Anhwylder bwyta annodweddiadol
Gwneud diagnosis
Weithiau mae dosbarthu anhwylderau bwyta a elwir yn anhwylderau bwyta na glustnodir fel arall (dosbarthiad EDNOS - US) ac mae’n cynnwys anhwylderau bwyta mewn pyliau. Mae’r categoreiddio yma yn cynnwys unigolion sydd yn bodloni rhai o’r meini prawf diagnostig ar gyfer anorecsia nerfosa neu bwlimia, ond nid y cyfan. Gall unigolion yn y categori yma newid i endid diagnostig gwahanol, ar brydiau yn bodloni’r holl feini prawf diagnostig ar gyfer anorecsia nerfosa a bwlimia.
Mae enghreifftiau yn cynnwys:
- Chwydu bwriadol rheolaidd fel ymddygiad cydadferol yn absenoldeb bwyta mewn pyliau (er enghraifft chwydu bwriadol ar ôl bwyta darn bach o siocled)
- Ymddygiad bwlimaidd sydd yn digwydd llai na dwy waith yr wythnos ac nad yw wedi para am 3 mis.
- Cnoi bwyd a’i boeri allan mewn cylch a ailadroddir
- Mewn claf benywaidd - mae’r holl feini prawf diagnostig yn cael eu bodloni ond yn cael mislif rheolaidd
- Anhwylderau bwyta mewn pyliau - unigolion yn bwyta mewn pyliau ond nid yn arddangos yr ymddygiad cydadferol
Er mwyn diagnosio anhwylderau bwyta mewn pyliau mae’r penodau bwyta yn gysylltiedig â thri neu ragor o’r canlynol:
- Bwyta’n llawer cyflymach nag sy’n arferol
- Bwyta nes y teimlir yn anghyfforddus o llawn
- Bwyta symiau mawr o fwyd pan nad yn gorfforol newynog
- Bwyta ar ei ben ei hun oherwydd embaras am y swm y fwyteir
- Teimlo ffieidd-dod neu euogrwydd eithafol ar ôl gorfwyta.
Mae anniddigrwydd amlwg i’w weld mewn perthynas â bwyta mewn pyliau ac mae osgoi sefyllfaoedd cymdeithasol yn gyffredin.
Strategaethau rheoli a thrin mewn perthynas ag anhwylder Bwyta Annodweddiadol
- Yn absenoldeb tystiolaeth ar gyfer arwain y broses o reoli anhwylder bwyta annodweddiadol (anhwylder bwyta na glustnodir fel arall) ar wahân i anhwylderau bwyta mewn pyliau, argymhellir bod y meddyg yn ystyried y canllawiau canlynol ynghylch trin y broblem fwyta sydd yn ymdebygu fwyaf i anhwylderau bwyta y claf unigol.
- Nid oes unrhyw ymchwil penodol wedi cael ei wneud i drin anhwylder bwyta annodweddiadol ar wahân i BED (anhwylderau bwyta mewn pyliau). Barn y GDC (grŵp datblygu canllawiau) yw y dylai meddygon reoli nifer fawr o’r achosion yma yn unol â’r canllawiau ar gyfer anorecsia nerfosa neu fwlimia nerfosa yn ddibynnol ar y cyflwyniad clinigol ac oed y claf.
- Mewn perthynas â BED, o ystyried yr ymateb ymddangosiadol da, o leiaf yn y tymor byr, i amrywiaeth o wahanol ymyriadau seicolegol yn cynnwys hunangymorth, ac o ystyried y lefel is o risg corfforol a seiciatrig acíwt o’i gymharu ag anorecsia a bwlimia nerfosa, gellir trin BED yn aml mewn gofal sylfaenol drwy ddefnyddio llawlyfrau hunangymorth seiliedig ar dystiolaeth. Dylai plant a’r glasoed sydd â phroblemau bwyta mewn pyliau dderbyn yr un math o driniaeth ag oedolion ond ei fod yn cael ei haddasu ar gyfer eu hoedran, amgylchiadau a lefel datblygiad, gyda chyfranogiad teuluol priodol.