Bwlimia nerfosa, gwneud diagnosis

Mae llawlyfr diagnostig ac ystadegol anhwylderau meddyliol (DSM-IV-TR) yn rhestru’r meini prawf ar gyfer diagnosio claf gyda bwlimia nerfosa, sef:- 

  • penodau mynych o fwyta mewn pyliau 
  • Mae’n rhaid i’r ddwy nodwedd ganlynol berthyn i fwyta mewn pyliau  
    • Bwyta swm o fwyd sydd yn bendant yn fwy na fyddai’r rhan fwyaf o bobl yn ei fwyta yn ystod cyfnod penodol o amser 
    • Diffyg hunanreolaeth yn ystod y cyfnod hwnnw - teimlo na allent roi’r gorau neu reoli beth neu faint maent yn ei fwyta 
  • Dangos ymddygiad cydadferol amhriodol er mwyn lliniaru yn erbyn y bwyta mewn pyliau er mwyn osgoi ennill pwysau 
  • Chwydu bwriadol (carthiad) 
  • Camddefnyddio carthyddion 
  • Camddefnyddio diwretigion 
  • Camddefnyddio meddyginiaethau eraill ( lefothyrocsin, amffetamin) 
  • Ymprydio 
  • Ymarfer corff gormodol 
  • Pwysau a siâp y corff yn meddiannu hunanddelwedd 
  • Symptomau yn digwydd ddwywaith yr wythnos ar gyfartaledd am o leiaf dri mis. 
  • Nid yw’r symptomau yn digwydd yn ystod codau o anorecsia nerfosa 

Nodir dau is fath:- 

Carthu - pan fo’r unigolyn yn chwydu’n fwriadol naill ai drwy ysgogi’r adwaith safnglo neu gymryd emetigau. Mae hyn yn ymdrech i gael gwared o fwyd yn gyflym o’r corff cyn y gellir ei dreulio. Efallai y bydd carthyddion, diwretigion ac enemâu yn cael eu defnyddio am yr un rhesymau. 

Dim carthu - mae llai na 10% o ddioddefwyr bwlimia nerfosa yn mabwysiadu ymarfer corff gormodol neu ymprydio gormodol er mwyn gwrthbwyso’r bwyta mewn pyliau. 

Sut mae bwlimia nerfosa yn amlygu ei hun? 

Mae bwlimia nerfosa yn llawer mwy cyffredin nag anorecsia nerfosa a gallai hyd at 5 o bob 100 o ferched ifanc (oedran cymedrig pan mae’n dechrau yw 18-19 oed) sydd yn mynd i weld eu meddyg teulu fod yn dioddef â’r cyflwr. Mae cleifion â bwlimia yn tueddu i gael pwysau corff sydd naill ai ychydig yn is, yn normal neu ychydig yn uwch na BMI cyfartalog. Ni fydd nifer o’r cleifion yn arddangos symptomau corfforol, ond gall gorddefnyddio technegau carthu arwain at ddadhydradu, anghydbwysedd electrolytau ac arrhythmia cardiaidd. 

Er bod y bwyta mewn pyliau a’r carthu yn digwydd yn gyfrinachol fel arfer, yn aml mae cleifion gyda bwlimia yn teimlo rhyddhad wrth ddweud wrth rhywun arall amdano. Pan gânt eu holin uniongyrchol, bydd nifer yn dweud y gwir wrth ateb, hyd yn oed mewn achosion eithafol o fwyta mewn pyliau a charthu rheolaidd. 

Yn achos y rhan fwyaf o gleifion mae archwiliad corfforol yn gwbl normal, a pharamedrau biogemegol a haematolegol hefyd. Mae sgil effeithiau corfforol yn cynnwys:- 

  • Oesoffagitis 
  • Dadhydradu 
  • Anghydbwysedd electrolytau 
  • Arrhythmia cardiaidd (ataliad y galon a marwolaeth) 
  • Rhwymedd 
  • Pydredd dannedd difrifol a/neu erydiad yr enamel 
  • Trawma yn y geg o ganlyniad i ysgogi’r adwaith safnglo 

Mae amhariad ar dymer yn eithriadol gyffredin mewn achosion o bwlimia nerfosa, ac mae symptomau gorbryder yn amlwg. Gall hunanwerth isel a hunan gasáu, ynghyd â hunan ffieiddio am y gorfwyta a’r carthu fodoli hefyd. O gymharu â phobl ag anorecsia, bydd mwy o bobl â bwlimia yn dioddef ag iselder clinigol. Weithiau bydd bwlimia yn deillio o salwch anorecsaidd oedd yn bodoli’n flaenorol, pan fo’r claf wedi colli rheolaeth ar gyfyngu ar fwyta a hynny yn amlygu ei hun fel bwyta mewn pyliau afreolus. 

Mae rhai dioddefwyr yn gadael cliwiau amlwg o’u problemau, megis gadael gorchuddion bwyd er mwyn i bobl eraill eu gweld, a hyd yn oed gadael bagiau o chwd mewn llefydd amlwg. Fel arfer mae’r penodau o fwyta mewn pyliau wedi eu cynllunio, a’r bwyd wedi ei brynu ymlaen llaw ac wedi ei baratoi er mwyn ei fwyta’n gyfrinachol. Hefyd gall yr unigolyn osgoi sefyllfaoedd pan maent yn dod i gysylltiad â bwyd ym mhresenoldeb pobl eraill. Mae hynny yn tueddu i arwain at fwy o arwahanrwydd cymdeithasol. 

Adnabod bwlimia nerfosa mewn Ymarfer Cyffredinol 

Mae’n debygol y bydd y tîm gofal sylfaenol yn cael cyfleoedd i ddiagnosio cleifion gyda bwlimia nerfosa. Mae dioddefwyr yn mynd i weld y meddyg yn llawer amlach cyn y diagnosis na’r boblogaeth yn gyffredinol. Mae sgrinio gyda’r holiadur SCOFF yn briodol. Fel yn achos anorecsia, efallai mai aelodau teulu pryderus, ffrindiau neu athrawon fydd yn gwneud y cysylltiad cyntaf. Mae ffactorau risg mewn perthynas â bwlimia nerfosa yn cynnwys:- 

  • Derbyn sylwadau beirniadol am siâp neu faint y corff 
  • Hanes o anhwylder bwyta ymysg rhieni neu frodyr neu chwiorydd 
  • Bod yn fenyw ( 1 o bob 10 dioddefwr sydd yn wrywaidd) 
  • Gordewdra ymysg y rhieni neu yn ystod plentyndod 
  • Mynd ar ddiet teuluol gormodol  

Mae ffactorau eraill allai fod yn gysylltiedig yn cynnwys hanes o gam-drin rhywiol neu gorfforol, anhwylder seiciatrig cynafiachus (yn cynnwys anorecsia) a digwyddiadau amharus yn ystod plentyndod. 

Yn bennaf mae diagnosis o bwlimia nerfosa yn ddibynnol ar hanes da, oherwydd mae archwiliad corfforol yn debygol o fod yn normal, ond dylid mesur BMI, dylid cymryd BP wrth eistedd a sefyll er mwyn gwirio hypodensiwn osgo. Hefyd, mae ymchwiliadau labordy yn debygol o fod yn normal, ond dylid mesur wrea, electrolytau a chreatinin bob amser. 

Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion wedi cynhyrchu algorithm ar gyfer diagnosis cychwynnol a rheoli achosion o anhwylderau bwyta a amheuir. 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau