Cymwyseddau a hyfforddiant

Yng Nghymru, mae’r Tîm Diogelu Cenedlaethol (GIG Cymru) yn rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd yn cynnwys nyrsys a meddygon dynodedig a meddyg teulu arweiniol. Maent yn cefnogi’r saith bwrdd iechyd (BI) a’r tair ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru.

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru dîm diogelu mewnol, a’r holl BIau ac ymddiriedolaethau eraill, sydd yn cynnwys gweithwyr diogelu proffesiynol. Hefyd mae gan y BIau ac Ymddiriedolaeth GIG  feddygon penodol. Yng Nghymru yr LSCBau erbyn hyn yw’r chwe bwrdd diogelu plant rhanbarthol (hefyd mae yna chwe bwrdd diogelu oedolion rhanbarthol, ac mewn rhai ardaloedd mae yna gynlluniau i uno er mwyn bod yn fyrddau oedolion a phlant). 

Lefelau Hyfforddiant Gofynnol:

  • Lefel 1: Yr holl staff sydd yn gweithio mewn gwasanaethau gofal iechyd
  • Lefel 2: Yr holl staff anghlinigol a chlinigol ddaw i gysylltiad (waeth pa mor fychan) â phlant, pobl ifanc a/neu rieni/gofalwyr neu unrhyw oedolyn allai achosi risg i blant.
  • Lefel 3: Staff clinigol sydd yn gweithio â phlant, pobl ifanc a/neu eu rhieni/gofalwyr a/neu unrhyw oedolyn allai achosi risg i blant ac allai o bosibl gyfrannu at asesu, cynllunio, ymyrryd a/neu werthuso anghenion plentyn neu berson ifanc a/neu gapasiti rhiantu (p’un a fu unrhyw bryderon blaenorol neu beidio ynghylch amddiffyn/diogelu plant)
  • Lefel 4: Rolau arbenigol - gweithwyr proffesiynol penodol
  • Lefel 5: Rolau arbenigol - gweithwyr proffesiynol dynodedig

 

Mae’n ofynnol i bawb sydd yn gweithio yn y GIG  fodloni cymwyseddau ar lefel 1, ac mae’n ofynnol i’r rhan fwyaf o feddygon gyrraedd lefel 2 neu 3. Mae gan ICD restr gynhwysfawr o ba lefel sydd yn ofynnol ar gyfer rolau penodol.

Mae lefel 3 wedi ei rannu i’r proffesiynau hynny y mae’n ofynnol iddynt fodloni cymwyseddau craidd, a’r rhai y mae’n ofynnol iddynt hefyd fodloni gwybodaeth a sgiliau arbenigol. Mae hynny yn cael ei egluro’n llawnach yn y ddogfen.

Mae’r holl lefelau ICD wedi cael eu diweddaru’n ddiweddar ac maent yn wahanol i’r lefelau sydd wedi cael eu defnyddio’n flaenorol.

 

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau