QOF

Mae nifer o unigolion yn cyfrannu at dargedau QOF, ac efallai y byddwch yn dymuno amlygu eich cyfraniadau, eich datblygiad a’ch anghenion datblygu i’r dyfodol yn eich arfarniad drwy ddefnyddio’r templed yma.

Enghraifft:
Disgrifiwch feysydd cyfrifoldeb QOF Rwyf yn gyfrifol am elfennau Asthma a COPD QOF
Disgrifiwch feysydd eraill yr ydych yn cyfrannu atynt Mae gen i rôl o ran cefnogi rheolwr y practis mewn perthynas â meysydd trefniadol QOF.
Disgrifiwch effaith QOF ar y ffordd yr ydych yn ymarfer Waw - a oes gennych drwy’r dydd ! Mae yna nifer o bethau da am QOF, ond rwyf yn teimlo fy mod yn barhaus yn swnian ar gleifion i berfformio’n well, i ail fynychu, i gymryd mwy o gyffuriau ac i fynd ar ddiet a gwneud ymarfer corff. Mae anelu at dargedau yn beth da, ond beth am ddarlleniad pwysau gwaed olaf y flwyddyn sydd yn 151/91, pan ydych yn gwybod bod y claf wedi cael diwrnod prysur iawn a'i fod wedi rhuthro i gyrraedd ei apwyntiad yn brydlon? Y colesterol o 5.01? Ar brydiau mae’r system “gwobrau” gyfrifiadurol yn diystyru cynnwys cyffredin. Rwyf yn gobeithio fy mod wedi cynnal fy rôl fel eiriolwr cleifion ac wedi defnyddio sgiliau er mwyn galluogi cleifion i wneud dewisiadau seiliedig ar wybodaeth (e.e. mae gen i glaf 93 oed sydd ar y gofrestr IHD o ganlyniad i angina a gadarnhawyd rhyw 10 mlynedd yn ôl gan gardiolegydd. Nid yw'n cymryd unrhyw feddyginiaeth oherwydd erbyn hyn mae ganddo ffordd o fyw sydd bron yn gwbl eisteddog oherwydd nid yw ei bengliniau na’i gluniau yn ei alluogi i symud o gwmpas rhyw lawer - mae’n cael trafferth dod i fyny i’r feddygfa! Daeth i’r amlwg yn ein system adalw a chafodd ei brofion gwaed blynyddol. Mae ei golesterol yn 5.6, beth ddylem ei wneud? Cefais drafodaeth gydag ef ynghylch pam ein bod yn gwirio colesterol ac egluro y byddai’n cael ei alw am brofion etc. a bod ei golesterol yn rhy uchel. Ei ymateb oedd “wel, nid yw hynny wedi gwneud unrhyw niwed i mi hyd yma”. Mae yna gymaint o enghreifftiau fel hyn, efallai bod hynny yn rhywbeth ddylid ei drafod y yr arfarniad.
Disgrifiwch effaith QOF ar y ffordd y mae eich practis yn gweithio Rydym yn bractis hyfforddi, ac oherwydd hynny mae ein cofnodion meddygol wedi eu crynhoi. Roedd gennym gofrestrau clefydau, ond o graffu yn agosach, roedd y data ymhell o fod yn berffaith, a nifer o gleifion yn ymddangos ar gofrestrau na ddylent fod arnynt, a nifer o gleifion ddim ar gofrestrau. Er bod QOF wedi bodoli ers peth amser, rwyf yn dal i orfod gwirio cleifion i gategorïau asthma/COPD/ddim y naill na’r llall, mae fy mhartneriaid yn gwneud ymarferion cyffelyb yn eu meysydd nhw. Mae codau darllen wedi bod yn rhan o’r broblem, gyda chodau a roddwyd nifer o flynyddoedd yn ôl yn ymddangos mewn categorïau amhriodol. Nid wyf yn deall y system codau darllen ac efallai y gall hynny fod yn un o fy anghenion dysgu. Erbyn hyn mae’r practis yn llawer mwy trefnus o ran dal data. Rydym hefyd wedi datblygu rhai aelodau staff i wahanol rolau ac rwyf wedi bod y rhan o hyfforddi ein cynorthwywyr nyrsio. A yw’r practis yn lle hapusach? - na, rwyf yn teimlo bod rhai yn y tîm yn chwilio am bwyntiau ar draul pethau eraill, ar yr ochr gadarnhaol rwyf yn credu ein bod yn fwy o dîm nag erioed. Mae’r holl bartneriaid wedi gweithio’n dda yn eu meysydd eu hunain yn ddieithriad, ond mae yna deimlad yn datblygu mewn perthynas â swm y gwaith mae hynny yn ei gynhyrchu. Tybed faint o amser a gymer i nall ai newid y system (ac mae’r meysydd wrth gwrs wedi newid eisoes) neu brofi bod hyn mewn gwirionedd yn gwella deilliannau cleifion.
Disgrifiwch effaith QOF ar eich cleifion Mae mwy o gleifion yn derbyn gofal iechyd seiliedig ar dystiolaeth gaiff ei fonitro. Does dim llawer o amheuaeth y bu gwelliant o ran y gofal ataliol a roddir i’n cleifion gyda DM neu IHD, ac mae hynny wedi cael ei gyflawni o ganlyniad i system adalw fwy effeithiol a thrwy drin yn seiliedig ar dargedau. Rwyf yn credu bod cleifion erbyn hyn yn derbyn mwy o adalwadau i’r practis ac efallai eu bod yn fy ymwybodol o’u iechyd (neu’u niwrotig o ran iechyd). Maent yn gwerthfawrogi’r cyfle i roi adborth i’r practis ynghylch y gofal maent yn ei dderbyn (gweler arolwg bodlonrwydd cleifion cyffredinol ac arolwg penodol mewn perthynas â thriniaeth mân lawdriniaethau). A yw wedi effeithio ar ddewisiadau seiliedig ar wybodaeth? Rwyf yn gobeithio nad ydyw - mae hyn yn rhywbeth sydd yn fy mhoeni, efallai y gallwn drafod hynny yn yr arfarniad.
A oes unrhyw anghenion dysgu yn deillio o’ch rolau mewn perthynas â QOF? Yn amlwg mae angen i mi ddiweddaru fy hun ym meysydd Asthma a COPD - gweler y cyrsiau a fynychwyd ymysg y dystiolaeth arall a gyflwynwyd. Rwyf hefyd wedi mynychu cwrs byr ar bwyntiau trefniadol practis (gweler y dystysgrif) ac roedd hwnnw yn waeth nag anobeithiol - ond rhoddais gynnig arni. Mewn perthynas a darllen yr uchod, rwyf yn sylweddoli fy mod yn pryderu bod QOF wedi newid y ffordd yr wyf yn ymarfer - rwyf yn credu y byddaf yn gweud cofnod fideo o fy ymgynghoriadau ac yn eu dadansoddi gyda fy mhartner o bosibl, sef hyfforddwr y practis.

Arolygon bodlonrwydd cleifion a chydweithwyr

Nid oes angen arolygon adborth cleifion ar gyfer y fframwaith ansawdd a chanlyniadau (QOF) bellach, fodd bynnag, mae angen i adborth cleifion a chydweithiwr gael ei gwblhau o leiaf unwaith pob cylch ailddilysu.

Datblygwyd Orbit360 gan yr Uned Cymorth Ailddilysu (RSU) i hwyluso adborth cleifion a chydweithiwr ar gyfer pob meddyg sydd â chysylltiad rhagnodedig â chorff dynodedig GIG yng Nghymru. Mae hyn yn rhad ac am ddim i feddygon ac fe'i datblygwyd i fodloni holl ofynion ailddilysu (noder nad yw Orbit360 ar gael ar hyn o bryd i feddygon mewn swyddi gradd hyfforddi neu staff locwm a gyflogir drwy asiantaethau locwm). Darperir gwybodaeth am sut i gael gafael ar y gwasanaeth hwn isod.

Darganfyddwch pa wybodaeth y mae angen i chi ei chynnwys i fodloni gofynion ailddilysu. Gallwch fynd i hafan Orbit360 i gofrestru a chychwyn eich adborth fel claf a chydweithiwr a gellir dod o hyd i wybodaeth bellach ar y wefan Cwestiynau Cyffredin.

Os byddwch yn penderfynu ymgymryd â’r ymarferiad yma bydd raid i chi fod yn barod am rai sylwadau nad ydynt yn rhagorol. Hefyd mae’n hanfodol bod hynny yn gwbl ddienw, neu fel arall nid ydych yn debygol o dderbyn ymatebion gwir.

Byddwch yn enwebu Cydweithiwr Meddygol Ategol (SMC) ar ddechrau'r broses Orbit360, rhan o'i rôl fydd eich helpu i wneud synnwyr o'r ymatebion a'u dehongli. Mae'n bwysig eich bod yn myfyrio ar yr adborth a gawsoch a chynnwys hyn yn un o'ch arfarniadau blynyddol cyn ailddilysu. Y myfyrdod yw'r agwedd bwysicaf ar y broses adborth a all helpu i nodi anghenion datblygu a chynllunio ar gyfer newid yn eich ymarfer.

Mae amryw o dempledi y gallwch eu defnyddio wrth fyfyrio ar yr arolwg cleifion a chydweithiwr. Rydym wedi dangos ambell enghraifft isod. Gallwch weld pob templed yn yr 'Adroddiad Terfynol ' a geir ar y dudalen hon.

Unwaith y byddwch yn derbyn y lleiafswm o ymatebion claf (34) a chydweithiwr (15), bydd eich SMC yn cael ei hysbysu ac yn cael cyfle i roi adborth ar eich adroddiad wedi'i gwblhau. Yna dylech ychwanegu hwn, ynghyd â'ch myfyrdodau, at MARS. Dylech ddewis ' Adborth' yn y blwch categori ac yna naill ai 'Claf', 'Cydweithiwr' neu 'Claf a Chydweithiwr' yn dibynnu ar yr hyn rydych wedi'i wneud. Mae Orbit360 yn cynnig ymarferoldeb i chi gwblhau eich adborth i gleifion a chydweithiwr ar yr un pryd neu'n annibynnol ar ei gilydd. Lle bo'n bosibl dylech eu cwblhau ar yr un pryd er mwyn lleihau'r gwaith ar gyfer yr SMC yn y broses.

Mae pob arolwg adborth a gwblhawyd gan gleifion a phob cydweithiwr yn ddienw ac mae'n debygol y bydd y Practis a'r unigolyn yn cael rhywfaint o adborth negyddol. Efallai na fydd graddau cyffredinol meddygon gan gleifion yn cyfateb i ddisgwyliad y meddyg a gallai sgôr is na'r disgwyl arwain at unigolyn digalon. Am y rheswm hwn, mae eich 'cydweithiwr meddygol ategol' a enwebwyd yn derbyn y wybodaeth am yr arolwg yn gyntaf ac yn ei rhyddhau i chi

 

Templed arolwg cleifion ar gael yma.

Enghraifft o dempled i'w ddefnyddio wrth Fyfyrio ar Arolygon Cleifion:
Erbyn hyn rydych wedi derbyn crynodeb o ymatebion gan eich cleifion ac wedi cael cyfle i drafod hynny gyda’ch Cydweithiwr Meddygol Cefnogol (SMC) enwebedig. Efallai y byddwch yn dymuno ystyried y canlynol wrth ddarllen drwy’r canlyniadau ac ystyried adborth eich SMC. Yna gallwch lanlwytho'r templed hwn i MARS.
A yw’r ymatebion yn gydnaws â fy hunan-raddiad fy hun? Ar y cyfan roeddent yn rhagori ar fy marn fy hun, o ystyried y pwysau amser sydd arnom ac o wybod bod materion y tu hwnt i’n rheolaeth yn golygu bod cael apwyntiad mor anodd, oeddwn yn hapus iawn o weld bod cymaint o gleifion yn fy ngraddio fel ‘rhagorol’ a finnau wedi ystyried fy hun fel ‘da’.
Os oedd yn well na’r disgwyl, pa feysydd yn benodol a ragorodd ar fy hunan-raddiad? Pam fod hynny yn wir? Roedd ‘Gwrando’ ac ‘asesu’r cyflwr meddygol’ yn well na’r disgwyl oherwydd fy mod yn teimlo fy mod yn cael fy rhuthro y rhan fwyaf o’r amser. Rwyf yn teimlo nad yw’r sgiliau canolbwyntio ar y claf yr wyf wedi eu datblygu ar y VTS yn aml yn gallu dod i’r amlwg. Mae’n galondid bod cleifion yn teimlo fy mod yn gwrando, ac yna yn mynd ymlaen i wneud asesiadau meddygol da. Gallaf ond tybio bod y sgiliau yma erbyn hyn yn gynhenid.
Petai rhai meysydd yn is na fy hunan-raddiad, beth oeddent a pham efallai fod hynny wedi digwydd? O ystyried yr uchod, roeddwn yn siomedig nad oedd yr holl ymatebion ynghylch egluro ‘cyflwr a rheoli’ a ‘chynnwys y claf mewn penderfyniadau’ wedi derbyn graddau mor uchel. Roedd rhai wedi fy marcio fel ‘da’ ac roedd yna un ‘boddhaol’. Oherwydd yr ymdrech i orffen yr ymgynghoriad mewn 10 munud, rwyf yn teimlo fy mod yn rhuthro’r darn olaf ac yn canolbwyntio fwy ar y meddyg. Byddaf yn ymdrechu i gofio y bydd egluro mwy i’r claf am y cyflwr a’r rheolaeth yn arbed amser yn y pen draw, ac y bydd yna fwy o gydymffurfio a llai o ail-ymweliadau, hefyd mae yna wahanol ymadroddion y gallaf eu defnyddio wrth darfod opsiynau triniaethau fydd yn gyflym yn galluogi’r claf i deimlo ei fod yn cyfranogi. Gallai trafod mwy ar hyn gyda fy arfarnwr fy helpu.
Pa destun (os o gwbl) a nodwyd oedd yn fuddiol o ran egluro’r ymatebion? Nid oedd yna unrhyw sylwadau negyddol, felly rwyf yn teimlo’n well am y sgoriau is fel y trafodwyd uchod, rwyf yn teimlo y byddai unrhyw beth arwyddocaol wedi cael ei grybwyll yma, hefyd roedd yna nifer o sylwadau megis ‘meddyg rhagorol’, ‘bob amser yn gwneud i mi deimlo’n gyfforddus’ ‘gwrandawodd arnaf’ etc.
A oes yna unrhyw gyfleoedd datblygu a awgrymir gan y canlyniadau? Byddaf yn ailymweld â fy sgiliau ymgynghori fel y trafodwyd uchod ac yn canolbwyntio mwy ar y claf ar ddiwedd yr ymgynghoriad yn ogystal ag ar y dechrau.
A oedd yna unrhyw fewnwelediadau eraill a/ neu gyfleoedd datblygu a ddeilliodd o drafodaeth gyda’r SMC? Nid oedd fy nghydweithiwr yn ystyried bod y graddau ychydig yn is yn arwyddocaol mewn unrhyw ffordd a nododd y byddai’n teimlo’n hapus iawn petai’n cael yr un ymateb. Fe gytunodd â fy awgrymiadau ynghylch sgiliau ymgynghori oherwydd bob hynny bob amser yn ymarferiad da.

Templed arolwg y cydweithiwr ar gael yma.        

Enghraifft o dempled i'w ddefnyddio wrth Fyfyrio ar Arolygon Cyd-weithwyr:
Erbyn hyn rydych wedi derbyn crynodeb o ymatebion eich cydweithwyr ac wedi cael cyfle i drafod hynny gyda’ch Cydweithiwr Meddygol Cefnogol (SMC) enwebedig. Efallai y byddwch yn dymuno ystyried y canlynol wrth ddarllen drwy’r canlyniadau ac ystyried adborth eich SMC.
A yw’r ymatebion yn gydnaws â fy hunan-raddiad fy hun? Ar y cyfan roeddwn yn hapus ac yn teimlo rhyddhad, roedd yr holl sgoriau cyfartalog yn uwch na’r hyn a ragfynegais.
Os oedd yn well na’r disgwyl, pa feysydd yn benodol a ragorodd ar fy hunan-raddiad? Pam fod hynny yn wir?

Roedd y cwestiynau sy'n ymwneud â fy sgiliau fel meddyg yn ddiddorol gan nad oeddwn wir yn siŵr beth oedd y oedd y rhan greiddiol hon o'm gwaith, rydym yn gweithio'n effeithiol ar ein pennau ein hunain. Mae’n debyg eu bod yn sylwi ar farn pobl eraill a thrwy ddarllen fy nghofnodion meddygol. Nid oes gennym lawer o faromedr ar gyfer mesur ansawdd ein harbenigedd clinigol, ac mae’r sgôr uchel a roddwyd sydd yn awgrymu y byddai cydweithwyr yn troi ataf am gyngor yn galonogol.

Petai rhai meysydd yn is na fy hunan-raddiad, beth oeddent a pham efallai fod hynny wedi digwydd? Roeddwn yn siomedig ac yn chwilfrydig ynghylch rhai o’r sgoriau. Er bod y sgôr yn gyffredinol wedi bod yn uwch mewn rhai meysydd na’r rhai a roddir i feddygon ar gyfartaledd, roedd yna raddau is ymysg y sgoriau hynny ar gyfer ‘Rheoli amser’, ‘Ymrwymiad i wella ansawdd gwasanaeth’ a ‘chyfraniad i addysg a goruchwylio myfyrwyr a chydweithwyr iau’. I ddechrau, nid oes gennym fyfyrwyr hyd yn oed, ac er fy mod yn uwch bartner, ni fyddwn fyth yn dweud bod unrhyw un o fy nghydweithwyr yn feddygon iau. Rheoli amser! Fi sydd yn cyrraedd gyntaf, yn gwneud fy ngwaith papur cyn i’r feddygfa agor ac yn gorffen yn brydlon a’r holl waith wedi ei gwblhau cyn gadael. Nid wyf hyd yn oed yn deall beth mae ‘Ymrwymiad i wella ansawdd gwasanaeth’ yn ei olygu! Gallaf ond meddwl mai cyfraniad i gyfarfodydd practis a thrafod dyfodol y practis a gwasanaethau yw ei ystyr. Fel yr uwch bartner, fi sydd yn cadeirio’r cyfarfodydd ac rwyf yn cynnig safbwynt profiadol ar gynigion newydd fel nad yw pobl yn bod yn fyrbwyll - rhoddwyd cynnig ar y rhan fwyaf o’r pethau yn y gorffennol beth bynnag. Ni allai fy SMC roi unrhyw oleuni ar y sylwadau yma ychwaith, er y nododd bod bron yr holl raddau eraill yn ‘rhagorol’. Efallai y bydd trafod mwy ar hyn gyda fy arfarnwr yn fy helpu.
Pa destun (os o gwbl) a nodwyd oedd yn fuddiol o ran egluro’r ymatebion? Roedd yna nifer o ymatebion calonogol, ond un sylwad oedd ‘gallai fod yn fuddiol gadael i reolwr y practis gadeirio’r cyfarfodydd, oherwydd byddai hynny yn galluogi i’r meddyg gyfrannu mwy i’r cyfarfodydd yn hytrach na chanolbwyntio ar eu cynnal a chadw’r cofnodion’. Roeddwn wedi tybio bod fy rôl yn un bwysig o ran sicrhau bod y broses briodol yn cael ei dilyn, ond efallai byddai pobl eraill yn ystyried bod hynny yn golygu cyfranogi llai i’r drafodaeth. O darfod hynny ymhellach gyda fy SMC, ac er nad ef a ysgrifennodd y sylwad, fe awgrymodd bod y rhan fwyaf o bractisau eraill yn defnyddio eu rheolwr practis ar gyfer y rôl yma, oherwydd bod hynny yn rhyddhau’r personél clinigol i gyfranogi mwy yn y drafodaeth. Byddaf yn rhoi mwy o ystyriaeth i hynny ac yn trafod y mater gyda fy arfarnwr hefyd.
A oes yna unrhyw gyfleoedd datblygu a awgrymir gan y canlyniadau? Mae’r sgôr isel am ‘Reoli amser’ yn dal i fy nrysu. Efallai y bydd yn werth archwilio hyn ymhellach mewn cyfarfod practis - mewn ffordd anfeirniadol wrth gwrs! Gallai fod yn drafodaeth benagored am lwyth gwaith tybiedig ac a oes angen ailddosbarthu.
A oedd yna unrhyw fewnwelediadau eraill a/ neu gyfleoedd datblygu a ddeilliodd o drafodaeth gyda’r SMC? Trafodwyd a chytunwyd fel uchod

Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau