Adnoddau Hyfforddiant
Fel y nodwyd eisoes mae yna nifer o ffyrdd o ddangos cymhwysedd mewn diogelu plant. Isod ceir rhestr o’r adnoddau sydd ar gael yng Nghymru ac yn Genedlaethol.
- Mae gan wefan y Tîm Diogelu Cenedlaethol fanylion am ddogfennau cyfeirio defnyddiol i gefnogi eich rôl o ran diogelu.
- Mae yna fodiwlau e-ddysgu lefel 1 a 2 GIG Cymru am ddim ar gael i holl staff y GIG. Mae manylion am sut mae cael mynediad i’r rhain ar gael ar y tudalennau gwe SCS yma, i gael mynediad y tu allan i’r Practis, ewch yma.
- Mae Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau yn cynnal digwyddiadau hyfforddi rheolaidd, yn aml drwy eu Timau Diogelu. Dylai manylion fod ar gael ar wefan eich Bwrdd Iechyd neu Ymddiriedolaeth lleol.
- Mae Byrddau Diogelu Plant Rhanbarthol yn cynnal cyrsiau hyfforddiant yn aml, ac mae nifer ohonynt yn briodol. Mae nifer o’u digwyddiadau yn rhai amlasiantaeth, ac mae hynny yn arbennig o ddefnyddiol i feddygon sydd yn chwilio am hyfforddiant ar lefel 3 ac uwch. Mae manylion ar gael ar wefannau unigol RSCB.
Bwrdd Diogelu Plant Lleol Caerdydd a Bro Morgannwg
Bwrdd Diogelu Plant: Lleol De Ddwyrain Cymru
Bwrdd Diogelu Plant Canolbarth a Gorllewin Cymru
- Mae RCGP mewn cydweithrediad ag NSPCC wedi datblygu pecyn cymorth sydd wedi ei anelu at hyfforddiant mewn Gofal Sylfaenol. Pecyn Cymorth.
- Dylai bod gan yr holl Golegau Brenhinol fanylion ar hyfforddiant penodol ar arbenigeddau. Mae gan RCPCH a RCGP yn benodol lawer o adnoddau ac maent yn cynnal llawer o ddigwyddiadau hyfforddi.
- Mae sesiynau hyfforddi yn cael eu cynnal yn rheolaidd gan Elusennau a Sefydliadau Gwirfoddol ar draws Cymru e.e. NSPCC, Plant yng Nghymru, e-LFH, Cymdeithas Broffesiynol Gweithwyr Amddiffyn Plant Proffesiynol.
- Mae yna nifer o fodiwlau e-ddysgu eraill a chyfleoedd eraill ar gael i feddygon drwy ffynonellau megis BMJ, NSPCC, e-ddysgu ar gyfer Gofal Iechyd.
- Mae yna fersiwn arall fyrrach y gallwch dalu amdano, am bris gostyngedig i ddefnyddwyr lluosog: safeguarding-level-3-online.
Adborth
Er mwyn rhoi adborth ar y modiwl hwn, dilynwch y ddolen hon, byddwch yn cael eich cymryd at holiadur byr a fydd yn cymryd 5 munud i'w gwblhau.