Darllen Ychwanegol a Chydnabyddiaethau
Wrth chwilio am syniadau mewn perthynas â Myfyrdod, byddwch yn dod ar draws nifer o gysyniadau cysylltiedig, a phob un yn gysylltiedig â’r cyflwr myfyriol mewn gwahanol ffyrdd. Disgrifiwyd ymarfer myfyriol yma fel y term y gellir ei briodoli agosaf i ganllawiau GMC mewn perthynas ag ymarfer meddygol da, ond byddwch yn dod ar draws amrywiol Fodelau Myfyriol, a chyfeiriadau at Ysgrifennu Myfyriol, Dulliau Dysgu Myfyriol a Dysgu Myfyriol a Thrwy Brofiad ac Offer eraill ar gyfer Meddwl. I’r rhai sydd yn chwilio am fwy o arweiniad a mewnwelediad i fyfyrdod, gall y ffynonellau canlynol fod yn ddefnyddiol:
Mae gan Ddeoniaeth Cymru adran academaidd ar gyfer Addysg Feddygol. Mae ei ‘Gyfres Sut Mae...’ ar gael yma ac mae’n cynnwys:
- ‘Sut Mae: Asesu Ymarfer Myfyriol’
- ‘Sut Mae: Addysgu Ymarfer Myfyriol’
Bydd y rhai sydd â diddordeb mewn Theori Addysgol yn canfod nifer o gyfeiriadau at destunau academaidd, ond bydd gwaith Schon yn fan cychwyn diddorol i lawer:
- Schon, D.A. (1995). Reflective Practitioner: How professionals think in action. Arena: Aldershot.
Mae cysyniad Ysgrifennu Myfyriol yn cael ei hyrwyddo gan Jenny Moon, ac mae mwy o ddeunydd darllen ar hynny ar gael yma:
- Moon, J. (1999) Learning journals: a handbook. Kogan Page, London.
- Moon, J.A. (2004). A handbook of reflective and experiential learning: Theory and practice. Abingdon: Routledge Falmer.
Cyfeirir at amrywiaeth o fodelau myfyrio, ond efallai mai’r un mwyaf cyfarwydd ohonynt i ymarferwyr meddygol a nyrsio yw model Gibbs neu’r Cylch Myfyrio:
- Gibbs, G. (1988). Learning by doing: a guide to teaching and learning Methods. Oxford: Further Education Unit, Oxford Polytechnic.
Bydd gan rai ddiddordeb yng ngwaith Peter Honey ac Alan Mumford ar Ddulliau Dysgu a ddeilliodd o’r gwaith a wnaethpwyd ganddynt ar fodel David Kolb yn seiliedig ar ddysgu Drwy Brofiad. Arweiniodd hynny at ddatblygu eu Holiadur Dulliau Dysgu sydd yn gyfarwydd i nifer o Gofrestryddion Ymarfer Cyffredinol:
- Honey, P & Mumford, A (2006). The Learning Styles Questionnaire, 80-item version. Maidenhead, UK, Peter Honey Publications
Hefyd mae gan Peter Honey ei wefan ei hun gyda dolenni at ddeunyddiau hyfforddi ychwanegol i’r rhai fydd â diddordeb:
Yn olaf, i’r rhai sydd yn amcanu at ddatblygu sgiliau meddwl beirniadol uwch sydd yn helpu i herio ymarfer clinigol sefydledig a doethineb ymddangosiadol, efallai y bydd ganddynt ddiddordeb yng ngwaith yr athronydd Daniel Dennett. Yn ei waith ‘Intuition pumps and other tools for thinking’ mae’n ein gwahodd, er enghraifft, i ddatblygu ‘larwm sicrwydd’. Mae’r ddyfais syml yma yn ein hannog i ganfod y pwynt gwanaf y nadl rhywun pan fo eich cyd-sgwrsiwr yn gofyn i chi dderbyn rhagosodiad nad yw o reidrwydd yn cael ei ategu gan dystiolaeth, ond y mae’n ystyried ei fod yn hunanamlwg.
Gall enghreifftiau o hanes gynnwys
‘Mae’n sicr bod yr haul yn mynd o gwmpas y ddaear’ neu ‘Mae’n sicr mai gorffwys mewn gwely yw’r ffordd orau o reoli poen meingefnol acíwt’ neu hyd yn oed ‘Mae’n sicr bod ataliaeth yn well na gwella’. Bydd y rhai mwyaf sylwgar yn eich plith wedi sylwi, er enghraifft, ar gyfraniadau hollol barchus i’r BMJ sydd o leiaf yn cwestiynu’r olaf o’r tri sylwad hunanamlwg yma. Mae ei syniadau ar gael yma:
Daniel C Dennett (2014). Intuition pumps and other tools for thinking. London, Penguin books.
Cydnabyddiaethau
Diolch i’r Dr Peter Rowlands, Cydlynydd Gwerthuso Gwent, am ysgrifennu’r modiwl yma.