Cynghorion gorau
Hwyluswyr cymryd y brechlyn
Rhai 65 oed a hŷn;
- Ddim eisiau lledaenu’r ffliw i ffrind a theulu
- gwybodaeth am ddifrifoldeb ffliw
- Mae cael cyflwr cronig yn cynyddu’r risg o gael ffliw
- Deall buddion brechu
- Agwedd bositif tuag at atal
6 mis - 64 blynedd gyda chyflyrau clinigol penodol
- Gall ystyried ble rhoddir brechlyn gynyddu’r niferoedd sydd yn ei gymryd, er enghraifft, lleoliadau arloesol megis fferyllfeydd, cartrefi gofal, ysgolion a lleoliadau cymunedol eraill
- Gall derbyn nodyn atgoffa personol, er enghraifft, wyneb yn wyneb yn ogystal ag ysgrifenedig neu atgoffa cleifion pa maent yn casglu eu rhagnodiadau gynyddu’r niferoedd.
Merched beichiog
- Mae’n bwysig cael aelodau tîm bydwreigiaeth gwybodus ac ysgogol sydd yn hyrwyddo pwysigrwydd brechu ymysg merched beichiog.
- Staff mamolaeth sydd yn cynnig y brechlyn ffliw fel rhan o ofal arferol, a hynny’n cael ei gynnig ar adeg bwcio pan fo’n bosibl.
- Sicrhau bod merched beichiog yn derbyn gwybodaeth a chyngor priodol a chyson.
- Cyfathrebiadau allweddol - mae negeseuon cadarnhaol bod brechlyn fliw yn darparu gwarchodaeth i’r fam a’r plentyn ac na fydd yn niweidio’r fam na’r plentyn yn y groth yn well na negeseuon negyddol y gall ffliw achosi cymhlethdodau difrifol yn ystod beichiogrwydd ac y gall beryglu’r plentyn yn y groth.
- Mae’n hanfodol bod bydwragedd yn ymgymryd â rolau canolog