Casgliad

Mae’r modiwl yma wedi archwilio’r hanes y tu ôl i gynllun Cerdyn Melyn a phwysigrwydd gwyliadwriaeth ffarmacolegol.  Rydych wedi darllen am sut mae lefelau adrodd yn isel yng Nghymru er gwaethaf effaith sylweddol ADRau ar forbidrwydd a marwolaethau.  Erbyn hyn dylech fod yn gyfarwydd â’r amrywiol ffyrdd y gallwch adrodd am ADRau a amheuir, a’r ADRau y mae gan MHRA ddiddordeb penodol o ran eu monitro.  Bydd ein sleid terfynol yn y modiwl yma yn edrych ar ffyrdd o wella adroddiadau ADR ymysg eich poblogaeth o gleifion.

Gwella Adroddiadau Cerdyn Melyn yn eich practis

Er mwyn helpu i gynyddu niferoedd adroddiadau Cerdyn Melyn y eich practis efallai y byddwch eisiau ystyried y canlynol....

Mewn ymgynghoriad

Pan fo claf yn cyfeirio at sgil effeithiau o ganlyniad i feddyginiaeth, meddyliwch: a yw hwn yn sgil effaith arferol?  A yw hwn yn grŵp o gleifion agored i niwed? A yw hwn yn gyffur triongl du? Os rhoddir ateb cadarnhaol i unrhyw un o’r cwestiynau yma, ystyriwch anfon Cerdyn Melyn naill ai drwy Vision neu ar-lein/ap

 Addysgu eich cydweithwyr sydd yn feddygon teulu

Faint o Gardiau Melyn mae eich practis wedi eu hanfon?  A oes unrhyw un yn eich practis wedi anfon un drwy Vision? Os nad ydynt, dangoswch iddynt sut mae gwneud hynny neu dywedwch wrthynt am lawrlwytho’r ap.

Tiwtorialau gyda meddygon iau

Ystyriwch drafod adroddiadau Cerdyn Melyn mewn tiwtorialau gyda’r cofrestryddion a FY2au yn y feddygfa.

Addysgu nyrsys practis

Mae nifer o’r cyffuriau triongl du yn feddyginiaethau afiechydon cronig (e.e. mewnanadlwyr cyfun, meddyginiaethau diabetig, NOACau).  Yn aml mae’r cyflyrau yma yn cael eu rheoli gan nyrsys practis a bydd cleifion yn adrodd am ADRau iddyn nhw yn hytrach na meddygon teulu.  Cynhaliwch diwtorial gyda nhw am adroddiadau Cerdyn Melyn neu argymell y modiwl yma.

Annog Hunan-adrodd

Gosodwch y posteri i gleifion yn eich meddygfa.  Ystyriwch lawrlwytho’r fideo gwybodaeth i gleifion er mwyn ei llwytho ar eich sgrîn arddangosiadau gweledol.  Mae’r fideos a’r posteri ar gael drwy JayEx – Med-Extranet 

Archwilio syniadau

  • Archwiliwch gleifion sydd wedi rhoi’r gorau i gymryd NOACau yn ystod y 2 flynedd diwethaf -  a yw’r rhesymau yn y nodiadau, ac os ydynt a adroddwyd am hynny i’r cynllun Cerdyn Melyn?
  • Archwiliwch “Alergeddau/Adweithiau i Gyffuriau” a gofnodwyd yn y 6 mis diwethaf - sawl un a adroddwyd amdanynt i’r Cynllun Cerdyn Melyn?
  • Archwiliwch gleifion sydd yn defnyddio mewnanadlwyr mwy newydd (triongl du) neu gyffuriau diabetig ac sydd â sgil effeithiau yr adroddwyd amdanynt yn y nodiadau.  Faint ohonynt a adroddwyd amdanynt yn ffurfiol i’r Cynllun Cerdyn Melyn?

 

Adborth

Er mwyn rhoi adborth ar y modiwl hwn, dilynwch y ddolen hon, byddwch yn cael eich cymryd at holiadur byr a fydd yn cymryd 5 munud i'w gwblhau.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau