Beth yw Arfarniad Rhithwir?
Ar gyfer yr adnodd hwn rydym yn diffinio arfarnu rhithwir fel cyfarfod arfarnu sy’n digwydd ar lwyfan rhithwir neu feddalwedd, e.e. Teams ac nid yw'n cael ei gynnal mewn amgylchedd wyneb yn wyneb corfforol.
Mae canllaw CMC Cynnal arfarniad lawn yn flynyddol yn dweud mai:
Eich cyfrifoldeb chi yw cael arfarniad blynyddol sydd:
- yn cael ei gynnal yn yr un ystafell gyda'r arfarnwr a'r un sy’n cael ei arfarnu, neu drwy gyswllt fideo, fel bod modd i’r naill a’r llall weld ei gilydd
Mae ystod eang o lwyfannau cyfarfod rhithwir a meddalwedd ar gael, ac mae’n bosibl bydd llawer o bobl yn gyfarwydd â nhw ers y pandemig. Bydd yr adnodd hwn yn rhoi arweiniad ar wahanol lwyfannau yn yr adrannau pellach.