Elfennau ymarfer myfyriol

‘Byddai’n well gan y rhan fwyaf o bobl farw na meddwl: Mae llawer yn gwneud’ - Bertrand Russell

Mae ymarfer myfyriol yn cynnwys:

  • Meddwl yn feirniadol, er enghraifft, drwy roi amser i gwestiynu doethineb ymddangosiadol
  • Hunanasesu, er enghraifft drwy fesur perfformiad (archwiliad, adolygiad achos etc.)
  • Gwerthuso dysgu newydd (er mwyn ychwanegu gwerth a gweithredu er mwyn newid pan fo hynny’n briodol)
  • Herio’r hunan, ac eraill er mwyn annog datblygiad neu newid
  • Yn hytrach na gofyn Beth? gofynnwch Pam? (neu Pam felly? neu Beth Nawr? neu Beth Nesaf?) sydd eto yn annog newid
  • Cymryd seibiant er mwyn myfyrio

‘...Mae ychwanegu gwerth at bethau yn golygu gwneud penderfyniadau da. Mae gwneud penderfyniadau da yn golygu caffael gwybodaeth a myfyrio. Er mwyn cyflawni’r ddau beth yma, mae’n rhaid i rywun ddarllen, ymholi, trafod ac ystyried…’ - A C Grayling

Efallai bod sylwad Bertrand Russell am y ‘Rhan fwyaf o bobl’ yn syndod i’r ‘rhan fwyaf o bobl’! Mae pobl broffesiynol, ar ôl oes o astudio, yn debygol o gael eu sarhau gan awgrym.  Ond, bydd llawer ohonom wedi profi ac wedi cydnabod ein bod ar brydiau yn mynd drwy fore o waith heb gymryd eiliad i feddwl, yn wynebu achosion cyffelyb ac yn gwneud yr hyn yr ydym wedi ei wneud erioed.  Efallai y bydd hi’n egwyl coffi cyntaf y dydd arnom yn gofyn i’n cydweithwyr ac i ni’n hunain: Pam ein bod yn dal i wneud hyn fel hyn?  Gellid ystyried mai yn y cwestiwn syml yma mae hedyn y meddyliau beirniadol cyntaf sydd yn arwain at wella.


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau