Cyflwyniad

Mae Deddfau Plant 1989 [i] a 2004 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014[ii] yn darparu’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer amddiffyn a diogelu plant yng Nghymru. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn atgyfnerthu’r cydweithredu drwy osod dyletswyddau ar lywodraeth leol, byrddau iechyd a chyrff cyhoeddus eraill i wella llesiant pobl a darparu gwasanaethau ataliol a chyngor a chymorth. Mae’n rhaid i bawb sydd yn gweithio o dan y Ddeddf roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn 1989 [iii]. 

Mae Gweithdrefnau Diogelu Plant Cymru Gyfan 2008, sydd yn hysbysu gweithgareddau diogelu a phrosesau yng Nghymru yn cael eu disodli gan Weithdrefnau Diogelu Cenedlaethol Cymru Gyfan ym Mehefin 2019.  Bydd y gweithdrefnau newydd yn berthnasol i oedolion a phlant.  Bydd nifer o ddogfennau canllawiau ymarfer yn atodi’r Gweithdrefnau newydd, a byddant yn rhoi mwy o arweiniad mewn rhai meysydd megis camfanteisio'n rhywiol ar blant.

 

 

 

Roedd 16,080 o blant yn derbyn gofal a cymorth yng Nghymru [iv] ar 31 Mawrth 2018, cyfradd o 256 am bob 10,000 o blant dan 18 oed.   Roedd gan ddau ddeg un y cant o’r plant yma anabledd, ac roedd 54 angen gofal a chymorth oherwydd camdriniaeth neu esgeulustod gwirioneddol, neu risg o hynny[v] .

 Yng Nghymru roedd 2,690 o blant ar gofrestr amddiffyn plant [vi](CPR) ar 31 Mawrth 2017, ac ychwanegwyd 3,931 o blan at CPR yn ystod y flwyddyn rhwng 1 Ebrill 2016 i 31 Mawrth 2017. Rhwng 2002 a 2016 bu cynnydd o 59.7 y cant yn nifer y plant ar CPR ar 31 Mawrth, a bu cynnydd o 84.9 y cant yn nifer y plant a ychwanegwyd at CPR bob blwyddyn.  Mae canllawiau Cymreig statudol [viii] ar gael i gyfeirio atynt i rai sydd yn ymateb i bryderon am blentyn sydd yn wynebu risg o niwed.

Cofnodwyd 2,845 o droseddau rhywiol yn erbyn plant dan 16 oed yng Nghymru, ac maent wedi cynyddu’n arwyddocaol yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Er bod y duedd yng Nghymru yn debyg i’r duedd yn Lloegr, yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae’r troseddau a gofnodwyd yng Nghymru wedi cynyddu yn gyflymach nag mewn unrhyw wlad arall yn y DU.  Yn ystod y flwyddyn ers i gyfathrebu’n rhywiol â phlentyn ddod yn drosedd yn Ebrill 2017, cofnodwyd 3,096 o droseddau yng Nghymru a Lloegr a gan Heddlu Trafnidiaeth Prydain.  Cofnodwyd tri achos o ddynladdiad yn erbyn plant dan 18 oed yng Nghymru yn 2016/17, sydd yn gyfradd o 4.8 achos o ddynladdiad am bob miliwn o blant dan 18 oed.

 

Pryderon Plant

Mae Lles emosiynol ac iechyd meddwl [ix] yn ddau o brif bryderon plant heddiw.  Nododd adroddiad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a gyhoeddwyd yn 2018 bod angen datblygu gwelliannau i ‘reng flaen’ llwybr gofal, gyda blaenoriaeth yn cael ei roi i hyrwyddo cydnerthedd emosiynol ac ymyrraeth gynnar.

 


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau