Rheoli risg
Awgrymiadau ar reoli risg
- Dylai gweithwyr iechyd proffesiynol fonitro risg corfforol mewn cleifion ag anorecsia nerfosa. Os bydd hynny yn arwain at ganfod mwy o risg corfforol, dylid addasu amledd a monitro a natur yr ymchwiliadau yn unol â hynny.
- Dylai pobl ag anorecsia nerfosa a'u gofalwyr gael eu hysbysu os yw’r risg i’w iechyd corfforol yn uchel.
- Dylid ystyried cynnwys meddyg neu bediatrydd sydd yn arbenigo mewn trin cleifion ag anorecsia nerfosa sydd yn wynebu risg corfforol yn achos pob unigolyn sydd yn wisg corfforol.
- Efallai bydd merched beichiog sydd ag anorecsia nerfosa cyfredol neu sydd wedi gwella angen gofal cynenedigol dwys er mwyn sicrhau maethiad cynenedigol ddigonol a datblygiad y ffoetws.
Argymhellion NICE ynghylch bwydo yn erbyn ewyllys y claf
- Dylai bwydo’r claf yn erbyn ei ewyllys fod yn ddewis olaf o ran ymyrraeth wrth ofalu a rheoli anorecsia nerfosa.
- Mae bwydo’r claf yn erbyn ei ewyllys yn broses arbenigol iawn sydd angen arbenigedd o ran gofalu a rheoli pobl ag anhwylderau bwyta difrifol a’r cymhlethdodau corfforol sydd yn gysylltiedig â hynny. Dylai hynny ond gael ei wneud yng nghyd-destun Deddf Iechyd Meddwl 1982 a Deddf Plant 1989.
- Wrth wneud y penderfyniad i fwydo yn erbyn ewyllys y claf, mae’n rhaid i’r sail gyfreithiol ar gyfer camau o’r fath fod yn glir.
Rôl y meddyg teulu mewn perthynas ag anorecsia nerfosa
Mae NICE yn argymell bod y driniaeth ar gyfer anorecsia nerfosa yn cynnwys darparwyr gofal iechyd sylfaenol, eilaidd a thrydyddol ar brydiau. Mae angen dull amlddisgyblaethol ac mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion wedi cynhyrchu algorithm ar gyfer diagnosis a rheoli cychwynnol.
Felly rôl y meddyg teulu yw:-
- Sgrinio grwpiau risg uchel
- Asesu pan gyflwynir y cyflwr y tro cyntaf
- Gwerthuso difrifoldeb cychwynnol
- Rhoi gwybodaeth i gleifion a gofalwyr
- Atgyfeirio pan fo’n briodol
- Cefnogi’r claf a’r gofalwyr hyd yn oed os bydd triniaeth yn cael ei roi mewn gofal eilaidd
- Parhau i gefnogi cleifion ag anorecsia nerfosa cronig gyda gwiriad iechyd blynyddol o leiaf