Fformat hyfforddiant
Mae’r rhestr o gymwyseddau, gwybodaeth, sgiliau agweddau a nodir yn yr ICD yn llawn iawn ac yn gynhwysfawr. Mae’n amlwg o’r rhain bod angen i’r broses o gyflawni’r cymwyseddau yma fod yn broses o ddysgu, myfyrio a gweithredu parhaus.
Hefyd mae angen i’r hyfforddiant fod yn briodol i rôl, cyfrifoldebau a natur gwaith y gweithwyr proffesiynol. O ganlyniad i hynny, mae angen amrywiaeth o gyfleoedd a ffyrdd o gaffael y cymwyseddau perthnasol. Nid oes yna ateb unffurf.
Mae yna amrywiaeth o ffyrdd y gellir cyflawni hyfforddiant a dyma rai enghreifftiau:
- Mae e-ddysgu yn briodol ar lefelau 1 a 2 a gellir ei ddefnyddio ar lefel 3 fel paratoad ar gyfer dysgu myfyriol i dimau.
- Mynychu sesiwn hyfforddiant yn eich sefydliad neu bractis neu y tu allan.
- Sesiynau amlddisgyblaethol e.e. fel rhan o gyfarfodydd amlbroffesiynol a/neu gyfarfodydd staff
- Darllen canllawiau lleol priodol
- Adolygiadau achos a Digwyddiadau Arwyddocaol
- Dysgu o wersi o ymchwil, astudiaethau achos, cwynion ac Adolygiadau o Ymarfer Plant
- Llunio canllawiau, polisïau a phrotocolau
- Archwilio ymarfer e.e. cydymffurfio â pholisïau a phrotocolau
- Drwy ddefnyddio pecynnau dysgu a ddarperir o fewn sefydliadau a phractisau e.e. pecyn RCGP
Ar gyfer gwerthuso, nid yw’n ddigonol mynychu digwyddiadau dysgu yn unig. Mae'n bwysig dangos myfyrdod a bod yr hyn a ddysgir yn cael e drosglwyddo’n effeithiol i’ch gwaith. Hefyd, mae’n ddymunol dangos newid mewn ymarfer er mwyn gwella deilliannau.
Ar lefel 3 ac uwch dylai cyfleoedd hyfforddiant, addysg a dysgu fod yn rhai amlddisgyblaethol, rhyngasiantaethol, ac o ffynonellau allanol a mewnol. Dylid cael tystiolaeth o fyfyrdod personol, trafodaeth ar senarios a /neu achosion, gwersi o ymchwil ac archwilio a dysgu o Adolygiadau Ymarfer Plant (mae’r rhain wedi disodli Adolygiadau o Achosion Difrifol yng Nghymru). Hefyd dylid cael tystiolaeth o gyfathrebu gyda phlant. Dylai’r hyfforddiant fod yn briodol i arbenigedd a rolau’r cyfranogwyr.
Dylai Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau a Phractisau ystyried cwmpasu dysgu am ddiogelu/amddiffyn plant yn eu cyfarfodydd rheolaidd. Gallai hynny gynnwys: cyfarfodydd amlbroffesiynol a/neu amlasiantaeth; cyfarfodydd plant a theuluoedd agored i niwed; diweddaru clinigol ac archwilio; adolygiadau o ddigwyddiadau critigol ac arwyddocaol; ac adolygiadau cymheiriaid neu drafodaethau. i