Enghreifftiau
Cafodd y fideos canlynol eu creu ac mae’r rolau’n cael eu chwarae gan Arfarnwyr i ddangos gwerth ychwanegol da drwy herio, gor-herio a cholli cyfleoedd. Gwyliwch bob fideo ac ysgrifennwch eich syniadau am yr hyn oedd yn mynd ymlaen:
- A oedd cyfleoedd wedi’u colli?
- A oedd yr arfarnwr yn ymgysylltu â’r meddyg mewn ffordd a fyddai’n hybu datblygiad (y gwerth ychwanegol anniffiniadwy)?
- A oedd yr arfarnwr wedi mynd yn rhy bell?
- Sut fyddech chi wedi ei wneud?
Senario 1
Mae meddyg wedi mynychu cyfarfod ar NOAC, wedi myfyrio ar weithrediad y cyffuriau ond nid oes ganddo brofiad o’u rhagnodi yn y practis.
Gwybodaeth a gyflwynwyd:
Gweithgaredd – wedi mynychu cyfarfod ag ymgynghorwyr lleol, diweddariad diweddaraf ar gyffuriau newydd, dangosydd a phroblemau posibl gyda’r cyffuriau yn ymarferol.
Rheswm – dosbarth newydd o gyffuriau ar gael i’w cyflwyno mewn gofal sylfaenol.
Myfyrio – Yn ymwybodol eisoes o’r grŵp o gyffuriau ond gwybodaeth yn gyfyngedig gan nad oeddent ar gael i ofal sylfaenol ac felly heb deimlo’r angen i ddiweddaru gwybodaeth. Mae newid yn y canllaw i ganiatáu iddynt gael eu defnyddio mewn gofal sylfaenol wedi ennyn diddordeb. Ers y cyfarfod daeth yn fwy ymwybodol o’r dangosyddion, y sgileffeithiau a’r problemau wrth ragnodi i gleifion â nam arennol.
Canlyniad
- Mwy hyderus wrth roi’r cyffuriau
- Parod i symud cleifion oddi ar warfarin i NOAC yn unol â’r canllaw
- Ymwybodol o broblemau yn achos cleifion â nam arennol.
Dogfennaeth ategol – tystysgrif bresenoldeb a nodiadau a wnaed yn ystod y cyfarfod
Clip Fideo 1
Trafodaeth aneffeithiol
Cydnabod dysgu newydd ond dim gwerth ychwanegol – ar ddiwedd y drafodaeth nid oedd cytundeb ar newidiadau, dim cynllun gweithredu, atgynhyrchu deunydd mewn ffolder yn unig.
Arfarnwr – ailadrodd yr wybodaeth yn y ffolder – cytuno ynglŷn â rhagnodi a symud ymlaen i bwnc arall.
Clip Fideo 2
Crebwyll gwael o’r lefel – arwain at or-herio
Mae’r arfarnwr yn rhy frwdfrydig ac yn dechrau gwneud awgrym ar gynnal archwiliad o bob claf ar warfarin / neu AF / awgrymu datblygu canllawiau ymarfer.
Neidio i lefel gwerthuso pan nad oes llawer o dystiolaeth ymarferol o ddefnydd. Ceisio pwyso am archwiliad a chanllaw ymarfer ond nid yw’r meddyg wedi rhagnodi eto – ymddengys ei fod yn cydnabod hyn i’w godi eto ar y diwedd i rywbeth mwy realistig.
Clip Fideo 2b
Crebwyll gwael o’r lefel – arwain at or-herio
Pwyso am archwiliad ond yn cydnabod bod y meddyg yn teimlo’n anghyfforddus ac yn amharod i’w godi eto.
Clip Fideo 3
Lefel briodol
Yr arfarnwr yn annog y meddyg i fyfyrio ar ddysgu – defnyddio’r cyffuriau, cynnig awgrym ar sut y gallai’r meddyg gymhwyso a myfyrio ar ddefnydd ohonynt i gleifion dethol. Annog myfyrio yn arfarniad y flwyddyn nesaf – datblygu pwynt gweithredu.
Senario 2
Darllenwch y senario Arteritis Cell Anferth yma
Clip Fideo 4
Gwerthuswr yn coladu
Ddim yn herio - dim ond ailadrodd nad yw pethau gyda'r prosesau ar gyfer diagnosio'r cyflwr yn wych - does dim angen gwneud dim am y peth. Ailadroddodd y gwerthuswr wybodaeth a dealltwriaeth y meddyg ond nid yw'n gwneud unrhyw beth arall. Nid yw'n helpu'r meddyg i fynd i'r afael â'r pryderon mae'r meddyg wedi'u codi am y broses ddiagnostig. Mae'r gwerthuswr yn coladu â'r meddyg i osgoi gweithredu ar bryderon parthed y broses ddiagnostig.
Clip Fideo 5
Arfarnwr yn gweld potensial
Mae’r arfarnwr yn gweld potensial i wneud newidiadau i’r gwasanaethau. Mae’n herio’r meddyg i newid y protocol lleol – cael rhywbeth i weithio – cytuno ar gynllun gweithredu realistig. Yr un senario ond yn cynnig awgrymiadau a chynllun i roi sylw i broblemau.
Clip Fideo 6
Arfarnwr yn mynd yn ôl lefel gwybodaeth
Yn dilyn trafodaeth flaenorol am GCA – mae meddyg yn crybwyll problemau gyda chlaf â DVT lle nad oedd dim ymchwiliadau wedi’u gwneud mewn gofal eilaidd i ddiystyru achos arall. Mae’r arfarnwr yn arddangos sgiliau ar lefel briodol yn yr hierarchaeth ar gyfer datblygiad yn y dyfodol.
Yn dilyn ymlaen o’r fideo blaenorol – mynd yn ôl i lefel gwybodaeth yn hytrach na dechrau yn y brig fel yn yr un diwethaf.
Cafodd yr adran hon ar EVE ei hysgrifennu gan Dr Peter Rowlands a Dr Lynne Rees. Gellir lawrlwytho dogfen y prosiect gwreiddiol yn llawn yma.