Paratoi ar gyfer arfarniad
Mae’r paratoadau ar gyfer arfarniad yn hanfodol i sicrhau trafodaeth o safon uchel. Mae disgwyl i’r meddyg gyflwyno eu gwybodaeth arfarnu mewn da bryd. Gofyniad cyntaf yr arfarnwr yw asesu a oes digon o wybodaeth wedi’i rhoi er mwyn cynnal trafodaeth arfarnu.
- Dylai’r wybodaeth gynnwys DPP digonol i fod yn sail i arfarniad ystyrlon
- Dylai’r wybodaeth a gynhwysir fod yn berthnasol a dylai gwybodaeth briodol ymwneud â datblygiad y meddyg
- Dylai cysylltiad personol meddyg â gweithgarwch penodol fod yn eglur
- Dylid cyfeirio at ddogfennaeth ategol berthnasol a ddylai fod ar gael
- Dylid cael tystiolaeth eglur o fyfyrio ar weithgarwch
- Dylai gweithgarwch rychwantu’r pedwar parth ar gyfer arfarnu ac asesu
- Dylai’r wybodaeth a gyflwynir adlewyrchu ystod y rolau a’r cyfrifoldebau sydd wedi’u cynnwys yn y ddogfennaeth arfarnu
Os ydych chi’n teimlo bod unrhyw rai o’r meini prawf hyn heb eu bodloni yna dylech ystyried gohirio’r arfarniad a gofyn am ragor o wybodaeth.
Adolygu manylion a gweithgarwch personol a phroffesiynol
Dylai’r manylion hyn roi trosolwg i chi o’r cyd-destun y mae’r meddyg yn gweithio ynddo. Yn benodol, dylech nodi unrhyw rôl o ddiddordeb arbennig o fewn y tîm a ddylai gael ei adlewyrchu gan ddeunydd datblygiadol sydd i’w gyflwyno yn yr arfarniad. Er bod gofyniad i ddangos datblygiad yn y meysydd diddordeb hyn, ni ddylai hynny fod ar draul cynnal datblygiad cyffredinol.
Adolygu’r wybodaeth arfarnu
Wrth adolygu’r wybodaeth a gyflwynir ar gyfer yr arfarniad dylech chwilio am:-
- Cryfderau a chyflawniadau
- Myfyrio a datblygiad
- Cynnydd yn erbyn DPD y llynedd PDP
- Bylchau neu bethau wedi’u hepgor, yn enwedig asesu cydbwysedd deunyddiau o ran cwmpas gweithgarwch proffesiynol a restrwyd gan y meddyg
- Anghenion dysgu posibl
- Meysydd i roi adborth arnynt
Dylai’r holl wybodaeth a gyflwynir fod yn ddi-enw. Ni ddylid gallu adnabod cleifion yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol ac ni ddylai cydweithwyr gael eu henwi heblaw mewn cyfeiriad at ddeunydd cyhoeddedig. Os oes unigolion y gellir eu hadnabod yna bydd angen i chi atgoffa’r meddyg bod cyfrifoldeb arnynt i warchod hawl trydydd partïon i fod yn ddi-enw. Os oes modd adnabod cleifion o’r wybodaeth, bydd angen i’r meddyg gywiro hyn (oni bai eu bod wedi cael cydsyniad penodol).
Wrth ystyried yr wybodaeth, dylech wneud eich gorau i beidio gwneud tybiaethau am y meddyg fel unigolyn, eu cyflawniadau na’u hanghenion datblygiadol. Dylai unrhyw gasgliadau y byddwch yn eu gwneud ynglŷn â’r agweddau hyn gael eu rhoi ar brawf yn ystod y cyfarfod arfarnu. Mae angen cydbwysedd rhwng rhoi arfarniad i bob meddyg sy’n gytbwys a chyson â’r broses, ac un sy’n ystyrlon i’r unigolyn ac sy’n diwallu eu hanghenion. Mae rheoliadau cyfle cyfartal yn golygu bod yn rhaid cael arfarniad sydd o safon gyson ac sydd ar yr un pryd yn trin pob meddyg fel unigolyn ac sy’n rhoi sylw i’w gwahanol anghenion a sefyllfaoedd.
Mae cynnwys cyffredinol yr wybodaeth a gyflenwir yn bwysig; mae angen llawer o feddwl wrth baratoi am y drafodaeth. Mae’n bwysig dewis dau neu dri mater unigol i’w trafod yn drylwyr. Ni ddylai’r rhai a ddewisir o reidrwydd fod y cofnodion mwyaf na’r un sydd wedi golygu fwyaf o waith. Ceisiwch beidio canolbwyntio’n gyfan gwbl ar feysydd sydd o ddiddordeb i’r meddyg, yn hytrach rhowch brawf ar feysydd sydd heb eu cynnwys neu sydd wedi cael sylw rhannol. Mae anghenion datblygiadol unigolion yn debygol o ddeillio o’r tu allan i feysydd o ddiddordeb.
Yn bwysicach na dim, dylech wedyn ysgrifennu rhestr o bwyntiau neu gwestiynau yr hoffech eu codi yn ystod y drafodaeth arfarnu. Ni ddylid dilyn y rhestr yn wasaidd; dylid ei defnyddio fel proc i’r cof.
Mae’r arfarnwr yn arwain o ran strwythur a chynnwys y drafodaeth arfarnu ac felly bydd angen iddynt fod yn gyfarwydd â deunydd arfarnu’r meddyg. Yn ychwanegol ar y deunydd a gyflwynir y flwyddyn hon mae’n bwysig adolygu’r cofnodion arfarnu blaenorol a’r cynllun datblygiad personol. Bydd hyn yn helpu’r arfarnwr i olrhain a chofnodi cynnydd o flwyddyn i flwyddyn.
Mae’r rhan fwyaf o arfarnwyr yn teimlo ei fod yn ddefnyddiol i baratoi crynodeb drafft o’r arfarniad cyn y cyfarfod arfarnu. Gellir mynd â hwn i’r cyfarfod a’i ddefnyddio fel templed ar gyfer y drafodaeth. Gellir gwneud nodiadau wedyn yn uniongyrchol yn erbyn pob cofnod, a bydd hyn yn helpu i gwblhau’r crynodeb yn ddiweddarach.
Gall llwyddiant, neu fethiant, y drafodaeth arfarnu ddibynnu ar nifer o ffactorau. Dylai’r cyfarfod arfarnu fod yn apwyntiad, mewn ystafell dawel, gyda digon o amser i ganiatáu trafodaeth heb ymyrraeth. Ni ddylai fod gan yr arfarnwr na’r meddyg ymrwymiadau eraill ar y pryd (gan gynnwys bod ar alw). Dylai’r arfarnwr fod yn gyfarwydd â’r deunydd arfarnu a dylai’r meddyg gymryd rhan yn y broses arfarnu.