Anorecsia nerfosa

Gwneud diagnosis

Er mwyn sefydlu diagnosis o anorecsia nerfosa, dylid defnyddio naill ai’r dosbarthiad a awgrymir gan  Lawlyfr Diagnostig ac Ystadegol Anhwylderau Bwyta (DSM-IV-TR) neu Ddosbarthiad Ystadegol Rhyngwladol Clefydau a Phroblemau Iechyd Cysylltiedig Sefydliad Iechyd y Byd(ICD). 

Nid oes yna brawbiogemegol neu haematolegol ar gyfer anorecsia nerfosa, ond dylai pob achos a amheuir gael proses ddiagnostig, er mwyn diystyru achosion eraill o golli pwysau ac er mwyn gwirio am baramedrau biolegol y gall y salwch ei hun effeithio arnynt. Mae’r diagnosis yn dibynnu ar gyfuniad o archwilio credoau’r claf, profiad y claf a phobl eraill a’r nodweddion corfforol a ddangosir gan y claf.  Bwriad meini prawf diagnostig yw cynorthwyo meddygon, ac ni fwriadwyd iddynt gynrychioli beth yw teimladau neu brofiadau dioddefwr unigol wrth fyw gyda’r salwch. 

Y meini prawf diagnostig a ddefnyddir yn y DSM-IV-TR yw:- 

  • Gwrthod cynnal pwysau’r corff ar neu’n uwch nag isafswm pwysau normal ar gyfer oedran a thaldra: colli pwysau sydd yn arwain at gynnal pwysau corff  sydd yn <85% o’r hyn sydd yn ddisgwyliedig, neu fethu ag ennill pwysau disgwyliedig yn ystod cyfnod o dwf. 
  • Ofn difrifol o golli pwysau neu o fod yn dew, er eu bod o dan eu pwysau. 
  • Effaith amharus ar y ffordd mae unigolyn yn teimlo am bwysau a siâp ei gorff, dylanwad diangen ar bwysau neu siâp y corff wrth hunanwerthuso, neu wadu difrifoldeb y pwysau corff isel presennol. 
  • Colli o leiaf dri cylch mislifol yn olynol (amenorrhea) mewn merched sydd wedi cael eu mislif cyntaf ond nad ydynt wedi mynd drwy’r menopos (postmenarce, merched cynfenoposaidd) 

Hefyd, mae’r DSM-IV-TR yn  nodi dau is fath: 

  • Math Cyfyngol: yn ystod y cyfnod presennol o anorecsia nerfosa, nid yw’r person wedi ymgymryd yn rheolaidd â gorfwyta mewn pyliau neu ymddygiad carthol (hynny yw, chwydu bwriadol neu gamddefnyddio carthyddion, diwretigion neu enemâu). Collir pwysau yn bennaf drwy fynd ar ddiet, ymprydio neu ymarfer corff gormodol. 
  • Math Gorfwyta mewn Pyliau neu Fath Carthol: yn ystod y cyfnod presennol o anorecsia nerfosa, mae’r person wedi ymgymryd yn rheolaidd â gorfwyta mewn pyliau NEU ymddygiad carthol (hynny yw, chwydu bwriadol neu gamddefnyddio carthyddion, diwretigion neu enemâu). 

Mae meini prawf ICD-10 yn debyg, ond mae hefyd yn cyfeirio’n benodol at 

  • Y ffyrdd y gall unigolion achosi colli pwysau neu gynnal pwysau corff isel (osgoi bwydydd sy’n tewhau, chwydu bwriadol, carthu bwriadol, ymarfer corff gormodol, defnydd gormodol o lonyddwyr neu ddiwrtetigau). 
  • Rhai nodweddion seicolegol, yn cynnwys “anhwylder endocrin eang sydd yn cynnwys echel hypothalamig-pitwitari-gonadol sydd yn amlygu ei hun mewn merched fel amenorrhoea, ac mewn dynion fel colli diddordeb ac awch rhywiol. Efallai bod yna hefyd lefelau uwch o hormonau tyfu, lefelau cortisol uwch, newidiadau ym metaboliaeth ymylol yr hormon theiroid ac abnormaleddau mewn secretiad inswlin”. 
  • Os bydd yn dechrau cyn oed aeddfedrwydd, bod datblygiad wedi ei oedi neu yn araf. 

Sut mae anorecsia nerfosa yn amlygu ei hun? 

Gall anorecsia nerfosa fod yn anodd ei adnabod, yn arbennig yn ystod y camau cynnar, i weithwyr iechyd proffesiynol ac aelodau agos o’r teulu. Ar ôl sefydlu ei fod yn bodoli, gall effeithiau corfforol, seicolegol a cymdeithasol y cyflwr arwain at nifer o gyflyrau: 

Gall cyflyrau corfforol fod yn gysylltiedig ag anorecsia nerfosa

Gall cyflyrau seicolegol fod yn gysylltiedig ag anorecsia nerfosa

Gall ymddygiadau cymdeithasol fod yn gysylltiedig ag anorecsia nerfosa
Colli pwysau sylweddol  Meddyliau obsesiynol/gweithredoedd mewn perthynas â bwyd a phwysau Ymarfer corff gormodol
Hypodensiwn osgo Delwedd wyrgam o’r corff, yn meddwl eu bod yn dew hyd yn oed pan eu bod o dan eu pwysau Bod yn gyfrinachol am ymddygiadau e.e. bwyta neu ymarfer corff
Mynegai mas y corff yn is na 17.5 mewn oedolion Hunanwerth isel Ynysu cymdeithasol
Anaemia Meddyliau ffobaidd ynghylch ennill pwysau Hunan-niwed bwriadol
Llai na 85% o bwysau disgwyliedig mewn plant/glasoed Mewnwelediad gwael i’r cyflwr Camddefnyddio  sylweddau
Llai o gelloedd gwyn Tymer isel, iselder clinigol, tymer anwadal a gorbryder Byr eu hamynedd a dadleuol neu hyd y oed yn ymosodol ynghylch bwyd
Amenorrhoea Anhawster rhyngweithio ag eraill, naill ai’n fyr eu hamynedd neu’n gymdeithasol ynysig Yn gwirio siâp y corff yn rheolaidd mewn drych neu bwysau ar glorian
System imiwnedd ddim yn gweithio cystal Anhwylder gorfodaeth obsesiynol  
Curiad calon isel, cyfraddau metabolaidd is allai arwain at orbwysedd Gwrthod derbyn y cysyniad o bwysau normal hyd yn oed yng nghyd-destun pwysau peryglus o isel  
Twf crablyd Teimlad bod rheoli eu pwysau yn rhoi iddynt reolaeth ar eu bywydau  
Effaith ar electrolytau Gwerthuso eu hunain yn bennaf yn nhermau siâp a phwysau eu corff  
Pydredd deintyddol    
Diffyg mwynau, sinc yn benodol    
Oedema    
Rhwymedd    
Nodweddion rhywiol eilaidd wedi eu datblygu’n wael    
Ewinedd gwan neu frau    
Gwallt yn teneuo    
Llai o awch rhywiol mewn dynion    

 


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau