Cwestiynau Cyffredin

A YW FFLIW YN DEBYG I ANNWYD TRWM?

Mae ffliw drwg yn llawer gwaeth nag annwyd trwm. Mae symptomau ffliw yn ymddangos yn gyflym ac yn ddifrifol ar brydiau. Maent yn cynnwys oerni, cur pen a chyhyrau poenus. Mae’n debygol y byddech yn treulio 2 i 3 diwrnod yn y gwely a gallech ddiweddu yn yr ysbyty.

A YW BRECHLYN FFLIW YN RHOI FFLIW I CHI?

Nac ydyw. mae’r brechlyn ffliw a chwistrellir yn cynnwys firws a anweithredol, felly ni all roi’r ffliw i chi. Efallai bydd eich braich yn teimlo ychydig yn boenus, ond mae adweithiau eraill yn brin. Efallai y bydd gostyngiad yn adwaith eich imiwnedd am ychydig ddyddiau ond nid yw’n rhoi ffliw i chi.

A ALL GWRTHFIOTOGAU DRIN FFLIW?

Na, oherwydd mai firysau sydd yn achosi ffliw. Gellir rhagnodi gwrth firysau ond nid ydynt yn gwella ffliw.

A YW BRECHLYN FFLIW YN PARA AM OES?

Nac ydyw. Mae’r firysau sydd yn achosi ffliw yn newid bob blwyddyn, felly byddwch angen brechlyn newydd bob blwyddyn sydd yn cyfateb i’r straen newydd sydd yn cylchredeg.

A DDYLAI MERCHED BEICHIOG BEIDIO CAEL Y BRECHLYN FFLIW?

Gall merched beichiog gael eu brechu ar ba bynnag gam o feichiogrwydd maent wedi ei gyrraedd. Hefyd gall y brechlyn warchod y newydd-anedig yn ystod misoedd cynnar eu bywydau.

A YW BRECHLYN FFLIW YN GWACRHAD RHAG FFLIW MOCH?

Ydyw. Mae'n gwarchod rhag ystod o wahanol fathau o ffliwiau.

ALL PLANT GAEL Y BRECHLYN FFLIW?

Gallent. Fel arfer fe’i rhoddir fel chwistrell ffroenol i blant.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau