Holiadur arferion rhagnodi
Er bod data Adroddiad Rhagnodi Practis yn rhoi trosolwg o ragnodi’r practis, mae’n anodd (yn arbennig mewn practisau mwy) i adnabod arferion rhagnodi unigolion. Yn yr adran “gweithio â chydweithwyr” yma, gallai fod yn werthfawr gofyn i eraill fyfyrio ar eich arferion rhagnodi. Efallai y byddwch yn dymuno defnyddio’r Holiadur yma i helpu. Dylech gael yr adborth yn ôl yn ddienw, efallai drwy gael trydydd parti i gasglu’r ffurflenni a ddychwelir. Byddai partneriaid eraill, fferyllwyr lleol a chlercod rhagnodi’r practis yn bobl briodol i ofyn iddynt gwblhau’r ffurflenni.
Ar ôl i chi gasglu’r ymatebion dylech fyfyrio ar y sgoriau ac unrhyw sylwadau. Efallai y byddwch yn dymuno cynnwys y myfyrdodau hyn fel cofnod arfarnu a chadw’r holiaduron fel deunyddiau ategol ychwanegol.
Enghraifft o ddadansoddi’r holiadur uchod
Mae’n ymddangos bod yr ymatebion gan fy nghydweithwyr yn dangos fy mod yn rhagnodi yn briodol ar gyfer cyflyrau cronig a fy mod yn glynu at fformiwlari ein practis. Ni nodwyd unrhyw faterion mewn perthynas â fy rhagnodi hypnotig ac mae fy rhagnodi generig yn iawn, yn ôl y disgwyl. Ond mae rhai o’r ymatebwyr yn meddwl bod fy arferion rhagnodi gwrthfiotigau yn llai na pherffaith - ac un sylwad oedd “mae’n ymddangos ei fod yn rhagnodi gwrthfiotigau i tua 50% o’r cleifion sydd yn cyflwyno ag URTI”. Rwyf yn ymwybodol nad ydw i yn ddigon llym efallai, felly byddaf yn edrych yn agosach ar hyn ac efallai yn archwilio fy ymgynghoriadau am gyfnod byr.