Defnyddio cyffuriau newydd - perthynas â’r diwydiant

Mae yna nifer o dylanwadau allanol ar benderfyniadau rhagnodi, formiwlariau lleol, defnydd arbenigol lleol o feddyginiaethau, cyhoeddiadau, hysbysebu a chynrychiolwyr cyffuriau. Efallai y byddwch yn dymuno myfyrio ar i ba raddau mae grymoedd allanol yn dylanwadu ar eich arferion rhagnodi. Bydd y templed yma yn eich helpu i ystyried rhai o’r materion allweddol yn y maes yma. Efallai y byddwch yn dymuno cynnwys eich myfyrdodau fel cofnod arfarnu a lawrlwytho’r templed isod fel dogfen ategol.

Enghraifft

Dylanwadau ar ragnodi

1. Pa mor gynnar ar ôl lansiad fyddech yn ystyried rhagnodi cyffur newydd?

Pa ddatganiad sydd fwyaf cywir?

  • Rwyf yn debygol o fod yn un o’r rhai cyntaf i’w ragnodi
  • Buaswn fel arfer yn rhagnodi ar ôl gweld cynrychiolydd y cwmni
  • Byddaf yn aros nes bod fy nghydweithwyr yn y practis wedi roi cynnig arno mewn rhai cleifion
  • Byddaf yn rhagnodi ar ôl i mi weld meddygon ymgynghorol lleol yn ei ddefnyddio mewn ychydig o gleifion
  • Byddaf yn disgwyl nes ei fod yn cael ei ddefnyddio’n gyffredin neu mewn fformiwlari lleol  

2. Beth yw eich polisi ynghylch gweld cynrychiolwyr cyffuriau?

Byddaf yn gweld cynrychiolwyr ar ôl meddygfa boreau Iau drwy apwyntiad yn unig. Rwyf yn tueddu i weld 2 neu 3 bob wythnos

3. Pa ddylanwad, os o gwbl, sydd gan gynrychiolwyr cyffuriau ar eich arferion rhagnodi?

Rwyf yn hoffi clywed am y gwahanol fformwleiddiadau o feddyginiaethau a’r dystiolaeth ddiweddaraf maent yn eu cynhyrchu mewn perthynas â’u cyffur. Rwyf yn cydnabod bod hynny mae’n debyg yn dylanwadu ar fy newis o gyffuriau mewn dosbarth, ond rwyf yn ymwybodol o gostau mewn perthynas â hynny. Rwyf yn ceisio gwerthuso’r dystiolaeth a gyflwynir ond nid yw hynny bob amser yn bosibl.

4. A ydych yn derbyn lletygarwch gan y diwydiant Fferyllol?  - Os ydych, i ba raddau?

Byddaf yn mynd am bryd o fwyd yn achlysurol gyda chynrychiolwyr lleol, a byddaf hefyd yn mynychu cyfarfodydd addysgol a noddir gan y diwydiant. Rwyf wedi bod am gyfarfod addysgol am benwythnos, ond ddim ers ychydig o flynyddoedd.

5. Archwiliwch eich atebion uchod a myfyrio ar unrhyw faterion fydd yn codi.

Mae’r ymarferiad yma wedi gwneud i mi feddwl o ddifri ynghylch beth mewn gwirionedd sydd yn dylanwadu ar fy arferion rhagnodi, roedd raid i mi feddwl yn eithaf caled a oedd gweld cynrychiolwyr yn rheolaidd wedi dylanwadu’n amhriodol ar fy arferion rhagnodi. Rwyf yn amau bod yna beth dylanwad er nad wyf yn mynd ati i ragnodi cyffuriau yn gyfnewid am letygarwch. Rwyf yn amau y dylanwadir ar y cyffur a ragnodaf o fewn categori. Mae fy rhagnodi generig yn uchel, ond gyda nifer o gyffuriau nad ydynt heb batent o hyd, nid yw hynny yn gwneud llawer o wahaniaeth i gostau cyffuriau cyffredinol. Nodaf fy mod yn fabwysiadwr eithaf cynnar ac roeddwn yn ymwybodol o hynny, rwyf yn hoffi rhoi cynnig ar therapïau gwell er mwyn gweld a fyddant o fudd i fy nghleifion.

Yn gyffredinol nid wyf yn credu bod gen i unrhyw broblemau o ran uniondeb, ond yn y dyfodol byddaf yn fwy ymwybodol o ddylanwadau ar fy arferion rhagnodi.  


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau