Rhagnodi seiliedig ar dystiolaeth
Mae rheoli y rhan fwyaf o glefydau cronig yn cynnwys materion rhagnodi. Mae gan nifer o bractisau brotocolau fesul cam er mwyn sicrhau bod trin clefydau cronig yn cael ei optimeiddio. Dylai protocolau practisau ddefnyddio’r dystiolaeth gyfredol orau neu ganllawiau cenedlaethol (e.e. NICE, canllawiau BTS). Efallai y byddwch yn dymuno defnyddio’r ymarferiad yma i ddangos sut y rheolir claf yn ystod cyfod o amser gan ddefnyddio protocol/canllawiau o’r fath. Templed ar gael yma.
Hanes y claf: |
---|
Dyn 64 oed 2006 - cyflwynodd gyda syched a polwria math II diabetes ymprydio i ddechrau glwcos 9.2 Cyngor parthed diet, ymarfer corff a cholli pwysau. Gwneud yn dda i ddechrau gyda glycaemia yn cael ei reoli heb feddyginiaeth. 2009 - monitro rheolaidd yn datgelu rheolaeth yn gwaethygu gyda Hba1c o 9.8%. Cychwynnwyd Metformin oherwydd bod BMI yn 32, pwysau gwaed uchel gyda dim niwed terfynol i organau, chychwynnwyd Ramipril, gwiriwyd U+E normal. 2010 - Cynyddwyd dos Metformin i geisio gwella rheolaeth - cychwynnwyd simvastatin oherwydd bod colesterol yn 6.1m/l a phwysau gwaed uchel a risg cardiofasgwlaidd yn .20% gan ddefnyddio offeryn JBS. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn cychwynnwyd gliclazide, rheolaeth glycaemig ar y cychwyn yn rhagorol. 2013 Erbyn hyn yn cymryd uchafswm dosau o metformin a gliclazide, rheolaeth yn isoptimaidd - atgyfeirio posibl er mwyn ystyried GLP-1 Analog neu therapi inswlin, ond yn teimlo bod yn werth rhoi cynnig ar Gilptin a chytunwyd ar hynny gyda’r claf. Pwysau gwaed wedi codi a microalbuminwra newydd ddechrau, optimeiddio Ramipril a dechrau ar Aspirin fel prif ataliaeth. Optimeiddiwyd Simvastatin - cyfanswm colesterol nawr yn 3.9mm/l. 2014 Therapi triphlyg wedi ei hen sefydlu. Gwelliant mewn rheolaeth glycaemig - dim newid yn y cynllun rheoli ond os bydd HbA1c yn gwaethygu, bydd angen ystyried atgyfeirio oherwydd ni chychwynnwyd eto ar GLP-1 analog neu inswlin yn y practis, a thystiolaeth gynyddol yn erbyn dechrau glitazone, ond buaswn yn trafod mwy am hynny gyda’r claf. Hefyd, er na chafwyd profiad uniongyrchol hyd yma, gellid ystyried cyffur dapagliflozin mwy newydd os bydd eGFR yn parhau i fod yn dda. |
Nodwch y canllawiau/protocol a ddefnyddiwyd a phan fo’r broses o reoli’r claf yma yn dilyn y ddogfen ac unrhyw wyro oddi wrthi os yn briodol. |
Rwyf yn credu bod y broses o roli’r claf yma yn gadarn ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae’r defnydd o gliptin yn unol â chanllawiau NICE a’r meddyginiaethau gwarchodol fel sy’n briodol.
Mae’n debyg bod y claf wedi gwarantu aspirin a simvastatin yn gynharach ond erbyn hyn mae’n ymddangos bod y driniaeth yma yn optimaidd. |