Myfyrio ar Gwynion

Gellid ystyried mai cwyn yw’r enghraifft fwyaf eithafol o feirniadaeth allanol, ac efallai mai'r temtasiwn fyddai ymateb ac ymddwyn yn amddiffynnol. Ond un o ofynion ail-ddilysu yw bod pob cwyn ffurfiol yn cael ei rhestru yn eich ffolder werthuso ac mae’r GMC yn ystyried bod hynny yn gyfle i ddysgu a datblygu.  Mae hefyd yn pwysleisio mai’r ffordd yr ydych yn delio â chwynion sydd yn bwysig. Mae nifer a difrifoldeb y cwynion yn llai pwysig oni bai bod hynny wrth gwrs yn datgelu patrwm o ymddygiad neu ymarfer. Dylid ystyried y gwyn fel ffordd o glustnodi meysydd posibl i’w gwella, ac o ganlyniad i hynny gellir sefydlu meysydd ar gyfer dysgu a datblygu. Byddai’r GMC yn disgwyl y byddid yn mynd i’r afael â meysydd i’w gwella a bod deilliannau y cael eu mesur neu eu cofnodi yn eich portffolio arfarnu.

‘Dylid ystyried cwynion fel math arall o adborth, sydd yn galluogi i feddygon a sefydliadau adolygu a datblygu mwy ar eu hymarfer...’

Enghraifft glinigol

Mae cydweithwyr yn cyfarfod i drafod y broses o weithredu ar adroddiadau pelydr-x.  Mae un o’r meddygon iau yn betrus yn awgrymu cymryd camau mwy cadarn o ran mynd ati i hysbysu cleifion am ganfyddiadau annormal gan roi, fel esiampl, adroddiad ar doriad mewn asgwrn metatarsol gyda’r sylwad ‘claf i drefnu apwyntiad nad yw’n achos brys er mwyn trafod hyn gyda’r meddyg’.  Mae cydweithiwr uwch yn sylwi mai ei weithred ef ei hun yw hynny ond mae’n diystyru’r mater i raddau, gan ddweud ei fod wedi bod yn y swydd ers blynyddoedd a bod ganddo arferion sydd wedi eu hen sefydlu ac sydd wedi gweithio’n dda iddo hyd yma.

Meddyg yn dal pelydr-x i fyny

Tri mis yn ddiweddarach mae’r rheolwr yn derbyn llythyr gan gyfreithiwr lleol.  Roedd cleient y cyfreithiwr, claf yn y practis, wedi cael ei atgyfeirio am sgan MRI ar yr ymennydd yn dilyn digwyddiad annodweddiadol o deimlo’n chwil a phenysgafn.  Cyfeiriodd yr adroddiad at y posibilrwydd o gnawdnychiad bychan ar goesyn  yr ymennydd, ac roedd yr un meddyg wedi ysgrifennu ‘trefnu apwyntiad nad yw’n achos brys i drafod y canlyniad gyda meddyg’.  Roedd y claf wedi mynychu adran Damweiniau ac Achosion Brys yn y cyfamser ar ôl digwyddiad pryderus arall, ac roedd staff yn synnu ac yn pendroni’n agored pam nad oedd y claf wedi cael ei hysbysu am y canlyniad gan y meddyg.  Diagnoswyd pennod arall o ischaemia byrhoedlog gyda phosibilrwydd o strôc, ac roedd yn amlwg bod y cyfreithiwr yn ymholi ynglŷn â’r posibilrwydd o oedi diagnosis fyddai’n arwain at niwed posibl i’w gleient y gellid ei osgoi.  Ers hynny mae’r practis wedi ceisio cymorth sefydliad amddiffyn meddygol er mwyn amddiffyn yr achos.

Cliciwch yma i weld ciplun o gofnod MARS sydd yn adlewyrchu’r enghraifft uchod

Arfau myfyrio: Ar brydiau gall balchder arwain at wersi poenus, a gall digwyddiadau o’r math yma ein hatgoffa o’r risgiau sydd yn gysylltiedig â methu â myfyrio, a buddion hynny ar y llaw arall fel un o arfau dysgu gydol oes.   Mae achosion o’r math yma, os nad dim byd arall, yn ein hatgoffa ein bod yn wynebu perygl pan ein bod yn tybio nad oes gennym ragor i’w ddysgu, fel y dywedodd  Thomas Payne, “mae pob unigolyn sydd yn dysgu yn athro arno ei hun yn y pen draw”. Go brin y gellir gwadu’r potensial i ddysgu o gwynion os yw rhywun yn dymuno osgoi penawdau fel: Seiciatrydd yn cael ei wahardd am 12 mis arall ar ôl dangos dim


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau