd y broses arfarnu gyfredol, ond rydym yn eich cynghori’n gryf eich bod yn dewis eich Arfarnwr nesaf ar unwaith er mwyn osgoi unrhyw broblemau o ran sicrhau Arfarnwr yn ddiweddarach.