Myfyrio ar QIA

Nodiadau ysgrifennu meddyg

Mae archwilio wedi dod yn weithgaredd ganolog i lawer o sefydliadau meddygol, os nad y rhan fwyaf ohonynt, ac mae’n gysylltiedig â chydnabod bod yna bob amser le i wella mewn systemau dynol.  Mae achosion proffil uchel diweddar o fethiant i ddarparu gofal digonol wedi amlygu ymwybyddiaeth y cyhoedd o hynny, a'r angen i ymdrechu i wella ansawdd gofal3.  Gellir sicrhau ansawdd mewn nifer o ffyrdd ac mae hynny yn cael ei gydnabod gan y GMC1 sydd yn darparu nifer o enghreifftiau o hynny.  Ond, archwiliad clinigol yw’r un mwyaf cyfarwydd ac fe’i defnyddir fel enghraifft yma.

Enghraifft glinigol

Mae meddyg yn penderfynu cynnal archwiliad o’r gofal a ddarperir i gleifion â chlefyd Parkinson. Mae’n gwneud ei phenderfyniad ar ôl myfyrio ar achosion diweddar a welwyd yn ei llwyth achosion y mae’n ymddangos bod y gofal wedi bod yn llai na digonol. Mae hi wedi darllen canllawiau diweddaraf NICE, wedi trafod gwasanaethau lleol gyda chydweithiwr ac wedi cysylltu â’r nyrs arbenigol leol sydd yn clustnodi’r cleifion sydd yn gyffredin rhyngddynt.  Mae’n nodi’r meini prawf disgwyliedig ar gyfer gofal da, yn ystyried safonau derbyniol ac yn mynd ati i gasglu data.  Noder bod y gweithgaredd archwilio priodol yn deillio’n aml o drafodaethau â phobl eraill.  Er mwyn ychwanegu mwy o effaith i’r ymarferiad, yn aml iawn mae angen rhannu’r data yn yr un  modd a thrafod gyda chydweithwyr er mwyn nodi camau priodol er mwyn creu newid.  

Mae’r meddyg yn canfod lefelau gofal sydd yn llai nag optimaidd yn y data a gesglir, ond mae’n optimistaidd y bydd newid er gwell yn deillio o ganlyniad i well ymwybyddiaeth yn y tîm amlddisgyblaethol, strategaeth i adalw cleifion am asesiadau ychwanegol a defnyddio templed i strwythuro meysydd i’w trafod gyda chleifion.

Cliciwch yma i weld ciplun o gofnod MARS sydd yn adlewyrchu’r enghraifft uchod.

Arfau myfyrio: Darllen, ymholi, trafod, dadlau ac ystyried (nid yw myfyrio o reidrwydd yn ymarfer unig).


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau