Myfyrio ar weithgareddau SEA

 

Menyw yn dal paced o bils i fyny

Mae gan lawer o bobl ddelwedd o’r dyn proffesiynol, sydd y gwisgo het hela ac yn ysmygu cetyn, yn ymlacio mewn cadair esmwyth ac yn myfyrio ar faterion, neu am rywun arall ag ‘ystum Rodin’ yn meddwl yn ddwys.  Nid yw’r syniad am y person unig yn meddwl am gysyniadau haniaethol yn apelgar i bawb, ond nid oes raid i bethau fod felly.  Mae’r enghraifft QIA yn dangos natur gymdeithasol bosibl myfyrdod effeithiol.  Mae Jenny Moon, yn ei chyngor i fyfyrwyr yn dangos nad oes raid i brosesau myfyrio fod yn ‘haniaethol’ chwaith. Wrth hyrwyddo cysyniad myfyrdod ysgrifenedig mae’n annog y dysgwyr myfyrgar i egluro eu meddyliau ar bapur.  Mae hwn yn arf ychwanegol pwysig wrth hyrwyddo ymarfer myfyriol.  Efallai bod hynny yn cael ei ddangos yn fwyaf eglur ym mhrosesau Dadansoddi Digwyddiadau Arwyddocaol (SEA).

Enghraifft glinigol

Ar gyfer proffylacsis Thrombosis gwythiennau dwfn (DVT) yn ystod llawdriniaeth newid clun, mae claf yn cael ei drin gydag asiant Gwrth-geulo Cegol Newydd (NOAC) ac mae’n cael ei rhyddhau gyda’r cyffur a restrir yn ei meddyginiaethau i fynd gartref. Mae’r clerc rhagnodi yn dangos y rhestr meddyginiaethau rhyddhau i feddyg sydd yn dweud y dylid rhoi meddyginiaethau newydd ar restr meddyginiaethau mynych y claf.  Mae hynny yn cael ei archebu’n fisol gan y fferyllfa leol ac mae’r claf yn ei gymryd yn ddyddiol nes bod cynrychiolydd meddygol, sydd yn chwilfrydig ynghylch y dos a roddir, yn holi’r fferyllydd, sydd yn ei dro yn anfon ymholiad i’r practis.  Daw i’r amlwg bod cyffur y bwriadwyd ei roi am gyfnod byr yn dilyn y llawdriniaeth (h.y. nes bod symudedd llawn wedi dychwelyd) wedi cael ei gymryd gan y claf yn anfwriadol am dros chwe mis.  

Yn ffodus ni chafodd y claf unrhyw niwed.  Ond, ar ôl canfod y camgymeriad rhagnodi yma ysgrifennodd y meddyg dan sylw fanylion yr SEA yma gan ddefnyddio’r templed SEA safonol.  Gan ddilyn arfer dda cylchredwyd y SEA i’r holl bartneriaid ei ystyried cyn y cyfarfod practis nesaf: roedd pawb yn gallu myfyrio ar y prosesau a’r digwyddiadau oedd wedi arwain at y gwall.  Gyda gwybodaeth dda wedi ei derbyn cyn y digwyddiad roedd pawb oedd yn bresennol yn gallu datrys problemau’r achos ac ystyried ffyrdd o atal achos tebyg rhag codi eto.  Rhestrwyd y camau cytunedig yn yr adran berthnasol ar y ffurflen ac fe’i cylchredwyd eto i’r holl gydweithwyr er mwyn sicrhau nad oedd dim yn amwys.  Ychwanegwyd y newid gweithdrefnau i brotocolau’r practis ynghylch y camau a gymerir mewn perthynas â llythyrau rhyddhau o ysbyty.  

Cliciwch yma i weld ciplun o gofnod MARS sydd yn adlewyrchu’r enghraifft uchod.

Arfau myfyrio: Mae myfyrio ysgrifenedig yn annog y broses fyfyrio ac yn helpu i grisialu meddyliau cysyniadol.

Pwynt o ddiddordeb: Ar safle MARS o dan ‘Categori’, gallwch weld opsiwn ‘cwymplen’ sydd yn cynnig fformatau sefydledig ar gyfer Gweithgareddau Gwella Ansawdd a Chofnodi Digwyddiadau Arwyddocaol.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau