Adnoddau ychwanegol ar gyfer meddygon Teulu Sesiynol

Cydnabyddir na fydd nifer o’r adrannau yn y pecyn adnoddau yma yn addas ar gyfer Meddygon Teulu Sesiynol, nad yw data Adroddiad Rhagnodi Practis ar gael ac, oni bai eich bod mewn swydd reolaidd, mae’n anodd dilyn achosion cleifion. Yn amlwg, bydd adroddiadau achos yn ddull priodol yn ogystal â digwyddiadau arwyddocaol. Isod awgrymir adolygiad o ragnodi allai fod yn fuddiol.

Arferion rhagnodi

Casglwch 20 o ymgynghoriadau yn olynol pan oedd rhagnodi yn fater - gallai hynny fod yn stopio neu newid meddyginiaeth, penderfyniad pwrpasol i beidio â rhagnodi neu newid dos neu drefn. Mae templed ar gael yma

Example
Rhyw Oedran Diagnosis Dewis rhagnodi Pam y dewisoch y camau yma
F 3 Dolur gwddf Penisilin V 125mg qid Roedd y plentyn yn sâl, peth casgliad ar y tonsils
M 37 Poen cefn Co-codamol 8-500 Poen cefn acíwt ar ôl codi, analgesia yn unig
M 65 Diabetes Cynyddu metformin o 500 bd i 1000mg bd Mae gan y claf Hba1c o 8.5 ac mae’n ordew - cynyddu’r dos yw’r dewis rhesymegol
F 44 Iselder Cipralex 10 mg od Iselder newydd, rwyd yn gwybod bod Cipralex yn cael ei oddef yn dda
M 6 Dolur gwddf Penisilin V 125mg qid mam wedi pwyso am wrthfiotigau - twymyn ar y plentyn
F 60 Pwysedd gwaed uchel Cynyddu Ramipril i 10mg od Pwysedd gwaed afreolus ar 5mg Ramipril - cofiais wirio U+E ymhen wythnos
F 32 Peswch Cyngor yn unig Roedd gan y claf hanes o 3 diwrnod o beswch oedd yn cynhyrchu dim, brest yn glir, cyngor yn unig
M 65 Poen yn y frest Chwistrell GTN aspirin Poen yn swnio fel angina, rhoddir GTN yn anaml fel treial therapiwtig, dechreuwyd ymchwiliadau (ecg a gwaed), rhoddwyd aspirin fel ataliaeth nes y sefydlir/gwrthbrofir diagnosis
F 4 Otitis media Amoxycillin 125mg tid Plentyn mewn poen gyda thwymyn, y fam eisiau triniaeth
M 27 Abses deintyddol Metronidazole 400mg tid Ddim yn gallu cael mynediad at ddeintydd am 3 diwrnod, chwydd a phoen yn y wyneb
F 19 Gofyn am bilsen bore wedyn Levonelle 1 Rhagnodiad priodol, hefyd dywedwyd wrthi am gymryd y ddwy ar unwaith - dysgais hynny ar fy nghwrs atal cenhedlu diweddar
F 17 Gorbryder Propranolol SR 80 mg Nerfau arholiadau - nid oeddwn eisiau rhagnodi cyffur tawelu
M 12 Asthma Seretide 125mcg Claf ar salbutamol a beclamethasone (200 mcg bd) dal yn symptomatig, cam nesaf yw ychwanegu gweithydd b 2 hirhoedlog
F 2 Trwyn yn rhedeg a pheswch Amoxycillin 125mg tid Wedi cael symptomau am 3 diwrnod a gollyngiad ffroenol crawnllyd - y frest yn glir
F 56 Gorbryder ac iselder Diazepam 2mg (20 yn unig wedi eu rhoi) cipralex 10mg Roedd y ddynes yma yn orbryderus iawn, felly rhagnodwyd diazepam tymor byr yn ychwanegol at ei gwrthiselyddion, a ddylai helpu yn yr hirdymor.
M 52 Pwysedd gwaed uchel Dim rhagnodiad Roedd gan y claf bwysedd gwaed ar y ffin, trafodais yr opsiynau gydag ef a bydd yn rhoi cynnig ar ddiet ac ymarfer corff am 3 mis - i ddilyn
M 63 Angina sefydlog Cynyddu dos statin Mae gan y claf yma angina sefydlog cronig a cholesterol o 5.6, mae tystiolaeth yn awgrymu y dylai hynny fod yn is, felly cynyddais y dos o simvastatin o 20 i 40mg.
F 4 Dolur gwddf a llygaid coch Diferion llygaid Chloramphenicol, amoxicillin 125mg tid Llygaid coch gludiog a gwddf coch
M 2 Dolur gwddf Amoxicillin 125mg tid Gwddf coch gan frawd y claf uchod
F 35 Gohirio mislif Primolut N tds Mynd ar wyliau ymhen pythefnos ac yn dymuno gohirio’r cylch mislifol

Pwyntiau dysgu a nodwyd o’r achosion hyn

Fe’m synnwyd gan y ffaith y gwelais chwech o blant gyda heintiau ymysg yr ugain o gleifion - sydd mae’n debyg yn adlewyrchiad o’r adeg o’r flwyddyn a’r cymysgedd arferol o achosion yr wyf yn ei weld fel locwm. Rhagnodais wrthfiotigau i’r chwech ac rwyf yn sicr nad dyna’r camau priodol i’w cymryd. Hefyd rhoddais bedwar presgripsiwn gydag enwau perchnogol. Rwyf wedi defnyddio cipralex ddwy waith fel fy newis o wrthiselyddion, rwyf yn ymwybodol eu bod yn ddrytach na gwrthiselyddion eraill. Rwyf wedi gwneud rhai addasiadau i feddyginiaethau hirdymor cleifion yr wyf yn credu sydd yn briodol ac rwyf wedi dewis peidio rhagnodi ar ddau achlysur.

Camau i’w cymryd/newidiadau i’w gwneud

Rwyf yn credu bod angen i mi edrych yn agosach ar ragnodi gwrthfiotigau i blant. Rwyf yn ymwybodol y gall pwysau gan rieni ddylanwadu ar fy newid i ragnodi. Hefyd mae angen i mi ragnodi yn enerig pan fo’n briodol a meddwl am fy newis cyntaf o wrthiselyddion.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau