Rheoli anhwylderau bwyta

Strategaethau rheoli a thrin bwlimia nerfosa 

Gellir trin bwlimia nerfosa nad yw’n gymhleth mewn gofal sylfaenol (gyda mynediad at wasanaethau cymorth priodol), dylid atgyfeirio os na wneir cynnydd, mae’r claf yn feichiog neu bod ganddo gyflwr sydd yn bodoli eisoes megis diabetes. 

Hefyd gall ystyriaethau cyffredinol am iechyd neu les meddyliol y claf arwain at atgyfeirio, felly hefyd tueddiadau hunanleiddiol. Gyda’r triniaethau mwyaf effeithiol, disgwylir i 50% o’r cleifion fod yn rhydd o symptomau rhwng 2 a 10 mlynedd ar ôl diagnosis. Bydd 20% o’r cleifion yn datblygu bwlimia nerfosa cronig, a bydd y 30% arall naill ai’n dilyn cwrs llithro’n ôl a rhyddhad neu’n datblygu symptomau bwlimig isglinigol cronig (mae astudiaethau eraill yn dangos niferoedd hyd yn oed yn uwch sydd yn destun rhyddhad parhaus - a ddisgrifir yng nghanllawiau NICE). 

 Er nad oes yna lawer o astudiaethau dilynol hirdymor wedi cael eu cynnal i’r cyflwr yma, mae’n ymddangos y bydd y rhan fwyaf o fwlimiaid yn parhau i fod yn symptomatig am nifer o flynyddoedd os nad ydynt yn derbyn triniaeth. 

Ymyriadau seicolegol 

Mae gan therapi ymddygiadol gwybyddol dystiolaeth gref i gefnogi ei ddefnyddio. Mae therapi penodol wedi cael ei ddatblygu ar gyfer ei ddefnyddio mewn achosion bwlimia ac mae’n defnyddio tri cham neilltuol ond sydd yn gorgyffwrdd:- 

  • Addysg - mae’r claf, a’r gofalwr pan fo’n briodol, yn derbyn addysg sydd yn delio â’r aetioleg, y ffactorau risg, nodweddion clinigol, epidemioleg a thriniaethau ar gyfer bwlimia nerfosa. Gan ddefnyddio’r wybodaeth hon rhoddir strategaethau i’r claf ar gyfer ymwrthod â’r ysfa i fwyta mewn pyliau neu i garthu. Efallai y bydd dyddiadur bwyd yn cael ei gyflwyno ac anogaeth i’r claf fwyta dognau arferol o fwyd yn fwy rheolaidd. 
  • Arbrofion ymddygiadol - yn ystod y cam yma anogir y claf i ehangu ei ddiet ac i gyflwyno bwyd y mae wedi bod yn eu hosgoi. Mae credoau’r claf ynghylch categorïau penodol o fwyd yn cael eu harchwilio a rhoddir cynnig ar gyflwyno elfennau oedd wedi eu “gwahardd” yn flaenorol. 
  • Y cam cynnal - cytunir ar strategaethau er mwyn osgoi llithro’n ôl, cyflwynir mecanweithiau ar gyfer llithro’n ôl. 

Dangosodd adroddiad Tystiolaeth Clinigol ar 34 o hap-brofion CBT gyda rheolydd gynnydd sylweddol o 43% yng nghyfran y cleifion oedd yn ymwrthod rhag y cylch bwyta mewn pyliau a charthu, a dim ond 5% yn y grŵp rheoli yn ymwrthod. 

Datgelodd yr un adolygiad dystiolaeth annigonol er mwyn argymell unrhyw fath arall o seicotherapi. Roedd therapi ymddygiadol gwybyddol hunangymorth dan arweiniad a gynhaliwyd mewn sefydliad gofal sylfaenol cystal â CBT arbenigol mewn un hap-brawf gyda rheolydd. 

Ymyriadau ffarmacolegol 

Mae defnyddio meddyginiaeth gwrthiselyddion wrth drin bwlimia wedi cael ei astudio mewn oedolion. Nid oes yna gronfa dystiolaeth ar gyfer defnyddio hynny ar gyfer y glasoed ac nid oes ganddynt drwydded i’w ddefnyddio ar gyfer y dangosiad yma. Felly ar gyfer y glasoed ni ddylai triniaeth gyda chyffuriau fod yn ymyrraeth rheng flaen. 

Mewn oedolion mae yna dystiolaeth o effeithiolrwydd gwrthiselyddion tricyclic, atalyddion oscidas monoaimin anghildroadwy (ond nid moclobamid) ac SSRI i raddau llai. 

Mae yna hefyd dystiolaeth bod dull cyfun o Therapi Ymddygiadol Gwybyddol (CBT) a gwrthiselyddion yn gwella effaith CBT. Mae dosau gwrthiselyddion a ddefnyddiwyd yn y treialon yn debyg i’r rhai a ddefnyddiwyd i drin iselder (ac eithrio fflwocsetin 60mg yn ddyddiol). 

Tybir y gallai defnyddio atalyddion ocsidas monominim anghildroadwy achosi mwy o broblemau, oherwydd gallai tynnu tyramin o’r deiet achosi i’r claf ganolbwyntio mwy ar fwyd. 

Argymhellion clinigol NICE ar gyfer bwlimia nerfosa 

  • Fel dewis amgen neu gam cyntaf ychwanegol ar gyfer defnyddio rhaglen hunangymorth seiliedig ar dystiolaeth, efallai y cynigir treial o gyffur gwrthiselydd i oedolion â bwlimia nerfosa. 
  • Dylid hysbysu’r cleifion y gall cyffuriau gwrthiselydd leihau amledd bwyta mewn pyliau a charthu, ond nad yw’r effeithiau hirdymor yn hysbys. Bydd unrhyw effeithiau buddiol yn amlwg yn gyflym. 
  • Atalyddion ailgydio serotonin dewisol (SSRI) (yn benodol fflwocsetin) yw’r cyffur a ddewisir gyntaf ar gyfer trin bwlimia nerfosa o ran derbynioldeb, goddefiant a lleihau symptomau. 
  • Yn achos pobl â bwlimia nerfosa, mae’r dos effeithiol o fflwocsetin yn uwch nag ar gyfer iselder (60mg yn ddyddiol). 
  • Ni argymhellir unrhyw gyffuriau eraill, ac eithrio gwrthiselyddion) ar gyfer trin bwlimia nerfosa. 

Ac o gymharu dull cyfun o ddefnyddio gwrthiselyddion a CBT, gyda CBT yn unig, mae NICE yn nodi’r canlynol:- 

  • Ychydig iawn o gymariaethau sydd wedi eu gwneud mewn perthynas â thriniaethau seicolegol a ffarmacolegol, a'u cyfuno, a’r canlyniad yw bod raid i unrhyw argymhellion o ran ymarfer fod yn ofalus. 
  • Dim ond ychydig o astudiaethau sydd wedi cynnwys cyfnodau dilynol ôl-driniaeth, sydd yn broblem gyda bron yr holl astudiaethau sydd wedi defnyddio cyffuriau. 
  • Mae cymariaethau therapi ymddygiadol gwybyddol - bwlimia nerfosa (CBT-BN) gyda chyffuriau gwrthiselyddion yn dangos mai CBT-BN yw’r driniaeth fwyaf effeithiol. 
  • Mae cyfuno CBT a chyffuriau gwrthiselyddion yn well na chyffuriau gwrthiselyddion yn unig

Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau