Rheoli a thriniaeth

Wrth ystyried sut mae rheoli a thrin anorecsia nerfosa, mae'n rhaid mabwysiadu strategaeth aml-broffesiynol. Efallai bydd angen therapi corfforol ar yr unigolyn ar gyfer cymhlethdodau neu anhwylder bwyta, therapïau seicolegol megis CBT, ymyrraeth seicoffarmacolegol ar gyfer symptomau iselder cysylltiedig a therapi teuluol er mwyn gwella’r niwed i berthnasoedd. Efallai y bydd yna hefyd broblemau ynghylch cefnogi’r gofalwr, ac yn bendant mae yna anghenion o ran gwybodaeth ar gyfer aelodau agos y teulu neu ofalwyr mewn gwahanol gyd-destunau. Yn amlwg, mae’r claf yn rhan greiddiol o ymyrraeth, ac mae caniatâd i gyfranogiad pobl eraill yn hanfodol; ond oherwydd yr ansicrwydd a'r risg o wadu’r broblem, mae angen i’r gweithwyr iechyd proffesiynol droedio’n ofalus. 

Yn achos plant a’r glasoed, mae therapi teuluol yn tueddu i fod yn ymyrraeth allweddol. Ond cronfa dystiolaeth wael sydd ar gael mewn perthynas â hynny, ac ar gyfer ymyraethau eraill ar gyfer y cyflwr yma mewn gwirionedd. Mae argaeledd gwasanaethau arbenigol i blant a’r glasoed yn amrywiol, ond pan fônt ar gael mae yna beth cronfa dystiolaeth ar gael ar gyfer ymyriadau teuluol sydd yn delio ag anhwylderau bwyta. Gall gwasanaethau arbenigol gynnig therapi ymddygiadol gwybyddol, seicotherapi seicoddeinamig, therapi gwella cymhelliannol ac ymyriadau teuluol eraill. 

Ymyriadau seicolegol 

Nod cychwynnol ymyrraeth seicolegol yw sicrhau bod y claf yn ymgysylltu â’r ymyrraeth honno. Mae gwadu’r broblem a’r ansicrwydd ynghylch gofal iechyd a ddangosir yn y cyflwr yma yn rhwystr y mae’n rhaid ei oresgyn cyn y gall ymyrraeth seicolegol weithio. Mae’n rhaid i weithwyr iechyd proffesiynol feithrin perthynas ar sail ymddiriedaeth ac empathi gyda’r claf, eu gofalwyr a’u teuluoedd fel sy’n briodol. Mae’n rhaid cael ethos o gydweithredu gyda’r claf ac mae’r claf angen ymgysylltu â’r broses yn yr un ysbryd. Gall yr ymgysylltu yma gynyddu a chilio gydag amser, ac mae’n rhaid i’r therapydd fod yn sensitif i hynny, gan sicrhau mân fuddugoliaethau pan fo’n bosibl. 

Yn gyffredinol, nod ymyriadau yw hyrwyddo bwyta’n iach ac ennill pwysau, lleihau effaith problemau seicolegol eraill sydd yn gysylltiedig  ag anhwylderau bwyta, a thrwy hynny hyrwyddo gwellhad. Yng nghyd-destun y claf sydd wedi ennill pwysau ar ôl cyfnod o fod yn yr ysbyty, nod ymyrraeth yw cynnal y pwysau a enillwyd. Yn y gyfran o gleifion sydd yn mynd ymlaen i ddatblygu anorecsia nerfosa cronig, gall amcanion y driniaeth gydag ymyrraeth seicolegol amrywio, a gall gwella ansawdd bywyd a chynnal pwysau diogel fod yn hollbwysig. 

Mae’r gronfa dystiolaeth yn awgrymu bod yr ymyrraeth seicolegol yn wael, mae gan therapi teuluol ar gyfer y glasoed beth tystiolaeth i gefnogi ei ddefnydd, ond mae ymyriadau eraill yn dangos canlyniadau amrywiol. 

Mae canllawiau NICE yn awgrymu, ar gyfer oedolion ag anorecsia nervosa, ystyriwch un o:

  • Therapi ymddygiadol gwybyddol sy'n canolbwyntio ar anhwylderau bwyta yn unigol (CBT-ED)
  • Triniaeth nerfol i oedolion (MANTRA) Maudsley
  • rheoli clinigol cefnogol arbenigol (SSCM)

Ceir rhagor o fanylion yma.

Ymyriadau ffarmacolegol 

Ni ddangoswyd bod unrhyw therapi cyffuriau yn newid cwrs anorecsia nerfosa oni bai fod yna iselder neu OCD cydafiachus. Roedd yna risg i wrthiselyddion ac i wrthseicotigau wneud niwed yn arbennig drwy ymestyn y bwlch QT, ac mae’r dystiolaeth o fudd yn fychan. 

Derbyn i ysbyty 

Mae angen derbyn i ysbyty pan fo pwysau neu amhariadau biogemegol yn achosi risg i’r claf. Ar brydiau bydd angen cadw o dan y ddeddf iechyd meddwl a defnyddir bwydo dan orfodaeth fel y dewis olaf. Gellir ennill pwysau defnyddiol yn yr ysbyty o dan amodau goruchwylio, ac mae hynny hefyd yn rhoi cyfle i ddefnyddio ymyrraeth seicolegol dwys. 

Argymhellion ymarfer clinigol NICE ar gyfer anorecsia nerfosa, ceir rhagor o fanylion am y strategaeth yma.

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau