Awgrymiadau ar gyfer eich ymarfer eich hun

Awgrymiadau ar gyfer Ymarfer Cyffredinol mewn perthynas ag anhwylderau bwyta

Ar  ôl cwblhau’r offeryn dysgu yma efallai y byddwch yn teimlo eich bod yn dymuno ymgorffori rhai o’r pwyntiau dysgu i’ch ymarfer eich hun. 

Mae’n amlwg mai anorecsia nerfosa yw’r anhwylderau bwyta mwyaf difrifol, ond bydd y niferoedd y bydd ymarfer cyffredinol yn delio â nhw yn isel. 

Mae nifer yr achosion o anhwylderau bwyta ymysg y boblogaeth o fenywod ifanc a gyflwynir i ymarfer cyffredinol yn tua 5%. 

Drwy godi ymwybyddiaeth a chael eich arfogi i ddelio â’r cleifion yma pan maent yn cyflwyno eu hunain, bydd mynediad at driniaeth briodol yn haws i’ch cleifion. 

Awgrymiadau ar gyfer adnabod cleifion 

  • sgrinio unigolion risg uchel gan ddefnyddio offeryn SCOFF  
  • chwilio drwy eich system gyfrifiadurol am gleifion â BMI sydd yn is na 17.5. 
  • gofyn i rai sydd yn mynychu’r practis yn aml a oes ganddynt broblemau mewn perthynas â bwyd 
  • ystyried anhwylderau bwyta mewn cleifion sydd yn cyflwyno anhwylder tymer 
  • sicrhau bod yr holl staff yn ymwybodol o risg anhwylderau bwyta a’r arwyddion i fod yn wyliadwrus ohonynt 

Argymhellion ar gyfer gwella arferion 

  • canfod pa wasanaethau sydd ar gael i gleifion ag anhwylderau bwyta yn eich ardal leol 
  • dod yn gyfarwydd â therapi ymddygiadol gwybyddol hunangymorth 
  • ymateb i bryderon gan rieni, ffrindiau neu athrawon 
  • cofio bod gan y glasoed ac oedolion anghenion gwahanol o ran triniaeth 
  • dod yn gyfarwydd â’r adnoddau priodol y galeich claf neu ofalwr gyfeirio atynt, a gwneud rhestr ohonynt 

Argymhellion ar gyfer gwella Gwasanaeth 

  • os nad oes gwasanaethau anhwylderau bwyta arbenigol ar gael i’r glasoed  neu oedolion, efallai y byddwch yn dymuno lobïo eich sefydliad gofal sylfaenol 
  • canfod a oes yna ymarferwyr yn eich ardal leol sydd yn defnyddio CBT-BN, ac os nad oes, pam? 

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau