Adnabod anorecsia nerfosa

Efallai bydd y tîm gofal iechyd sylfaenol yn cael cyfle i sgrinio grwpiau risg uchel, a hefyd maent yn debygol o fod y pwynt cyswllt cyntaf gyda’r claf. Yn aml mae’r cysylltiad cyntaf yn cael ei wneud gan berthynas pryderus neu athro ysgol sydd wedi sylwi ar golli pwysau neu ymddygiadau penodol mewn perthynas â bwyd megis hepgor prydau, cuddio bwyd neu fynd ar ddiet cyfyngedig. Mewn gwirionedd, unrhyw rai o’r ymddygiadau corfforol, seicolegol neu gymdeithasol a restrwyd. 

Mae yna beryg y gallai’r ymarferydd amhrofiadol  ddiystyru’r symptomau neu deimlo mai’r unigolyn sydd yn gyfrifol am eu hachosi eu hun. Mae’n rhaid gwrando ar yr hanes gyda chlust sympathetig ac anfeirniadol a dangos empathi. Dylid cael hanes gofalus a chymharu hynny â’r meini prawf diagnostig. Yr oedran cymedrig pan mae’n dechrau yw 16-17 oed. 

Mae canllawiau NICE yn rhestru’r ffactorau canlynol er mwyn eu hystyried:

  • Ffactorau risg - hanes teuluol o anhwylder bwyta, Diabetes math 1, arfer bod yn ordrwm, gwaith (e.e. athletwr, dawnsiwr, model). Er mai genethod yn y glasoed a merched ifanc yw’r brif boblogaeth sydd yn wynebu risg, dylid cofio bod anhwylderau bwyta i’w weld ymysg lleiafrifoedd ethnig, dynion a phlant. 
  • Diagnosis gwahanol o golli pwysau - yn cynnwys camamsugno (e.e. clefyd seliac, clefyd coluddyn llidus), neoplasm, defnyddio cyffuriau anghyfreithlon, haint (e.e. TB), clefyd awtoimiwn, anhwylderau endocrin (e.e. hypertheiroidaeth). 
  • Diagnosis gwahanol o amenorrhoea - yn cynnwys beichiogrwydd, methiant ofaraidd sylfaenol, syndrom ofaraidd polycystig, prolactinoma pitwitari, problemau wterin ac achosion hypothalmig eraill. 
  • Diagnosis seiciatrig gwahanol - yn cynnwys iselder, anhwylder gorfodaeth obsesiynol, somatisatiaeth, a seicosis mwn achosion prin. 

Mae angen archwiliad er mwyn cyfrifo’r BMI (neu ddefnyddio siartiau canraddau ar gyfer unigolion llai na 18 oed), dylid mesur curiad y galon a phwysedd gwaed. Mewn cleifion sydd yn dangos elfen o deneuwch, dylid hefyd archwilio tymheredd craidd ymylon ar gyfer cylchrediad ac oedema, a dylid gwirio gorbwysedd osgo a phrawf cyrcydu er mwyn gwirio pŵer y cyhyrau. Gofynnir i’r claf gyrcydu ac yna i godi heb ddefnyddio ei freichiau. Os bydd y claf angen defnyddio ei fraich i gydbwyso, gallai hynny fod yn arwydd o risg cymedrol, os bydd y claf angen defnyddio ei freichiau i godi ei hun, mae hynny yn arwydd o wendid cyhyrol difrifol a risg uchel. 

Byddai cyfrif gwaed llawn, ESR, U+E, Creatinin, profion gweithredu’r afu, glwcos gwaed ar hap ac wrinalasis yn sgrinio ar  gyfer y rhan fwyaf o’r diagnosau gwahanol cyffredin. Gallai ECG fod yn briodol yn arbennig os oes bradycardia, anghydbwysedd electrolytau neu BMI sydd yn is na 15. Mewn achosion mwy difrifol efallai y bydd angen calsiwm, magnesiwm, ffosffad, proteinau serwm a cinas creatinin. Yn niagnosis amenorrhoea gyda gweithrediad theiroid sydd yn arwain at golli pwysau, dylid rhoi hormon ysgogi ffoliglau, hormon lwteineiddio, prolactin a phelydr-x ar y frest. 

Efallai y bydd angen sgan DEXA er mwyn canfod a gollir esgyrn mewn achosion cronig neu mewn achosion gydag amenorrhoea parhaus. 

Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion wedi cynhyrchu algorithm ar gyfer diagnosis cychwynnol a rheoli achosion o anhwylderau bwyta a amheuir. 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau