Asesu a dilysu gwybodaeth

Mae’r adran hon yn delio â rhan fechan ond bwysig o’r arfarniad, gan edrych ar yr wybodaeth a gyflwynwyd yn achos gofynion yr GMC ar gyfer ail-ddilysu. Bydd y rhan fwyaf o feddygon sy’n cymryd rhan yn y broses arfarnu’n cyrraedd (ac yn rhagori) ar y gofynion hyn. Mae dogfen y GMC sy'n ategu gwybodaeth ar gyfer arfarnu ac ail-ddilysu yn datgan yn glir pa wybodaeth ategol sydd ei hangen mewn cylch pum mlynedd. Mae llawer o’r pwyslais sy’n gysylltiedig â’r wybodaeth hon wedi bod yn ymwneud â’r niferoedd ac amserlenni. Gan edrych yn fanylach ar ddogfen y GMC mae canllaw yng nghyd-destun yr wybodaeth hon o ran yr unigolyn a’u gweithle.

Mae dyletswydd ar yr arfarnwr i asesu’r wybodaeth hon ac, fel sy’n briodol, i ddilysu ei bod yn cydymffurfio â gofynion y GMC. Mae angen gwneud hyn ym mhob arfarniad yn achos eitemau penodol ac o leiaf unwaith yn ystod y cylch pum mlynedd yn achos y lleill.  

Dylai’r rhan fwyaf o’r drafodaeth arfarnu ymdrin â chyflawniadau, dyheadau ac ystyriaethau gwaith-bywyd y meddyg, fel sy’n briodol. Mewn llawer o achosion bydd yn amlwg o’r deunydd ysgrifenedig bod y gofynion wedi’u cyflawni. Efallai na fydd meddygon eraill wedi cyflwyno’r wybodaeth hon yn dda a bydd angen i’r drafodaeth arfarnu geisio cael gafael ar wir fudd datblygiadol yr wybodaeth. 

Mae’r wybodaeth ategol y mae’r GMC yn disgwyl a fydd ar gael yn yr arfarniad yn dod o fewn pedwar categori cyffredinol:

  • Gwybodaeth gyffredinol – a fydd yn rhoi cyd-destun yr hyn rydych yn ei wneud ym mhob agwedd ar eich gwaith
  • Cadw’n gyfoes – cynnal a gwella ansawdd eich gwaith proffesiynol
  • Adolygu eich ymarfer – gwerthuso ansawdd eich gwaith proffesiynol
  • Adborth ar eich ymarfer – sut mae eraill yn gweld ansawdd eich gwaith proffesiynol

Mae’r categorïau hyn yn ategu’r chwe math mwy cyfarwydd o wybodaeth ategol sydd angen ei dilysu. Mae ethos dogfen y GMC yn gwbl ddatblygiadol ac mae’n rhoi pwyslais mawr ar hunan ymwybyddiaeth a myfyrio. Nid yw’r GMC yn sôn am faint yr wybodaeth, ond yn hytrach am ei hansawdd, ei pherthnasedd ac allbynnau’r gweithgarwch datblygiadol. Wrth asesu digonolrwydd yr wybodaeth ategol dylai’r arfarnwr felly ganolbwyntio ar yr agweddau hyn yn hytrach nag ar faint neu niferoedd tystysgrifau.

“Mae tystysgrif yn profi presenoldeb yn unig, mae myfyrio’n dangos sylw, mae newid yn dangos datblygiad ac mae archwilio’n dangos gwerthusiad”

Mae’r modiwl hwn ar ymarfer myfyriol yn dangos rhai enghreifftiau o wybodaeth a gyflwynwyd mewn modd myfyriol. 

Mae canllaw pellach wedi’i ddatblygu ar gyfer y chwe chategori o ddogfennaeth ategol ar gyfer arfarnwyr yng Nghymru. 

Yn y sefyllfa hon gallai’r arfarnwr ohirio’r arfarniad cyn iddo ddigwydd. Gellid gofyn i’r meddyg ychwanegu rhagor o bwyntiau dysgu a’r hyn roedd yn ei olygu iddynt hwy a’u hymarfer (ie, peidio defnyddio’r gair myfyrdod!). Os yw’r arfarniad wedi mynd ymlaen, fel yn y senario hwn, yna gallai’r arfarnwr geisio annog myfyrio yn y cyfarfod. Mae’r rhan fwyaf o feddygon sy’n dweud nad ydynt yn fyfyrgar yn myfyrio mewn gwirionedd – ond nad ydynt yn gallu ei gofnodi ar bapur. Dylai cwestiynau gyflwyno elfen o her “pam?” “Pam felly?” “Beth sydd wedi newid?” neu “a ydych chi nawr?”. Os yw hyn yn dangos canlyniadau o ddysgu, yna gellir cofnodi hyn yn y crynodeb o’r arfarniad.

Gellir gofyn i’r meddyg (efallai drwy’r PDP) gynhyrchu 3 neu 4 cofnod myfyriol yn arfarniad y flwyddyn nesaf. Y ffordd hawddaf o gyflawni hyn yw drwy ateb y cwestiynau a ofynnir yn nhempled y cofnod MARS CPD sy’n gofyn:-

  • Teitl
  • Gweithgarwch
    • Beth wnes i?
    • Pa bryd wnes i hynny?
  • Rheswm
    • Pam wnes i hynny?
  • Myfyrdod
    • Beth wnes i ddysgu?
  • Canlyniad
    • Pa newidiadau wyf fi wedi eu gwneud?
    • Beth fyddaf yn ei wneud yn wahanol?

Gall yr ymgysylltiad yn yr arfarniad eich arwain; os nad oes ymgysylltu yna byddai’n anodd dilysu’r wybodaeth. Os ceid ychydig yn unig o ymgysylltu, yna gellid defnyddio’r PDP ar gyfer y flwyddyn ddilynol fel yr awgrymwyd uchod.

Rhaid i’r broses o ddilysu gwybodaeth gynnwys cydgytundeb. Yn y sefyllfa hon, os na ellir dod i gytundeb, dylai’r archwiliad gael ei gynnal y tu allan i’r arfarniad a dylid gofyn am gyngor gan eich arweinydd arfarnu. Ni ddylai hyn amharu ar weddill y drafodaeth arfarnu.

YBydd angen i chi ganfod graddfa ymgysylltiad y meddyg yn y broses. Gallai fod yn ddigon dilys i’r meddyg fod wedi rhoi datganiad ar y dechrau ac yna gadael i’r cydweithiwr ddelio â’r gweddill. Ar y llaw arall, gall y meddyg fod yn gwrthod cydweithredu â’r broses gwyno.

Os yw’r meddyg yn gwrthod ymgysylltu, ni ddylid cwblhau’r crynodeb o’r arfarniad nes ceir cyngor gan yr arweinydd arfarnu. Rhaid edrych ar bob achos ar sail teilyngdod.

Mae angen i chi wybod beth yw’r dull dosbarthu a chasglu. Mae angen i’r rhain fod yn gwbl annibynnol ar y meddyg. Pa ddull a ddefnyddiwyd i’w cyfuno? Eto rhaid i hyn fod yn annibynnol ar y meddyg. Sut maent wedi cael eu dehongli? (e.e. a yw’r canlyniadau wedi cael eu cymharu â meincnod?). Myfyrdodau’r meddyg ar y canlyniadau ac unrhyw newidiadau a wnaed.

Os yw’r amodau uchod wedi’u bodloni, yna mae’n ddigon rhesymol i ddilysu’r wybodaeth hon.

Orbit360 yw'r offeryn adborth Cleifion a Chydweithwyr a argymhellir yng Nghymru bellach

 

 

Adborth

Er mwyn rhoi adborth ar y modiwl hwn, dilynwch y ddolen hon, fydd yn mynd â chi at holiadur byr a fydd yn cymryd 5 munud i'w gwblhau.


Previous

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau