Penderfyniadau rhagnodi

Mae penderfyniadau rhagnodi yn cael eu gwneud yn y rhan fwyaf o ymgynghoriadau. Maent yn defnyddio cyffuriau diogel, cost effeithiol a phriodol yn y rhan fwyaf o achosion er mwyn trin nifer o gyflyrau clefydau cronig. Drwy ddefnyddio rhai o’r ymarferion sydd yn gynwysedig yn y pecyn yma dylech allu dangos eich ymddygiad rhagnodi ac efallai symud ymlaen mewn rhai meysydd.

Ymweliad ac adroddiad rhagnodi HB blynyddol

Bob blwyddyn gwahoddir practisau i eistedd i lawr gyda chynghorwyr rhagnodi eu HB ac i ddarllen a myfyrio ar adroddiad rhagnodi blynyddol eu practis, trafod camau cytunedig ers y flwyddyn flaenorol a chytuno ar fwy o gamau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Mae’r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am ragnodi gyda rhai meysydd o ddiddordeb i’r HB megis defnyddio gwrthfiotigau a chyffuriau gwrth-lidiog ansteroidaidd (NSAID), cyfraddau defnyddio cyffuriau a ffafrir ar sail effeithiolrwydd etc. ac mae’n cymharu’r canlyniadau gyda'r cyfartaledd ar gyfer ardal yr HB a Chymru gyfan. Anogir practisau ac unigolion i fyfyrio ar y canlyniadau yma a chynllunio camau fel sy’n angenrheidiol. Bydd y camau fydd yn deillio o’r adroddiad a’r amcanion cytunedig a ddewisir o restr o dasgau a gynigir gan y HB yn golygu goblygiadau i’r cynghorwyr rhagnodi HB a benodwyd, y practis yn ei gyfanrwydd, y meddyg teulu rhagnodi arweiniol (os oes un yn bodoli) a meddygon teulu unigol pan fo hynny’n briodol. Gall mwy o wybodaeth ar ragnodi fod ar gael o gyfarfod rhagnodi lleol chwarterol pan fo cynrychiolwyr o bractisau yn cael eu gwahodd i fynychu ac i rannu gwybodaeth yn ôl i’w practisau.

Gellir defnyddio’r Adroddiad Rhagnodi Practis Blynyddol, y cyfarfod rhagnodi blynyddol a’r cyfarfodydd diweddaru chwarterol i archwilio tueddiadau rhagnodi cyffredinol eich practis. Mae awgrym o dempled ar gyfer y dadansoddiad yma ar gael yma. Gellir cynnwys myfyrdod ar yr adroddiad fel cofnod arfarnu a lanlwytho’r ddogfen fel dogfennaeth ategol.

Enghraifft:
Adroddiad Rhagnodi a Rheoli Meddyginiaethau Blynyddol
Beth oedd y camau cytunedig ers y cyfarfod y llynedd?
  1.  Adolygu cleifion ar hypnotigau a chyflwyno amserlenni tynnu’n ôl.
  2.  Adolygu cleifion ar batshys Buprenorphine yn erbyn y canllawiau a newid pan fo’n briodol.
  3.  Adolygu cleifion y rhagnodwyd sylffad fferus a glwconad iddynt a newid i ffwmarad fferws.
Pa gynnydd sydd wedi cael ei wneud?
  1.  Parhaus, bu gostyngiad mewn rhai cleifion.
  2.  Cwblhawyd, dangoswyd gostyngiad.
  3.  Cwblhawyd, cynnydd mewn ffwmarad fferws a gostyngiad mewn sylffad a glwconad.
A oes angen cymryd camau ychwanegol? Nid yw’r holl gleifion ar hypnotigau wedi cael eu rhoi ar gynlluniau tynnu’n ôl, mae hyn yn mynd rhagddo. Mae’r cynghorwyr rhagnodi yn mynd drwy’r rhestr. Dim angen mwy o fewnbwn gan feddygon teulu.
Cynllun Rheoli Rhagnodi
Pa feysydd y Cynllun Rheoli Rhagnodi y cytunwyd arnynt ar gyfer y practis y llynedd?
  1.  9 prif wrthfacerialau fel % o wrthfacterialau
  2.  Statinau cost caffael isel (LAC) fel % o gyfanswm statinau a Ezetemibe
  3.  NSAIDs DDDs am bob 1000 Pus
Beth oedd y targedau ar gyfer y meysydd yma a sut wnaeth y practis?
Maes Targed ar gyfer taliad llawn Targed ar gyfer taliad rhannol Pwyntiau a gafwyd
 9 prif wrthfacterialau   > 84.65%   80-84.64%   84.21
Low acquisition cost (LAC) statins   >95.29%   90-95.28%   91.97
NSAIDs   <1739.89   1739.9 - 3000   3202.94
A oes angen cymryd camau ychwanegol? Roeddem fymryn yn is na’r uchafswm pwyntiau ar gyfer gwrthfacterialau, wedi gwneud y taliad isaf am statinau LAC ac ymhell ohoni yn achos NSAID. Mae’r olaf wedi bod yn broblem barhaus i ni ac mae’n ymddangos bod gennym ddiwylliant o ragnodi'r rhain yn hytrach nag awgrymu bod cleifion yn eu prynu eu hunain. Byddwn yn parhau â’r cynnydd a wnaethpwyd yn y ddau faes arall ac yn disgwyl i’r sefyllfa newid mewn perthynas â statinau o ystyrid bod astorfaststin erbyn hyn heb batent, ac mae pob un ohonom wedi cytuno i wthio NSAID dros y cownter (OTC) yn hytrach na’u rhagnodi.
Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol
Sut ddaru’r practis berfformio yn y Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol?
Fe’n gosodwyd yn y canol ar gyfer y rhan fwyaf o’r dangosyddion cenedlaethol, oedd yn cynnwys y tri chytunedig uchod. Roeddem yn is na’r cyfartaledd ar gyfer y canlynol: Mae’r canlyniadau yma yn bwrw mwy o oleuni ar ein problem NSAID, oherwydd roeddem nid yn unig yn rhagnodi mwy o NSAID ond roedd gennym hefyd gyfradd isel o ragnodiadau ibuprofen a naproxen fel % o gyfanswm NSAID. Mae hynny yn golygu ein bod yn rhagnodi gormod o gyffuriau megis diclofenac o hyd, yr wyf yn ymwybodol sydd yn arwain at risg embolig uwch na NSAIDau eraill. Roedd gennym hefyd gyfradd rhagnodi PPI o’i gymharu â’r rhan fwyaf o bractisau eraill, a gallai hynny adlewyrchu ein cyfradd NSAID uchel os bydd yn cael ei ddefnyddio’n briodol ar gyfer gwarchodaeth GI. Er hynny, bydd lleihau NSAID yn arwain at leihau’r defnydd o PPI. Y statin a’n rhwystrodd rhag cael y gyfradd uwch ar gyfer statinau LAC oedd rosuvastatin! - Bydd angen edrych ar hynny. Yn olaf, roedd ein triptanau yn uwch na’r cyfartaledd ac mae pob un ohonom yn cytuno i adolygu ein rheolaeth ar feigryn yn unol â chanllawiau cyfredol.
A oes angen cymryd camau ychwanegol?
  1.  Cytuno ar bolisi ynghylch NSAIDs
  2.  Adolygu rhagnodiadau Olmesartan
  3. Cytuno ar ganllawiau rheoli meigryn
Camau Cytunedig ar gyfer y Deuddeg Mis Nesaf
  1.  Ailadrodd yr archwiliad rhagnodi
  2.  Adolygu cleifion ar NSAID mynych a newid i naproxen neu ibuprofen fel sy’n briodol
  3.  Adolygu cleifion ar Minoclycline mynych a newid i gyffur gwahanol addas
A fyddwch yn cyfranogi’n bersonol?
Gwirfoddolais i adolygu cleifion ar Minocycline a gwirio sut maent yn cael ei rheoli yn erbyn canllawiau ar gyfer acne a rosacea fel sy’n briodol. Os na fydd cleifion yn rhoi’r gorau i’w gymryd, byddaf yn gwirio a ydynt wedi cael profion gwaed perthnasol pan fo angen, a bod y sgil effeithiau posibl wedi eu hegluro a'i cofnodi. Yna byddaf yn ceisio newid cleifion eraill pan fo hynny’n briodol. Hefyd, byddaf yn paratoi protocol practis ar gyfer rheoli acne, oherwydd ei bod yn ymddangos bod hynny yn amrywio’n fawr yn y practis. Byddaf yn seilio hynny ar ganllawiau dermatoleg lleol ar borth y LHB ac yn triongli hynny gyda ffynonellau seiliedig ar dystiolaeth megis NICE, SIGN a chronfa ddata TRIP. Yna byddwn yn cyfarfod er mwyn cytuno ar hynny (neu ei addasu) mewn cyfarfod practis. Rwyf yn cynllunio i wneud hynny yn ystod y 6 mis nesaf ac yna bydd yn barod i’w drafod yn fy arfarniad nesaf fel darn arall o dystiolaeth gwella ansawdd.

Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau