Myfyrio ar ymarfer
Disgrifiodd y diweddar Tony Benn, sydd yn enwog am ei ddyddiaduron gwleidyddol, sut yr oedd yn myfyrio o leiaf dair gwaith ar ddigwyddiadau gwleidyddol pwysig. I ddechrau ar adeg y digwyddiad (Myfyrdod yn ymarferol), yna wrth ysgrifennu’r manylion yn ofalus (Myfyrio ar ymarfer) - roedd digwyddiad yr oedd yn ei nodi yn aml yn arwain at dymheru ei safbwynt i raddau. Ac yn olaf pan oedd yn eu hailddarllen rai blynyddoedd yn ddiweddarach ac yn cyfaddef iddo fod yn anghywir!
Mae portffolios megis MARS, yn annog y gweithiwr proffesiynol i nodi agweddau pwysig o ymarfer rhywun, i ystyried eu heffeithiolrwydd, neu i’r gwrthwyneb, ac ystyried ffyrdd o greu gwelliannau. Mae cyfleoedd i Fyfyrio ar Ymarfer yn codi wrth gofnodi tystiolaeth o dan benawdau’r 4 maes, a bydd nodiadau atgoffa yn ymddangos o dan yr holl dempledi a ddarperir, fel yr ailadroddir yn fuan. Mae trydydd cyfle Tony Benn i fyfyrio yn debyg i’r adran ar gyfer ‘Mewnwelediadau a Myfyrdodau’. Atgoffir defnyddwyr i edrych yn ôl ar eu blwyddyn werthuso er mwyn paratoi ar gyfer eu trafodaeth werthuso a chofnodi eu meddyliau yn yr adran yma. Mae’r ailwerthuso yma o gynnydd yn ystod y flwyddyn yn gyfle pwysig i ofyn y cwestiynau ‘Pam’ a ‘Beth nesaf?’ allai helpu wrth hunanasesu llwyddiant y flwyddyn a’r gofynion ar gyfer datblygu i’r dyfodol.
Mae’r cyfarfod arfarnu yn gyfle i drafod yr ailwerthuso yma gyda chymheiriaid. Mae eich arfarnwr wedi ei hyfforddi i’ch helpu i fyfyrio, a bydd hefyd yn cynnig safbwynt gwahanol. Gall eich arfarnwr ofyn y cwestiynau “beth felly” a’r “beth nesaf” a gall annog newid neu ddatblygiad.
Er mwyn ail-ddilysu’n llwyddiannus mae’r GMC yn ei gwneud yn ofynnol i chi ddarparu tystiolaeth, i ystyried a myfyrio a bod yn barod i drafod gweithgareddau yn y meysydd canlynol:
- Datblygiad proffesiynol parhaus (DPP)
- Gweithgareddau Gwella Ansawdd (QIA)
- Digwyddiadau Arwyddocaol
- Adborth gan Gydweithwyr
- Adborth gan Gleifion
- Adolygiad o Gwynion a Chanmoliaeth