Crynodeb

Mae’r term anhwylderau bwyta yn cynnwys sbectrwm o gyflyrau a ddosbarther fel:- 

  • Anorecsia nerfosa 
  • Bwlimia nerfosa 
  • Anhwylder bwyta annodweddiadol 

Mae anorecsia nerfosa yn achosi risg sylweddol o forbidrwydd ac yn gyfrifol am y gyfradd marwolaethau uchaf mewn perthynas â chyflyrau iechyd meddwl y glasoed. 

Mae cleifion ag anhwylderau bwyta yn aml yn gyfrinachol am eu cyflwr. 

Efallai mai rhiant pryderus, ffrind neu athro fydd yn dod i gysylltiad gyntaf. 

Mae gan ofal sylfaenol rôl i’w chwarae yn achos pob anhwylder bwyta. 

Gall therapi ar gyfer anhwylderau bwyta fod yn amlddisgyblaethol ac aml foddol. Mae yna dystiolaeth ar gyfer defnyddio seicotherapi (yn benodol CBT-BN) a ffarmacotherapi (yn benodol gwrthiselyddion). 

Mae llawer o gleifion sydd ag anhwylderau bwyta heb eu hadnabod. 

Merched ifanc sydd yn wynebu’r risg mwyaf, er y gall gwrywod ifanc â’r cyflwr fod heb eu diagnosio. 

Mae cleifion ag anhwylderau bwyta yn mynd i weld y meddyg yn amlach na’r boblogaeth yn gyffredinol. 

Mae yna offeryn sgrinio wedi ei ddilysu (SCOFF) sydd yn cynnwys pum cwestiwn syml. 

 

Adborth

Er mwyn rhoi adborth ar y modiwl hwn, dilynwch y ddolen hon, byddwch yn cael eich cymryd at holiadur byr a fydd yn cymryd 5 munud i'w gwblhau.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau