Defnyddio EVE
Cwestiynau y gallai arfarnwyr eu defnyddio ar bob lefel o’r dacsonomeg
1. Cofio (gwybodaeth)
Dywedwch wrthyf...
- Beth ydych chi’n ei gofio o’r cyfarfod/digwyddiad?
- Dewiswch un peth o’r cyfarfod/digwyddiad a oedd yn newydd i chi.
- A oedd unrhyw ddeunydd/gwybodaeth newydd yma?
- A allwch chi gofio beth oedd yr wybodaeth newydd?
2. Dealltwriaeth (amgyffred)
- A ydych chi’n fwy hyderus yn y maes hwn / wrth ddefnyddio’r cyffur / yn yr agwedd hon ar eich gwaith?
- A ydych chi’n teimlo eich bod yn gyfoes yn achos y rôl hon?
- A ydych chi’n dawel eich meddwl bod eich ymarfer yn gyfoes / cywir?
- A allech chi’n awr addysgu hyn?
- A allech chi ddangos hyn i rywun arall?
- A allech chi grynhoi sut mae hyn yn gweithio’n ymarferol?
- Sut mae eich dealltwriaeth bresennol yn cymharu â’ch dealltwriaeth cyn y cwrs?
3. Cymhwyso
- A ydych chi wedi dechrau cymhwyso’r wybodaeth hon yn glinigol?
- Faint o gleifion sydd wedi elwa ar hyn?
- Sawl gwaith ydych chi wedi cyflawni’r driniaeth hon / wedi rhagnodi’r cyffur hwn / wedi defnyddio’r dechneg hon?
- A yw hyn yn awr yn rhan o’ch ymarfer cyfredol?
- Sut ydych chi’n defnyddio’r wybodaeth hon yn eich ymarfer?
- A ydych chi wedi cyflawni’r driniaeth hon?
- A ydych chi (neu sut ydych chi) wedi newid eich ymarfer o ganlyniad?
- A yw hyn yn effeithio ar sut yr ydych yn hyfforddi pobl eraill?
- A ydych chi’n rhagnodi / archwilio / ymchwilio mewn ffordd wahanol o ganlyniad i hyn?
- A yw eich ffordd o gadw cofnodion yn wahanol o ganlyniad i hyn?
- Sut ydych chi wedi addasu eich ymarfer o ganlyniad?
4. Dadansoddi
- Yn eich barn chi, sut mae’r driniaeth newydd hon yn cymharu â’r hen un?
- A ydych wedi dod ar draws unrhyw broblemau gyda’r newid hwn?
- A ydych chi’n credu bod hyn yn well i’ch cleifion?
- Ar ôl gwneud newidiadau, pa mor hyderus ydych chi fod pethau’n well i’r cleifion?
- A ydych yn rhagweld unrhyw broblemau gyda’r newid hwn?
- A allwch chi fod yn siŵr bod hyn yn welliant?
- A allwch chi weld gwahaniaeth yn ymarferol?
- A allwch chi ddisgrifio manteision ac anfanteision y gwasanaethau newydd?
- A yw’r newid hwn yn agored i feirniadaeth mewn unrhyw ffordd?
- Beth fyddai’r meddyg sinigaidd yn ei ddweud am hyn?
- Beth mae cleifion / gweithwyr iechyd proffesiynol / cydweithwyr / meddygon gofal eilaidd yn ei feddwl? Beth sydd gan holiaduron cleifion i’w ddweud? A ydych chi wedi gofyn i gleifion beth maent yn ei feddwl? A ydych chi wedi gofyn i’r grŵp cywir am eu barn?
5. Gwerthuso
- A ydych chi’n gwneud yr hyn rydych yn ei ddweud eich bod am ei wneud a sut wyddoch chi / sut ydych chi’n dangos hyn?
- A ydych chi’n dangos gwerth gwneud hyn i eraill?
- A ydych chi wedi dangos eich bod yn perfformio yn y ffordd hon?
- A ydych chi’n cydymffurfio â’r canllawiau? Sut ydych chi’n dangos eich bod yn cydymffurfio â hwy?
- Sut allwch chi farnu bod y newid hwn yn llwyddiannus?
- Sut ydych chi’n dangos eich bod yn dadansoddi mewn modd beirniadol yr hyn rydych yn ei wneud?
- A ydych chi wedi’ch argyhoeddi bod hyn yn gwella gofal eich cleifion?
- Sut ydych chi’n dangos gwerth yr ymyriad hwn?
- A allwch chi ddangos i eraill eich bod yn gymwys yn y maes hwn?
- Beth yw’r problemau â’r ymyriad yn yr ymarfer? Beth allech chi ei wneud ynglŷn â hyn?
- Sut fyddech chi’n cyfiawnhau hyn i eraill?
- A yw eich cleifion yn well eu byd o ganlyniad i hyn?
- A ellid bod wedi cyflawni’r canlyniad mewn unrhyw ffordd arall?
- A ydych chi’n hapus bod eich cylch gorchwyl yn ddilys – a ydych wedi pennu’r safonau cywir – a allwch eu cadarnhau?
- Felly?
6. Creu
- Sut fyddwch chi’n datblygu hyn yn ymarferol?
- Sut allech chi fynd â hyn ymhellach?
- Ym mha ffordd allech chi fwrw ymlaen â hyn?
- A oes gennych ddiddordeb mewn gwella’r gwasanaeth hwn mewn unrhyw ffordd?
- A yw’r darn gwaith hwn yn gyflawn – beth arall allech chi ei wneud gyda’r dysgu hwn?
- A allech chi lunio protocol / dogfen ganllaw i’w defnyddio gan eraill?
- A allai hyn ddatblygu y tu allan i’r practis / gwasanaeth / ysbyty?
- A allwch chi rannu hyn â meddygon / practisau eraill?
- A ellid cyffredinoli hyn i agweddau eraill ar eich gwaith – arddull dysgu / fformat dysgu / arddull addysgu / rhywbeth arall lle mae angen dull tebyg / gwasanaeth sydd angen sylw?
- A oes angen i chi rannu hyn ag eraill yn y practis / adran / cymuned gofal iechyd ehangach?
- Sut fyddwch chi’n integreiddio hyn yn eich darpariaeth bresennol?
- Sut fyddwch chi’n darparu’r gwasanaeth hwn o fewn eich gwasanaeth iechyd – a oes angen hyfforddi eraill?
- A oes unrhyw addasiadau i’ch ymarfer presennol y bydd angen eu gwneud i ymgorffori hyn?
- A oes unrhyw broblemau posibl gyda chyflwyno hyn? A ydych chi wedi ystyried beth all fynd o’i le? A allwch chi ragweld unrhyw broblemau?