Dulliau asesu eraill

Os ydych chi wedi cwblhau’r hunanasesiad manwl efallai y dewch i sylweddoli bod meysydd o’ch perfformiad y rydych yn teimlo y gellid eu gwella – ond beth mae pobl eraill yn ei feddwl ohonoch chi?

Yn Gwybodaeth ategol ar gyfer arfarnu ac ailddilysu mae’r GMC yn awgrymu y dylai adborth adlewyrchu cyfanrwydd eich gwaith. Fel rhan o ofynion ail-ddilysu dylai arfarnwyr felly gael adborth a myfyrio arno.

Cael adborth

Bydd pob meddyg sy’n cael ei arfarnu gennych yn cael cyfle i adael adborth ar eu harfarniad ar ôl iddynt gytuno ar grynodeb o’r arfarniad. Mae’r adborth hwn yn cael ei goladu ar MARS a phan fydd tri meddyg wedi gadael adborth, byddwch chi, fel arfarnwr, yn gallu gweld yr adborth hwn. Dylech fynd i 'Appraiser'>'Feedback Analytics'.

Byddwch yn gallu gweld adborth di-enw gan y Meddygon rydych wedi’u harfarnu ers  Awst 2017.  Er mwyn sicrhau bod pawb yn ddienw, mae’r rhain yn cael eu rhannu mewn sypiau/lluosrifau o 3. Rhaid i chi fod wedi cwblhau o leiaf 3 arfarniad ers hynny cyn gweld y canlyniadau. Er enghraifft, os ydych wedi cwblhau 5 arfarniad, dim ond 3 adborth y gallwch eu gweld nes byddwch wedi cwblhau 6ed arfarniad.

Mae dau arolwg ar gael, sef yr arolwg cychwynnol (Arolwg Adborth ar Arfarniad - ar gau) a'r ail arolwg (Arolwg Adborth ar Arfarniad Meddygol – byw, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2020). Gallwch ddewis edrych ar elfennau gwahanol o'r arolwg (o dan Pages), a gallwch ddod o hyd i'ch hun o dan yr hidlydd Appraiser, dewis y cyfnod amser a dangos yr adroddiad drwy'r botwm Search gwyrdd.

Ciplun Canlyniadau Arolwg MARS

Gallwch weld eich canlyniadau ar yr ochr chwith a chymharu’r canlyniadau hyn yn erbyn y data Cymru gyfan.

Ciplun Arolwg Adborth Arfarnu

Efallai yr hoffech ddefnyddio’r templed hwn i fyfyrio ar eich canlyniadau.

Gall pobl eraill fod mewn sefyllfa i roi adborth ar eich perfformiad fel arfarnwr. Os oes gennych chi arweinydd lleol neu Gydlynydd Arfarnu byddant hwy’n gallu cynnig sylwadau ar eich sgiliau, bydd ganddynt hefyd fynediad at ddata perfformiad e.e. faint o amser a gymer i chi gwblhau gwahanol dasgau ar MARS. 

Gallwch gael adborth digymell o ganlyniad i’r diwrnod Sicrhau Ansawdd Mewnol blynyddol. Cynhelir y dyddiau hyn ledled Cymru ac mae arfarnwyr o bob arbenigedd yn eu mynychu. Mae crynodebau o arfarniadau di-enw yn cael eu hasesu yn erbyn set o feini prawf ac mae sgôr yn crynhoi sy’n cael ei drosi i farc allan o 100. Mae rhwng 5 a 10% o’r holl grynodebau o arfarniadau sy’n cael eu hysgrifennu yn y flwyddyn flaenorol yn cael eu harchwilio gyda’r canlyniadau’n cael eu bwydo’n ôl i’r Bwrdd Iechyd priodol.

Efallai yr hoffech fod yn bresennol yn un o’r dyddiau Sicrhau Ansawdd Mewnol hyn – gofynnwch i’r arweinydd arfarnu lleol (neu’r RSU) am fanylion. Opsiwn arall fyddai “marcio” un o’ch crynodebau gan ddefnyddio’r meini prawf sicrhau ansawdd. 

Yn olaf, mae rhai ROau yng Nghymru yn rhoi adborth ar y crynodebau maent yn eu gweld mewn cysylltiad ag argymhellion ail-ddilysu. Er nad yw hyn yn arfer cyffredinol, ymddengys ei fod yn un sy’n dod yn fwy cyffredin.

Hunanasesu neu asesiad gan gymheiriaid

Mae dau Gydlynydd Arfarniadau Meddygon Teulu (Dr Mark Rowlands a Dr Lynne Rees) wedi datblygu Dull Asesu Trafodaethau Arfarnu (ADAM), sydd erbyn hyn wedi’i symleiddio i ffurf symlach (rADAM). Roedd yr ADAM gwreiddiol yn rhagweld adolygiad gan gymheiriaid o’r union drafodaeth arfarnu (naill ai wedi’i recordio neu wyneb yn wyneb – gyda chaniatâd yr arfarnai). Gellir defnyddio’r math symlach hwn ar gyfer hunanasesiadau a datblygiad posibl.


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau